Ysbiwraig Almaenig

Nant Gwrtheyrn > Amdanom > Hanes Nant Gwrtheyrn > Chwedlau Nant Gwrtheyrn > Ysbiwraig Almaenig

Chwedlau Gogledd Cymru: Ysbïwr o’r Almaen?

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudodd dynes ddieithr hynod o’r enw Gladys Fisher i fyw i dŷ diarffordd uwchben Carreg y Llam, ar ochr orllewinol y Nant.

Oherwydd ei hymddygiad rhyfedd, dechreuodd pobl leol amau mai ysbїwraig Almaenig oedd Mrs Fisher. Roeddent yn credu ei bod wedi dod i fyw i’r Nant er mwyn fflachio negeseuon i gychod yr Almaenwyr yn y bae islaw.

Ni chaiff neb byth wybod a oedd hi’n ysbїwraig go iawn ai peidio, oherwydd yn ystod oriau mân un bore Sul ym 1943 llosgwyd ei thŷ pren yn ulw.

Ni chlywyd cyfarth ei chŵn ac ni allai neb ei hadnabod yng ngweddillion y golosg. Gan fod y llanw ar uchder perffaith i gychod fwrw angor ar noson y tân, lledwyd nifer o sїon bod Mrs. Fisher wedi ffugio’i marwolaeth ei hun ac wedi dianc ar long danfor Amlaenig.