Ein Hanes

Nant Gwrtheyrn > Ein Hanes

Am Nant Gwrtheyrn

Pentref anghyfannedd oedd Nant Gwrtheyrn yn y 1970au yn dilyn cau y chwareli. Roedd y tai, y swyddfeydd, y capel a’r siopau, a godwyd pan oedd y chwareli yn eu hanterth rhwng 1860 a 1920, a dros 2,000 o ddynion yn cloddio’r ithfaen, yn wag ac wedi mynd â’u pennau iddynt.

Cafodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, elusen gofrestredig, ei ffurfio trwy ddycnwch Dr Carl Clowes, meddyg teulu lleol, ac eraill, ac fe lwyddon nhw yn y pen draw i brynu’r pentref a mynd ati i adnewyddu’r hen adeiladau a datblygu canolfan ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion. Fe ddaeth y dyffryn tawel hefyd i ddenu grwpiau eraill i fwynhau ei naws unigryw.

Rhwng 2007 a 2010 cafodd y pentref rhestredig ei adnewyddu i greu canolfan breswyl unigryw, ac atyniad ar gyfer ymwelwyr dyddiol, drwy gymorth grant o £5m a ddaeth yn bennaf oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Bellach cynhelir nifer o wahanol weithgareddau, fel priodasau a chynadleddau yma yn ogystal â’r rhaglen o gyrsiau Cymraeg i oedolion drwy gydol y flwyddyn.

Mae Nant Gwrtheyrn yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant sy’n dal i gael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

Cefndir Hanesyddol

Darganfyddwch hanes cwm Nant Gwrtheyrn sydd yn dyddio yn ôl i’r 5ed ganrif

Chwedlau Nant Gwrtheyrn

Mae Nant Gwrtheyrn yn gartref i rai o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru.

Pobl

Pobl sy’n creu busnes…

Sefydlydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 tra ym mhractis meddygol ym Mro`r Eifl. Cadeirydd yn ystod y cyfnod ffurfiol a phellach yn Llywydd yr Ymddiriedolaeth. Ef oedd Cadeirydd sylfaenol Antur Aelhaearn, y gymdeithas gydweithredol gymunedol gyntaf yng ngwledydd Prydain yn 1974. Ef hefyd oedd Cadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y berthynas arbennig rhwng Cymru a Lesotho a sefydlwyd yn 1985. Bellach, yn Llywydd am Oes yr elusen honno ac yn Is-gennad Lesotho yng Nghymru. Yn 2009, fe`i gydnabuwyd gydag anrhydedd sifil ucha`r wlad sef `Member of the Most Loyal Order of Ramatseatsana`. Yn aelod o`r Orsedd, fe`i anrhydeddwyd gydag Urdd y Derwyddon am “ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol”.

Y mae ganddo ddiddordeb o hyd yn ei faes arbennigol sef `iechyd cyhoeddus` a mae `e wedi ei anrhydeddu fel Cymrawd Iechyd Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ac yn 2015 Gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am ei gyfraniadau i feddygaeth.

Ymgynghorydd a hyfforddwr ar faterion rheoli yw Jeff Williams-Jones. Sefydlodd ei gwmni ymgynghorol yn 2003 yn canlyn dros 20 mlynedd o redeg ei fusnes mewnforio a dosbarthu. Ymunodd fel aelod o’r Bwrdd dros ddeg mlynedd yn ôl a penodwyd ef yn Gadeirydd yn 2007. Mae’n byw ym Mharadwys, Ynys Môn, gyda’i bartner Nona.

 

Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994-2005. Yn ystod y 25 mlynedd cyn hynny, roedd yn un o sylfaenwyr cwmnïau Barcud , Teledu’r Tir Glas a Sain. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Portmeirion Cyf; yn Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn Gadeirydd “Cyfle”, sef cwmni hyfforddi diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol. Mae’n byw yn Llandwrog, Gwynedd.

Pennaeth Ysgol wedi ymddeol ydi Phyllis Ellis, cyn iddi ddechrau gweithio fel Swyddog Ymchwil i Dafydd Wigley A.S. Mae’n Gadeirydd mudiad Cefn, yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanddeiniolen, yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Penisarwaun a Chadeirydd Pwyllgor Rheoli Neuadd Penisarwaun. Yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, bu’n Is Gadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2005 a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Apel Penisarwaun tuag at Eisteddfod yr Urdd 2011. Mae Phyllis wedi bod yn aelod o Fwrdd Rheoli Nant Gwrtheyrn ers 1990.

Ymunodd Clive Wolfendale â Bwrdd Nant Gwrtheyrn yn 2003, wedi iddo fynychu cwrs i ddysgu Cymraeg yno. Ym mis Medi 2009, apwyntiwyd ef yn Brif Weithredwr CAIS, sef yr Asianataeth Cyffuniau ac Alcohol yng Nghymru wedi iddo ymddeol fel Prif Gwnstabwl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cadeirydd Fforwm Lleihau Niwed gan Alcohol yng Ngogledd Cymru a Chyfarwyddwr ac Ysgrifennydd Cwmni Elusennau Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Mae Clive hefyd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae’n Gyfarwyddwr Band Tref Llandudno.

