Straeon gwerin Nant Gwrtheyrn: Rhys a Meinir
Y Nant ddiarffordd ydy lleoliad un o straeon caru mwyaf trist ac enwog Cymru. Cafodd Rhys a Meinir eu magu yn y Nant, ac wedi i gyfeillgarwch eu plentyndod flodeuo yn garwriaeth, fe benderfynon nhw briodi.
Hoff lecyn y cwpwl ifanc oedd o dan hen dderwen, ar lethrau isaf yr Eifl.
Penderfynwyd ar ddyddiad ar gyfer y briodas ac aethpwyd ati i wneud y paratoadau. Y gwahoddwr oedd Ifan y Cilie a aeth o gwmpas y fro yn dweud wrth bawb bod Rhys a Meinir i briodi yn Eglwys Clynnog ar ddydd Sadwrn arbennig. Gwahoddwyd rhai cymdogion i lawr i’r Nant y diwrnod cyn y briodas i roi anrhegion i’r cwpwl ifanc. Rhoddodd pawb bethau defnyddiol: daeth un â darn o ddefnydd ac un arall â blawd burum. Roedd y gwahoddedigion a’r teulu i gyd yn edrych ymlaen at achlysur llawen y briodas drannoeth.
Yn ystod y cyfnod hwn nid oedd ond tair fferm yn y Nant – Tŷ Uchaf, Tŷ Canol a Thŷ Hen. Roedd pobl Nant Gwrtheyrn yn cadw hen draddodiad y ‘Chwilfa Briodas’.
Beth oedd hyn yn ei olygu?
Byddai’r briodferch yn mynd i guddio ar fore’r briodas.
Pan ddaeth y diwrnod mawr, aeth pawb draw i Eglwys Clynnog, ar wahân i Meinir a gychwynnodd am y bryniau.
Gan chwarae eu rhan yn y traddodiad, aeth ffrindiau Rhys i chwilio am Meinir, ond er edrych ym mhob twll a chornel chawson nhw ddim hyd iddi.
Ar ôl deall bod ei briodferch ar goll, aeth Rhys yn ôl i’r Nant a chwilio’n wyllt am guddfan Meinir. Yn llawn gofid, treuliodd Rhys fisoedd yn chwilio am ei gariad, ac yn araf fe aeth o’i gof.
Yna, un noson stormus, ac yntau allan yn crwydro’r gweunydd, aeth Rhys i gysgodi dan ei hoff dderwen. Wrth iddo swatio o dan y goeden, trawyd y boncyff gan fellten a chafodd ei hollti’n ei hanner.
Ac yno, yng nghanol y boncyff gwag, roedd sgerbwd mewn ffrog briodas! Yr oedd hyn yn ormod i Rhys druan. Cafodd drawiad ar y galon a bu farw wrth ymyl ei annwyl briodferch.
Wyddech chi?
Honnir bod ymwelwyr wedi gweld dau ysbryd yn cerdded law yn llaw ar hyd y traeth – dyn gyda barf a gwallt hir a merch gyda thyllau gweigion yn lle llygaid. Credir hefyd na wna unrhyw aderyn lanio ar risgl y boncyff gwag ond y dylluan a’r forfran.
