Y diweddaraf ynglŷn â’r Coronafeirws (COVID-19)

Ar ôl wyth yn y Nant gan Eirian Davies (Tiwtor Cymraeg Gwaith)

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Ar ôl wyth yn y Nant gan Eirian Davies (Tiwtor Cymraeg Gwaith)

Ar ôl wyth yn y Nant

gan Eirian Davies (Tiwtor Cymraeg Gwaith)

Reit ta! Ydi pawb yn barod?

Cwestiwn cyntaf. Pa ddegawd ddaru Caerdydd gael ei sefydlu yn brifddinas Cymru?

Mae ’na ddewis ichi –

  1. 1930au;
  2. 1950au;
  3. 1960au.

Os fedrwch chi roi’r union flwyddyn, gewch chi bwynt bonws.

Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd? Ac ydi eich gwybodaeth gyffredinol chi wedi gwella dros yr wythnosau diwethaf yn dilyn yr holl gwisiau sydd wedi dod yn boblogaidd er mwyn cadw cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod yma o fyw dan gyfyngiadau, neu’r ‘Meudwyo Mawr’, i ddefnyddio bathiad y Prifardd Aneirin Karadog? Pwy fasa wedi meddwl fod gan octopws dair calon yn ogystal ag wyth coes. Barus ’de!

Yn ystod y cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn, mae’r Gymraeg yn cael ei hymarfer mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd – gwersi ffurfiol, adloniant gan artistiaid lleol, dawnsio gwerin, teithiau tywys o amgylch safleoedd o ddiddordeb neu fusnesau Cymreig yr ardal. Y sgwrsio a’r cymdeithasu dros brydau bwyd ac, wrth gwrs, yr ymweliad â Thafarn Y Fic ym mhentref Llithfaen ei hun. Ambell dro, cawn gyfle i wrando a dotio ar y côr meibion lleol yn ymarfer yn ystafell uchaf y dafarn enwog. Pleser pur! OND, mae’r adloniant allgyrsiol yn cychwyn efo’r cwis ar nos Lun.

Ar ôl diwrnod llawn o ddod i adnabod ein gilydd yn y dosbarth, dyma ffordd ardderchog o ymlacio a sgwrsio’n anffurfiol yn Gymraeg yn ogystal â dysgu ambell ffaith ddifyr. Ar gyfer yr ornest, rhennir y siaradwyr Cymraeg newydd yn grwpiau – Tŷ Uchaf, Tŷ Canol a Thŷ Hen ac os oes angen mwy o grwpiau, yna rhaid i gariadon enwocaf Cymru ddod i’r fei – Tŷ Rhys a Thŷ Meinir. Mae pethau yn gallu mynd yn ddigon cystadleuol ar adegau, yn enwedig gan fod y wobr i’r tŷ buddugol yn anrhydeddus ac yn werth brwydro amdani – bocs o After Eights.

Fel y dywedodd  Myrddin ap Dafydd yn ei flog yntau, oherwydd pandemig presennol Covid-19, ‘mae’n gyfnod lle nad ydi watsh, calendr a dyddiadur ddim yn cael llawer o sylw.’ Gan fod rhuthr bywyd dyddiol wedi gorfod arafu, mae cyfle i gymryd cam yn ôl a throi llaw at bethau sydd wedi cael eu hesgeuluso ers tro byd – yr ardd, chwynnu trwy ddroriau a chypyrddau, ymlwybro a gwerthfawrogi ein milltir sgwâr, a darllen rhai o’r llyfrau sy’n hel llwch ar y silff.

Dwi ar hyn o bryd yn darllen llyfr yr athletwraig hynod, Lowri Morgan, Beyond Limits sy’n ddigon i ysgogi unrhyw un i godi oddi ar y soffa a mynd am y 5K. Diddorol oedd darllen mai’r hyn oedd yn sbarduno’r anturiaethwraig ar adegau tywyll mewn uwch farathon oedd y llais bach hwnnw yng nghefn y meddwl yn ei hysgogi hi i roi un cam o flaen y llall oherwydd bod y camau hynny yn golygu fod y llinell derfyn yn agosáu.

Mae’r dywediadau ‘nid ar redeg y mae aredig’, ‘yn araf bach mae mynd ymhell’ neu ‘dyfal donc a dyr y garreg’ mor wir wrth ymdrin â sawl peth mewn gwirionedd, gan gynnwys y dyfalbarhad sydd ei angen i ddysgu iaith. Wrth ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg mae’r profiadau’n cyfoethogi ac yn hwyluso’r daith.

Prysured y dydd pan fydd y cyrsiau preswyl yn ailddechrau yn y Nant, a phwy a ŵyr, efallai byddwch chi’n fy ngweld yn rhedeg un cam o flaen y llall i fyny’r allt at droed yr Eifl. Yn sicr, byddai wyth coes a thair calon yr octopws yn ddefnyddiol i’r perwyl hwnnw!

O, gyda llaw… Yr ateb i’r cwestiwn ydi mai yn y 1950au y daeth Caerdydd yn brifddinas i wlad ein tadau ac os ddwedoch chi 1955, yna pwynt bonws i chi – ond, yn anffodus, dim After Eights!

Cadwch yn ddiogel.

Rhannwch eich sylwadau

Ni fydd eich cyfeiriad ebost yn cael ei gyhoeddi

feeb