Fel pob sefydliad arall sydd wedi arfer estyn croeso i ymwelwyr, rydym yn ymwybodol iawn o’r angen i daro cydbwysedd rhwng ein dymuniad i wneud hynny eto, a’n dyletswydd i’n staff ac i’r gymuned leol i wneud popeth posibl i ddiogelu iechyd, tra bydd y coronafeirws yn dal o gwmpas. Dyma pam rydym yn ail-agor y safle un cam ar y tro.
Mae’r giât i lawr i’r Nant a Caffi Meinir wedi ail-agor i’r cyhoedd. Mae’r Caffi ar agor yn ddyddiol rhwng 11am – 6pm. Bydd ein atyniadau (Y Ganolfan Dreftadaeth a Tŷ Cyfnod) yn parhau ar gau. Rydym yn cymryd rhan yn y cynllun Bwyta Allan i Help Allan sy’n cynnig gostyngiad i chi ar eich bwyd. Gwybodaeth yma.
Rydym yn derbyn archebion ar gyfer ein bythynod hunan-ddarpar a llety gwely a brecwast. Gellir archebu tŷ hunan ddarpar ar wefan Gorau o Gymru: https://www.bestofwales.co.uk/
Rhwng mis Awst a mis Hydref bydd y cyrsiau Cymraeg yn cael eu dysgu gan ein tiwtoriaid profiadol ar-lein yn unig. Bydd y rhain yn gyrsiau dwys (5 awr y dydd o ddysgu) gydag amrywiaeth ar gyfer y gwahanol lefelau. Mae manylion llawn am ein cyrsiau digidol newydd i’w gweld fan hyn.
Diolch i chi gyd am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus dros y cyfnod anodd hwn. Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu i’r Nant.