Straeon gwerin Nant Gwrtheyrn: Stori Gwrtheyrn
Mae Nant Gwrtheyrn wedi cael ei henwi ar ôl y Brenin Gwrtheyrn, brenin o Gaint a reolai’r Brydain fore yn gynnar yn y bumed ganrif ac a ddaeth i’r dyffryn mewn gwarth ar ôl bradychu ei bobl.
Mewn ymdrech i aros mewn grym, ceisiodd Gwrtheyrn gymorth milwyr cyflog Sacsonaidd, gan ei wneud ei hun yn amhoblogaidd ymysg ei bobl. Yn fuan ar ôl i’r Sacsoniaid gyrraedd, syrthiodd Gwrtheyrn mewn cariad gydag Alys Rhonwen, merch arweinydd y Sacsoniaid, Hengist, a gofynnodd am gael ei phriodi.
I ddathlu, trefnodd Hengist wledd ar gyfer Gwrtheyrn, ei filwyr cyflog a Brythoniaid pwerus eraill.
Ond cynllwyniodd Hengist yn gyfrwys i lofruddio’r Brythoniaid, ac ar ei orchymyn cododd pob Sacson a thrywanu’r Brython oedd yn eistedd wrth ei ymyl.
Wedi’i syfrdanu gan y fath frad, ffôdd Gwrtheyrn i’r Nant lle y treuliodd weddill ei ddyddiau mewn gofid.
Dywed rhai mai ei gam farn ef oedd yn gyfrifol am adael i’r Sacsoniaid gipio grym a goresgyn y rhan fwyaf o’r hyn sydd bellach yn Lloegr. Gwrtheyrn gafodd y bai ac mae iddo enw drwg mewn hanes fel y brenin Brythonig a fradychodd ei bobl ei hun i’r Sacsoniaid.
Cynghorwyd Gwrtheyrn gan ei dderwyddon i “fynd i gornel bellaf dy wlad a chodi caer yno”. Teithiodd Gwrtheyrn drwy Ganolbarth Cymru i fynyddoedd Eryri a dechreuodd godi ei gaer yno. Fodd bynnag, bob tro roedd yn ceisio ei hadeiladu, byddai’r gaer yn dymchwel ac yn diflannu mewn rhyw ffordd ddirgel. O’r diwedd daeth Gwrtheyrn o hyd i fachgen a oedd heb dad, dewin ifanc o’r enw Emrys Wledig, a chafodd gymorth ganddo. Fe ddywedodd Emrys wrth y brenin fod llyn o dan sylfeini’r gaer lle’r oedd dwy ddraig yn cysgu, un wen yn cynrychioli’r Sacsoniaid a draig goch y Gymru newydd. Gwagiodd Gwrtheyrn y llyn a dechreuodd y dreigiau ymladd yn yr awyr. Y ddraig goch a orfu. Cododd y dewin ei gaer ei hun gyferbyn â’r llyn – Llyn Dinas ger Beddgelert – ac ers hynny gelwir y lle yn Dinas Emrys. Cafodd Gwrtheyrn ei orfodi i fynd “tua’r gogledd”.
Dywedir bod Gwrtheyrn wedi ymgartrefu yn Nant Gwrtheyrn lle y byddai’n sicr o fod wedi dod o hyd i ddigon o haearn i arfogi byddin. Mae dwy fersiwn o’r hyn a ddigwyddodd iddo wedyn. Yn ôl y fersiwn gyntaf, anfonodd Duw dân o’r nefoedd i’w losgi, a hynny o bosib ar ffurf mellten, gan fod llawer o stormydd mellt a tharanau yn Nant Gwrtheyrn. Fel roedden nhw’n ceisio dianc, lladdwyd Gwrtheyrn a’i fab, Gwrthefyr Fendigaid, gan Garmon, un o’r arweinwyr lleol.
Yn ôl y fersiwn arall, torrodd Gwrtheyrn ei galon ar ôl iddo wahodd y Sacsoniaid i Brydain ac aeth i grwydro’r mynyddoedd, wedi colli ei bwyll – thema sydd i’w gweld dro ar ôl tro mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae prif elfennau’r straeon hyn: y tân o’r nef, y bachgen heb dad a’r gwallgofddyn yn crwydro i’w canfod mewn chwedlau eraill drwy Gymru.
