Y Tair Melltith

Nant Gwrtheyrn > Amdanom > Hanes Nant Gwrtheyrn > Chwedlau Nant Gwrtheyrn > Y Tair Melltith

Straeon gwerin Nant Gwrtheyrn: Y Tair Melltith

Ychydig wedi marwolaeth Gwrtheyrn, daeth tri mynach i’r Nant. Pysgotwyr oedd y bobl leol, a ffieiddio a wnaethant wrth y newydd-ddyfodiaid Cristnogol, gan ymwrthod â’r syniad o adeiladu eglwys yn y Nant. O ganlyniad, bu’n rhaid i’r mynachod ffoi am eu bywydau.
Roedd y mynachod wedi’u harswydo gan y driniaeth a gawsant ac, o ganlyniad, bwriwyd tair melltith ar y dyffryn:

  • Ni châi tir y Nant byth ei gysegru, felly fyddai dim modd claddu neb yno yn y dyfodol
  • Ni chaniatawyd i aelodau o’r un teulu briodi ei gilydd
  • Byddai’r Nant yn llwyddo ac yn methu dair gwaith, cyn methu am byth

Yn fuan ar ôl dihangfa ffodus y mynachod o’r Nant, cododd storm enbyd dros y môr a boddwyd yr holl ddynion oedd allan yn pysgota. O ganlyniad i’r trychineb gadawyd y gweddwon a’u plant yn amddifad ac yn methu â chynnal eu hunain yn y Nant. Wrth iddynt adael y Nant yn wag gwireddwyd rhan gyntaf melltith y mynachod.