Hanes Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn > Ein Hanes > Hanes Nant Gwrtheyrn

Hanes Nant Gwrtheyrn

Y mae pobl wedi bod yn ymgartrefu yn Nant Gwrtheyrn ers miloedd o flynyddoedd. Trwy gyfnodau o amaethu, chwarelu a chloddio, mae’r tir wedi cynnal bywyd ac wedi ymorol am incwm i’w drigolion. Ond oherwydd lleoliad anghysbell y Nant roedd bywyd yn galed iawn ar adegau i’r teuluoedd oedd yn byw yno.

150CC hyd at 400OC

Hanes cynnar hyd nes y 5ed ganrif

Y dystiolaeth archeolegol gynharaf o bobl yn ymsefydlu yn yr ardal ydy’r ddwy fryngaer enwog o Oes yr Haearn sy’n coroni’r tir uchel uwchben Nant Gwrtheyrn. Bu pobl yn byw yn Nhre’r Ceiri a’r Eifl rhwng 150 CC a 400 OC. Ychydig a wyddom am y trigolion cynnar yma, ar wahân i’r ffaith eu bod yn dibynnu’n helaeth ar yr haearn lleol ac yn ei allforio a’i werthu.

4edd Ganrif

Adeiladwyd rhwydwaith ffyrdd gan y Rhufeiniaid i gysylltu Caernarfon, Meirionnydd, Aberhonddu a Cheredigion i symud haearn.

5ed Ganrif

Y Brenin Gwrtheyrn yn ffoi rhag ei elynion i Nant Gwrtheyrn. Yn fuan ar ôl marwolaeth Gwrtheyrn, cyrhaeddodd tri mynach yn y Nant ar eu ffordd i fynachlog ar Ynys Enlli. Pysgotwyr oedd y bobl leol ac roeddent yn casáu’r newydd-ddyfodiaid Cristnogol, a gwrthodwyd syniad y mynachod o adeiladu Eglwys yn y Nant. O ganlyniad, gorfodwyd y mynachod i ffoi am eu bywydau.

1770au

Thomas Pennant

Yn y 1770au, ysgrifennodd Thomas Pennant am garnedd wedi’i lleoli ger y môr yn Nant Gwrtheyrn. Credir mai bedd carreg wedi’i orchuddio â thywyrch oedd hwn mewn gwirionedd, ac fe gyfeirid ato’n lleol fel Bedd Gwrtheyrn. Yn ôl Pennant, roedd trigolion y Nant wedi agor y bedd ac wedi dod o hyd i arch yn cynnwys esgyrn dyn tal ynddo.

Thomas Pennant
Thomas Gainsborough
Gyda diolch i Amgueddfa Genedlaethol Cymru

1750

Rhys a Meinir

Chwedl drist Rhys a Meinir, y ddau yn byw ar ffermydd yn Nant Gwrtheyrn

1770

Thomas Pennant yn teithio drwy Gymru, ac yn ysgrifennu 'Teithiau Cymru' sy'n disgrifio bedd Gwrtheyrn a theuluoedd y tair fferm yn yr ardal.

1794

Elis Bach Y Nant yn cael ei eni yn Fferm Tŷ Uchaf

Y Chwarelwyr, c. 1870

1850au

Yr Oes Ddiwydiannol

Yn y 1850au, roedd dinasoedd fel Lerpwl, Manceinion a Phenbedw yn tyfu’n gyflym ac roedd angen llawer iawn o ddeunyddiau adeiladu ar eu cyfer. Roedd rhaid cael ffyrdd gydag wyneb cadarn i ymdopi â’r holl draffig a daeth galw mawr am sets ithfaen.

Beth yw Set?

Set ydy darn o ithfaen wedi’i siapio’n fricsen sgwâr neu hirsgwar. Roedd y sets hyn yn cael eu defnyddio i roi wyneb ar strydoedd trwy Brydain.

1851

Agorwyd y chwarel ithfaen gyntaf yn Nant Gwrtheyrn gan Hugh Owen o Ynys Môn

1861

Kneeshaw a Lupton, cwmni o Lerpwl yn cymryd rheolaeth o Nant Gwrtheyrn ac yn agor chwarel ar ochr ddeheuol y Bae.

