Ar ddiwedd wythnos dau
gan Mathew Penri Williams
Diwedd 2019 oedd hi pan wnes i’r penderfyniad i fynd amdani a newid swydd o fewn y Nant i fod yn diwtor llawn amser. Roedd y syniad yno, yng nghefn fy meddwl, ers i mi gychwyn gweithio yn y Nant bum mlynedd yn ôl. Yn wir, dyna’r prif beth a’m denodd i weithio yno yn y lle cyntaf, y ffaith mai Canolfan Iaith Genedlaethol ydy’r Nant.
Dechreuais fy swydd newydd, yn swyddogol, ym mis Ionawr yn gyffro i gyd ac yn edrych ymlaen at ddechrau tiwtora gyda’r gobaith o fod wedi dysgu pob un o’r lefelau erbyn diwedd y flwyddyn. Dechreuodd popeth yn ddigon taclus, gyda lefelau Blasu a Mynediad dan fy melt ar ôl sawl sesiwn amhrisiadwy yn arsylwi Shân (Tiwtor arbennig yr wyf yn cael y pleser o weithio gyda hi yn y Nant). Ond, doedd yr holl gynlluniau i gymhwyso o fewn blwyddyn ddim i fod, gan i’r Covid roi stop ar bopeth.
O fewn ychydig wythnosau o weithio o adref, daeth cynnig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fod yn rhan o gynllun newydd sbon a oedd yn ymateb i’r sefyllfa sydd ohoni. Dyma fynd amdani!
Erbyn hyn, mae gen i ryw 30 o ddysgwyr yn derbyn gwersi dros Zoom ar fore Mawrth a nos Fercher, ac rwyf wrth fy modd. Mae’r gwersi hyn yn gwbl wahanol i’r cyrsiau dwys sydd yn cael eu cynnig yn y Nant ac yn gyfle gwych i mi fagu profiad gwahanol. Er mai dim ond pythefnos sydd wedi mynd heibio ers dechrau’r cynllun, mae’r ffaith bod y ddau griw wedi dechrau dod i adnabod ei gilydd cystal yn galonogol iawn. Dyna un o’r pethau arbennig am gyrsiau’r Nant, y ffaith bod criwiau o ddysgwyr yn dod i adnabod ei gilydd dros gyfnod o wythnos. A dyma un o’r prif bryderon oedd gen i cyn i’r cyrsiau ar-lein gychwyn. Sut yn y byd yr oeddwn i am greu criw neu gymuned fach glos o ddysgwyr ar-lein? Dw i’n falch o ddweud fod pawb wedi hen arfer â’i gilydd erbyn hyn. Mae’n anhygoel meddwl fy mod i’n eistedd wrth fwrdd y gegin yng nghanol cefn gwlad Llŷn wrth ddysgu dysgwyr o Lundain i Lerpwl ac o Gaergrawnt i Dorset!
Er mai dim ond cwta pedair awr o wersi mae’r dysgwyr wedi derbyn hyd yma, mae pob un ohonynt wedi llwyddo i gyflwyno eu hunain, holi sumae, ynganu’r wyddor, holi lle da chi’n byw, dweud brawddegau syml amdanynt eu hunain, trafod yr hyn maent yn ei fwynhau neu ddim yn ei fwynhau a holi ei gilydd am yr hyn maent yn ei wneud yn ystod yr wythnos. Tipyn o gamp i griw o ddechreuwyr pur o’r tu allan i Gymru!
Dw i’n teimlo’n hynod o lwcus o fod yn rhan o’r cynllun arbennig hwn ac o gael cyflwyno’r iaith orau un i ddegau o siaradwyr newydd dros yr wythnosau nesaf…