Ail-gyhoeddi llyfr poblogaidd

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Ail-gyhoeddi llyfr poblogaidd

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod ailargraffiad o lyfr poblogaidd Dr Carl Clowes ‘Nant Gwrtheyrn – Rebirth of the Lost Village’ wedi cael ei gyhoeddi.

Argraffwyd y gyfrol gyntaf yn 2008, ac yn y gyfrol hon mae Dr Clowes yn ein diweddaru ar y datblygiadau er hynny. Mae’r llyfr yn adrodd hanes cyfoethog yr ardal arbennig, o ddatblygiad y chwareli i hanes sefydlu’r Nant fel y gwelwn ni hi heddiw.

Dywedodd Dr Carl Clowes: “Mae cyhoeddi ‘Nant Gwrtheyrn – Rebirth of the Lost Village’ yn 2020 yn nodi carreg filltir yn ein hanes. Pan y’i gyhoeddwyd ddiwethaf, nid oedd rhai o’r adnoddau sydd ar gael heddiw ond, megis, yn y pen neu gynllun ar bapur. Braf felly yw gweld gymaint wedi ei wireddu ers y gyfrol ddiwethaf – y Neuadd, tŷ gwydr Caffi Meinir, llety Tŷ Canol a’r ystafell seminar – i enwi rhai. Mae’r cyfan yn ychwanegu at brofiad y sawl sydd yn mwynhau’r Nant.

“Yn sgil y gwelliannau, mae sawl cyfle wedi ei greu. Dan ni wedi gweld cynnydd rhyfeddol yn nefnydd ein hadnoddau dysgu gyda’n cyrsiau byw neu ar-lein yn ennill clod. Defnydd cynyddol hefyd o’r adnoddau ar gyfer chynadleddau, priodasau ac astudiaethau awyr agored.

“Ar adeg gychwynnol yr Ymddiriedolaeth yn y ‘70au, roedd ddau nod sef, creu ‘peiriant’ i hybu’r Gymraeg, a chreu gwaith ar gyfer y gymuned Cymraeg yn y fro. Gyda thîm o staff arbennig, a chefnogaeth ragorol o sawl cyfeiriad ar hyd y blynyddoedd, dan ni wedi llwyddo gyda’r amcanion hyn. Ymlaen felly gan obeithio y bydd modd inni ychwanegu’n fwy byth at y nod o greu Cymry hyderus yn eu hiaith gynhenid.”

Os ydych am fynd o dan yr wyneb stori’r Nant, ceir hanes fanylach yn llyfr hunan-gofiant Carl Clowes – “Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia – a Fi” a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2016. Mae’r llyfrau yma ar gael yn siop y Nant neu ar-lein: https://nantgwrtheyrn.cymru/siop/

feeb