1875

Adeiladwyd Capel Seilo ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd

1878

Adeiladwyd 26 o dai newydd ar ffurf dau deras (Mountain view a Sea View) ar gyfer gweithwyr chwareli Port y Nant.

1886

Cyfrifiad yn dangos bod nifer y bobl sy'n byw yn Nant Gwrtheyrn wedi cynyddu i 200.

1890au

Roedd cloddio am ithfaen yn llwyddiant mawr, ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd tair chwarel wedi eu hagor yn y Nant:

Cae’r Nant
Porth y Nant
Carreg y Llam

O ganlyniad, roedd llongau 150-200 tunnell yn cael eu llwytho a’u hanfon i’r dinasoedd diwydiannol yn rheolaidd gan ddychwelyd gyda phob math o gynnyrch nad oedd ar gael yn lleol i’r chwarelwyr.

1900

Roedd gan Gapel Seilo 40 o bobl ar eu llyfrau ac roedd tua 60 yn mynd i’r ysgol Sul.

1908

Mewn ymgais i wella safon addysg, cymerodd Cyngor Sir Gaernarfon reolaeth dros addysg yn Nant Gwrtheyrn - Roedd y safon yn annigonol cyn hynny.

1910

Lewis Jones Roberts, arolygydd addysg ar gyfer yr AEM yn awgrymu newid yr enw o Bort y Nant i Nant Gwrtheyrn.

1914

Y parch GW Jones, Parc, Ynys Môn yn pregethu yn Seilo am y tro diwethaf.

1925

Tirlithriad yn Nant Gwrtheyrn a dinistrio’r barics am byth.

1930au

Diwedd cyfnod...

Arafodd y galw am ithfaen yn sylweddol

Er i’r pentref gael adfywiad yn y 1930au fel y cododd y galw am ithfaen drachefn i adeiladu ffyrdd a thwnelau, ddaeth ffyniant y gorffennol ddim yn ôl.

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939, caeodd Chwarel y Nant am y tro olaf a gadawodd y teuluoedd y pentref fesul un.

1934

Dringo'r allt!

Gwyliwch y car cyntaf yn dringo’r allt allan o’r pentref.

A German spy

1943

Yr ysbïwr o’r Almaen neu Mrs Margaret Gladys Fisher (o Feddgelert) yn marw mewn tân, mewn cwt pren o'r enw 'Y pedwar gwynt' uwch chwarel Carreg y Llam.

1948

Ysgol Nant Gwrtheyrn yn cau ei drysau am byth.

1959

Y teulu olaf yn gadael y Nant am byth gan adael y pentref yn wag.

Y 1970au Cynnar

Comiwn New Atlantis

Yn ystod y 1970au cynnar, cafodd y pentref ei feddiannu gan hipis y New Atlantis Commune. Fe fuon nhw’n byw yno heb gyflenwad dŵr na thrydan na system garthffosiaeth. Fe achoson nhw lawer o ddifrod i’r Nant gan losgi lloriau a drysau fel coed tân a gorchuddio’r waliau â graffiti. Am olygfa drist oedd hon i unrhyw un oedd ag atgofion arbennig am gymuned glòs a chwareli prysur y Nant! Pan adawodd aelodau’r comiwn y Nant, cafodd yr adeiladau eu gadael yn adfeilion.

Breuddwyd a ddaeth yn ffaith

Yn 1970, symudodd y Meddyg Carl Clowes o`i swydd arbenigol yn Ysbyty Christie, Manceinion i redeg meddygfa Llanaelhaearn ar ei ben ei hun. Roedd ef a’i wraig Dorothi yn benderfynol o fagu eu plant yn siaradwyr Cymraeg. Ond yr hyn a ganfu oedd cymuned yn wynebu problemau gwirioneddol, a theimlodd y dylai rhywbeth gael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa. Roedd chwarel ithfaen gyfagos yn Nhrefor ar fin cau ac roedd Ysgol Llanaelhaearn hefyd dan fygythiad o gael ei chau. Roedd rhaid creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal os oedd hi am oroesi.