Mae Phyl Brake yn gweithio yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n arwain rhaglen ymchwil Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd mae Phyl wedi ysgrifennu llawer o gwrslyfrau dysgu Cymraeg ar bob lefel – o gyrsiau i ddechreuwyr pur hyd at gyrsiau gloywi iaith i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – ond Ieithyddiaeth, yn enwedig Ieithyddiaeth Gymdeithasegol neu Sosioieithyddiaeth, yw ei brif ddiddordeb.

Dychwelodd Gareth Jones i’r Trydydd Cynulliad yn 2007 fel yr Aelod dros sedd newydd Aberconwy, ar ôl bod yn Aelod dros Gonwy yn y Cynulliad Cenedlaethol Cyntaf rhwng 1999 a 2003. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal nifer o swyddi; ef oedd llefarydd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Addysg. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2. Mae Gareth yn gyn-Bennaeth ysgol ac ymgynghorydd addysg ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, cyfiawnder cymdeithasol a’r Gymraeg. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwarae golff.

Mae Gwenda yn un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru. Sefydlodd ei chwmni Fflic yn 1982 ar gychwyn S4C. Dros ddeng mlynedd ar hugain mae Fflic wedi cynhyrchu rhaglenni ardderchog a chofiadwy ar gyfer plant, dysgwyr a rhaglenni ffordd o fyw o’r safon uchaf ar gyfer y gynulleidfa gyffredinol. Cyfrannodd at ddau lyfr a gyhoeddwyd i gyd-fynd â’i chyfresi ar bensaernïaeth Gymreig. Yn 2002 derbyniodd wobr arbennig Cymraes y Flwyddyn yn y Cyfryngau ac mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig. Mae Gwenda a Fflic yn dal i gyfrannu cynnwys yn rheolaidd i S4C ac mae’r cwmni bellach yn un o gwmnïau Boom Cymru. Magwyd Gwenda yng Nghorwen ac aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae ganddi ddau o blant – Dylan a Beca.

Ymunodd Ifor Gruffydd â Bwrdd Nant Gwrtheyrn yn 2017. Mae’n Gyfarwyddwr Consortiwm Dysgu Cymraeg y Gogledd-Orllewin ers 2016 a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Dysgu Cymraeg Gogledd Cymru am ddeg mlynedd. Dechreuodd ei yrfa ym maes polisi iaith a bu’n gweithio yn y maes hwnnw am 15 mlynedd yn sectorau llywodraeth leol ac addysg uwch cyn symud i faes Cymraeg i Oedolion. Mae’n byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn.

Brodor o Lanrwst a fagwyd mewn siop lyfrau Cymraeg ac a ddilynodd yr elfen fusnes yn y teulu drwy sefydlu Gwasg Carreg Gwalch yn y dref yn 1980. Enillodd y Gadair Genedlaethol ddwywaith ac ef oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn 2000-01. Mae’n byw gyda’i deulu yn Llwyndyrys, wedi sefydlu oriel Tonnau gyda Llio ei wraig yn 2006 ac yn un o ddeuddeg cyfarwyddwr bragdy crefft lleol, Cwrw Llŷn yn Nefyn. Mae hefyd yn un o gyfarwyddwyr Tafarn y Fic, Llithfaen ac wedi cynnal nosweithiau barddoniaeth i ddysgwyr yn y Nant.

Yn wreiddiol o Alltyblaca, Ceredigion mae Menna wedi ymgartrefu yn Llanwnda, Caernarfon ers 22 mlynedd gyda’i theulu Idris, Mabon a Caradog. Bu’n gweithio am gyfnod byr i Dr Carl Clowes, yn Awdurdod Iechyd Gwynedd, ac yna i Dafydd Wigley, A.S. yn Swyddfa Plaid Cymru, Caernarfon, a Chymdeithas Tai Eryri, fel Swyddog Datblygu Prosiectau – cyn cychwyn fel Prif Weithredwraig yn Antur Waunfawr dros ugain mlynedd yn ôl. Mae’n aelod o fwrdd Menter a Busnes, Galeri Cyf., Arloesi Gwynedd, a Fforwm Mentrau Cymdeithasol Gwynedd. Mae’n argyhoeddiedig bod y model menter gymdeithasol yn allweddol o ran darparu atebion creadigol a blaengar i ddiwallu gwasanaethau a datblygu busnesau lleol.

Cymorth ar hyd y daith...

Roedd ailddatblygiad Nant Gwrtheyrn yn bosibl drwy gefnogaeth nifer o arianwyr, sefydliadau ac unigolion allweddol…

Ein partneriaid...