Ymweliad â Gwlad y Basg

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Ymweliad â Gwlad y Basg

Ymunodd Cadeirydd Nant Gwrtheyrn, Huw Jones, â dirprwyaeth o Gymru ar ymweliad tridiau â Gwlad y Basg er mwyn astudio’r drefn o ddysgu Basgeg fel ail iaith sy’n cael ei gweithredu yn y wlad honno.

Mae poblogaeth Gwlad y Basg rywbeth yn debyg i Gymru, ond mae’r nifer sy’n dweud eu bod nhw’n medru siarad yr iaith wedi codi’n sylweddol ac mae Cymru am wybod be sydd wedi achosi hyn.

Roedd y cynrychiolwyr o Gymru yn cynnwys Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Efa Gruffudd Jones, swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar daith a drefnwyd gan Meirion Prys Jones, cyn Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Meirion sydd wedi helpu Nant Gwrtheyrn i lunio’r rhaglen lwyddiannus Iaith Gwaith. Dros dri diwrnod fe fuon nhw’n ymweld â dwy ganolfan ddysgu, un ohonyn nhw yn ganolfan breswyl fel Nant Gwrtheyrn, dwy brifysgol a phencadlys HABE, y corff sy’n gyfrifol am gydlynu ac ariannu’r drefn o ddysgu’r iaith i oedolion ar draws y wlad.

Meddai Huw Jones: “Roedd hwn yn ymweliad gwerth chweil. Mae’r Basgiaid yn mynnu bod bron i bawb sy’n dal swydd yn y sector gyhoeddus yn pasio arholiad safon uchel yn yr iaith ac mae hyn yn creu galw mawr am gyrsiau. Mae’r bobl eu hunain hefyd am ddysgu neu wella eu hiaith. Mae’r llywodraeth a’r cynghorau lleol yn rhoi cymorth ariannol hael i’r cyrsiau ac i’r rhai sy’n eu dilyn. Mae tua 70% o ddisgyblion ysgol y wlad yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng Basgeg, ac mae’r prifysgolion yn cynnig ystod eang iawn o gyrsiau o bob math trwy gyfrwng yr iaith. Mewn sawl ffordd, maen nhw wedi mynd ar y blaen i Gymru, ar ôl cychwyn o safle ieithyddol tebyg yn y 70au. Ond maen nhw hefyd, fel yng Nghymru, am weld mwy o bwyslais ar sicrhau bod pobl yn defnyddio’r iaith ar ôl ei dysgu. Ym mis Tachwedd, er enghraifft, fe fydd yna gyfnod o 11 diwrnod lle mae pawb drwy’r wlad yn cael eu cymell i gychwyn sgyrsiau yn yr iaith Fasgeg ac i ddangos eu bod yn fodlon ei siarad neu yn gallu ei deall yn ddigon da i ddilyn sgwrs heb i’r iaith gael ei newid ar eu cyfer. Fe fydd yn arbrawf diddorol. Gallwn ddysgu llawer o’r wlad yma lle am flynyddoedd maith o dan Franco, roedd yr iaith i bob pwrpas wedi’i gwahardd o unrhyw lwyfan cyhoeddus”.