Ers i Ddeddf gyntaf yr Iaith Gymraeg ddod i rym yn 1967 roedd galw cynyddol am weithwyr dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus. Roedd y meddyg o`r farn bod angen canolfan breswyl fyddai’n agored drwy gydol y flwyddyn i gynnig cyrsiau Cymraeg i sicrhau hyn.

Wrth i’r ddau syniad asio gyda’i gilydd, ac er bod yr adeiladau yn adfeilion erbyn y 70au, penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn y Nant a fyddai yn creu gwaith ar gyfer pobl leol ac yn rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg.

Mehefin 1972

Wedi iddo ef ei holi flwyddyn ynghynt, rhodd Mrs Knox, gwraig i gyn-reolwr y Nant, wybod i Dr Carl Clowes am `barodrwydd` ARC i werthu’r Nant.

1972 - 1978

Ymgyrch gyhoeddusrwydd gref o lobio, denu cefnogaeth gan y cynghorau lleol, deisebu a llythyrau yn y wasg.

Byw fyddi Nant Gwrtheyrn

Gorffennaf 1978

Trafodaethau i brynu’r pentref gyda AMEY Roadstone Corporation (ARC) yn dod i ben a throsglwyddwyd eiddo Porth y Nant i Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn am y swm o £25,000. Bu codi arian ar raddfa enfawr trwy Gymru benbaladr er mwyn cael cefnogaeth i’r prosiect a bydd Nant Gwrtheyrn yn nyled pobl Cymru am byth am eu ffydd, eu penderfyniad a’u haelioni.

nant_timeline_80s

1978 – 1982

Sefydlu apêl lwyddiannus i godi arian i wneud gwelliannau cychwynnol i’r tai a defnyddio’r cynllun MSC (Comisiwn Gwasanaethau’r Llafurlu) i noddi rhai o’r gwelliannau.

nant_timeline_1982

1982

Cynhaliwyd gwersi Cymraeg am y tro cyntaf yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn gan y tiwtoriaid gwirfoddol, Merfyn Morgan a Gwenno Hywyn, i Sain generadur disel.

1982 – 1990s

Parhau i wneud gwelliannau i’r Tai, y Plas a Chaffi Meinir gyda chymorth hael amryw o wirfoddolwyr a chyfranwyr ledled Cymru. Mae enwau’r tai hyd heddiw yn cynrychioli natur y noddwyr hael hyn. Erbyn y 90au, roedd y gwelliannau sylfaenol wedi eu gwneud a’r ‘gwasanaethau’ yn eu lle.

1987

Penodi Meic Raymant fel prif diwtor cyntaf y Nant.

1990s

Cyfnod o sefydlogi, gwneud mân welliannau i’r tai ac arbrofi gyda’r farchnad.

1994

Pobl y Chyff yn dod ar gwrs i'r Nant!

2000 ymlaen

Yr oes fodern

Agorwyd y Ganolfan Dreftadaeth yng Nghapel Seilo yn 2003 a arweiniodd at nifer cynyddol o ymwelwyr dyddiol yn ymweld â’r Nant yn y blynyddoedd i ddod. Cyfrannodd Nant Gwrtheyrn dros £0.7 miliwn i economi Pen Llŷn yn 2003.

2003

Capel Seilo yn agor fel Canolfan Dreftadaeth gyda chyngerdd agoriadol gan y Super Furry Animals a Rhys Ifans.

2008

Gwaith mawr i uwchraddio'r ffordd yn cwblhau a chaniatáu i fysiau 70 sedd gael mynediad i’r pentref.

2011

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn agor y datblygiad gwerth £5 miliwn yn swyddogol.

2015

Caffi

Gwaith i uwchraddio ac estynu'r Caffi yn cael ei gwblhau

2016

Agoriad swyddogol Tŷ Canol

Cyfleusterau newydd sbon gyda llety ychwanegol ar gyfer hyd at 38 o bobl yn cael ei agor gan Weinidog Llywodraeth Cymru, Alun Davies.