Elis Bach

Nant Gwrtheyrn > Amdanom > Hanes Nant Gwrtheyrn > Chwedlau Nant Gwrtheyrn > Elis Bach

Straeon gwerin Nant Gwrtheyrn: Elis Bach

Tŷ Canol oedd cartref Elis Bach, cymeriad diddorol a oedd yn byw yn y Nant yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn ddyn byr iawn a dim ond 30 centimedr o hyd oedd ei goesau.

Erbyn y cyfnod hwn roedd marchnad anifeiliaid yn cael ei chynnal yn rheolaidd yn y Nant a byddai ffermwyr o’r ardal a thu hwnt yn ei mynychu. Elis Bach oedd y rhedwr cyflymaf yn yr ardal a gallai ddringo’n chwim dros lethrau garw’r mynydd. Oherwydd hyn ef oedd yn cael y cyfrifoldeb o hel y defaid a’r geifr at ei gilydd yn barod ar gyfer diwrnod marchnad.

 

Un bore daeth dau ddieithryn i’r farchnad, gan brynu llawer o anifeiliaid a chynnig llawer mwy o arian nag oedd raid amdanynt. Ar ôl y prynu a’r gwerthu, gwahoddodd Elis Bach y ddau ddyn i’w gartref am bryd o fwyd.

Gan ei fod yn chwilfrydig ynglŷn â’u hymddygiad, cuddiodd Elis mewn cwpwrdd a chlywodd y ddau ddieithryn yn cynllwynio i ddwyn y defaid. Pan welodd nhw yn cychwyn i fyny’r Gamffordd ar frys, fe gymerodd Elis lwybr arall drwy’r coed gyda’i gi ffyddlon, Meg, ac aros amdanyn nhw ger tro yn y ffordd. Yna neidiodd allan fel roedden nhw’n mynd heibio. Dychrynwyd y dynion a phrysurodd y ddau tua phentref Pistyll, gan adael Elis a Meg i arwain y defaid yn ôl i lawr y lôn i’r Nant.