Darganfod

Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn > Darganfod

nant_gwrtheyrn_diiscover_01

Y Ganolfan Dreftadaeth

Cafodd y Ganolfan Dreftadaeth ei hagor yng Nghapel Seilo yn 2003 ac mae ynddi gyfoeth o wybodaeth ac arddangosfeydd diddorol am hanes yr ardal a datblygiad y safle hyd at heddiw.

Arddangosfa am ddim sydd yn dweud hanes pentref chwarel Porth y Nant a datblygiad y Ganolfan Iaith Gymraeg

Detholiadau o ffilmiau a rhaglenni radio sy’n dod â’r pentref chwarelyddol prysur yma yn ôl yn fyw trwy atgofion pobl a fu’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

Casgliad mawr, sydd yn dal i dyfu, o luniau o Nant Gwrtheyrn. Mae croeso i chi edrych trwy ein llyfrau ffotograffau.

Llyfr chwedlau sy’n cynnwys hanes y Brenin Gwrtheyrn a Rhys a Meinir.

Gemau cyfrifiadurol wedi eu cynllunio’n arbennig i brofi eich gwybodaeth chi am waith bob dydd gwraig tŷ yn Oes Victoria, enwau lleoedd ar benrhyn Llŷn a phopeth Cymraeg a Chymreig.

nant_gwrtheyrn_diiscover_02

Bwthyn y Chwarelwr

Pan fyddwch yn ymweld â Nant Gwrtheyrn, beth am deithio trwy amser a dod i weld bwthyn y chwarelwr? Mae’r tŷ hwn a’i holl gynnwys wedi cael eu hailgreu i ddangos sut y byddai chwarelwr a’i deulu wedi byw yn 1910.

Yn y pentref ceir dwy res o dai teras a godwyd yn 1878 wedi i gwmni’r chwarel benderfynu bod angen llety mwy parhaol ar gyfer chwarelwyr Porth y Nant. Galwyd y ddau deras yma yn Trem y Môr a Threm y Mynydd.

nant_gwrtheyrn_diiscover_03

Coeden Meinir

Ydych chi wedi clywed am stori garu drist Rhys a Meinir, y ddau gariad o Nant Gwrtheyrn? Yn ystod eich ymweliad â’r Nant, cofiwch fynd i weld y goeden symbolaidd lle y carcharwyd y briodferch ifanc ar ddydd ei phriodas.

 

nant_gwrtheyrn_diiscover_04

Tu Hwnt

Crëwyd y cerflun hwn gan yr artistiaid Awst & Walther ar gyfer prosiect celf arbennig yn Barclodiad-y-Gawres, Ynys Môn ym Mehefin 2014. Eu bwriad oedd creu moment o ffocws er mwyn adlewyrchu ar y berthynas rhwng unigolion a thirwedd, gan dynnu sylw at ein persbectif cyfyngedig gweledol ni. O fewn y cerflun mae lle i un person sefyll – wedi’i gysgodi rhag y gwynt, a’r gwydr fel rhyw lens dadansoddol o flaen ein llygaid.

 

Mae’r teitl ‘Tu Hwnt’ yn ein hysgogi ni i geisio gweld ymhellach na’r amlwg, i geisio mynd ymhellach na’r swyn rhamantaidd mae tirlun yn ei gynhyrfu ynom ni. Rydym yn byw mewn amser lle mae dyfodol tirweddau fel arfordir Cymru yn ansicr oherwydd cynhesu byd-eang a lefelau môr yn codi, oherwydd y ffyrdd anghyfrifol mae’r ddynolryw wedi trin yr amgylchedd. Sut fath o gysylltiadau newydd gallwn ddychmygu rhwng pobl a thirwedd?

 

Yn byw a gweithio yng Nghaernarfon a Berlin, mae Manon Awst a Walther yn gweithio fel tîm artistig ers 2007. Maent wedi arddangos eu gwaith gofodol, cerfluniau a pherfformiadau yn rhyngwladol ac yn hynod falch fod ‘Tu Hwnt’ wedi darganfod cartref newydd mor briodol yn Nant Gwrtheyrn. Roedd yn hynod bwysig iddynt fod y darn yn sefyll ar arfordir Cymru, gan fod gorwel y môr yn haen hanfodol i ystyr y gwaith.

nant_gwrtheyrn_diiscover_06

Bryngaer Tre'r Ceiri

Cofiwch eich esgidiau cerdded!

Tre’r Ceiri ydy un o henebion mwyaf hynod Cymru. Cafodd ei dwyn i sylw’r cyhoedd yn gyntaf gan Thomas Pennant, a ysgrifennodd ei lyfr enwog ‘Tours of Wales’ am ei deithiau o gwmpas Cymru. Mae lleoliad trawiadol Tre’r Ceiri wedi denu ymwelwyr a cherddwyr ers blynyddoedd.

 

Y dystiolaeth archeolegol gynharaf o bobl yn ymsefydlu yn yr ardal ydy’r ddwy fryngaer enwog o Oes yr Haearn sy’n coroni’r tir uchel uwchben Nant Gwrtheyrn. Bu pobl yn byw yn Nhre’r Ceiri a’r Eifl rhwng 150 CC a 400 OC. Ychydig a wyddom am y trigolion cynnar yma, ar wahân i’r ffaith eu bod yn dibynnu’n helaeth ar yr haearn lleol ac yn ei allforio a’i werthu.

nant_gwrtheyrn_diiscover_05

Teithiau Natur

Mae rhwydwaith o lwybrau sy’n amrywio o ran pellter a gallu yn amgylchynnu’r dyffryn. Yma cewch cyfres o linciau at wefannau sy’n rhoi mwy o wybodaeth am lwybrau cerdded yr ardal, gan gynnwys ambell i sialens all fod o ddiddordeb:

Newyddlen

Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a manylion am ddigwyddiadau a chynigion arbennig.


Tanysgrifiwch fi i dderbyn y newyddlen!

Llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad â chi.