Cwrs Llên Cymru efo Bethan Gwanas

Nant Gwrtheyrn > Digwyddiadau > Cwrs Llên Cymru efo Bethan Gwanas

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • This event has passed.

Cwrs Llên Cymru efo Bethan Gwanas

Mehefin 17 - Mehefin 21

£495

Yn sgil llwyddiant y cwrs hwn yn 2017 a 2018, bydd Bethan yn ei hôl i arwain cwrs ar rai o awduron cyfoes gorau Cymru; y tro hwn, awduron fel Daniel Davies, Sian Northey a Llwyd Owen. Rhyddiaith fydd dan y chwyddwydr yn bennaf, ond bydd sylw hefyd at gerdd neu ddwy. Fel arfer, bydd cyfle i gyfarfod ag ambell un o’r awduron, yn cynnwys enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2018, Manon Steffan Ros. Y nofel honno, Llyfr Glas Nebo, fydd testun y sgwrsio gyda darllenwyr lleol ar y pnawn Mercher.

Dan arweiniad awdures sydd hefyd yn diwtor Cymraeg profiadol, bydd yn siŵr o fod yn gwrs difyr, addysgiadol a hwyliog!

 

BETHAN GWANAS

Awdures 37 o lyfrau i blant ac oedolion (a chyfres Bywyd Blodwen Jones ar gyfer dysgwyr), a thiwtor Cymraeg ac ysgrifennu creadigol. Enillodd wobr Tir na nOg am ei llyfrau i’r arddegau gyda Llinyn Trôns a Sgôr, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant gyda Gwylliaid. Roedd Hi yw Fy Ffrind ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2005. Wedi ysgrifennu nifer o ddramau llwyfan, teledu a radio hefyd ac mae’n ysgrifennu colofn i’r Herald Gymraeg yn y Daily Post ers dros 19 mlynedd. Mae’n byw ger Dolgellau ym Meirionnydd.

Manylion

Dechrau:
Mehefin 17
Diwedd:
Mehefin 21
Cost:
£495
Website:
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/82115ca2-db9b-e811-a953-002248015e4e/

Digwyddiadau i ddod

  1. Arwyr a Dihirod efo Rhodri Trefor

    Awst 12 - Awst 16
  2. Brwydr yr Iaith efo Angharad Tomos

    Tachwedd 4 - Tachwedd 8