Newyddion o’r Nant

Nant Gwrtheyrn > Articles by: Ceri

Mae’r sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru. Mae ein swyddfa ar agor. Y ffordd orau o gysylltu â ni dros y cyfnod hwn yw drwy e-bost: post@nantgwrtheyrn.org Mae’r safle ar agor i chi ddod am dro. Mae’r Ganolfan Treftadaeth yn parhau ar gau o ganlyniad i waith cynnal […]

Darllen mwy

Mae prosiect ymchwil cyffrous ar fin dechrau ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, yn edrych ar y geifr gwyllt sy’n crwydro’r ardal ers canrifoedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt wedi cael ei gomisiynu gan Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn i ymgymryd â’r gwaith. Diolch i nawdd caredig Cronfa Datblygu Gynaliadwy AHNE Llŷn (AONB) […]

Darllen mwy

Mae Edmund Dixon yn byw Swydd Gaerhirfryn ac yn dysgu Cymraeg ers 2017. Dechreuodd ddysgu ar gwrs Blasu yn y Nant ac ers hynny mae wedi parhau gyda amryw o gyrsiau. Mae hefyd yn fardd cyhoeddedig ac yn ysgrifennu yn ei enw barddol Aziz Dixon, gyda nifer o gerddi wedi eu hysbrydoli gan y RS […]

Darllen mwy

Bydd Nant Gwrtheyrn yn ymddangos ar raglen Countryfile nos Sul, 30 Mai am 6pm ar BBC 1.   Bydd y bennod yn cynnwys nifer o straeon difyr o Ben Llŷn, yn cynnwys cwpwl o’r Nant.   Cofiwch wylio i weld natur a bywyd gwyllt y Nant a Phen Llŷn yn ei holl ogoniant!   Os […]

Darllen mwy
Bydd cyrsiau ‘codi hyder’ Cymraeg newydd, sy’n cael eu darparu gan Nant Gwrtheyrn, ar gael unwaith eto yn y Gwanwyn a’r Haf, mewn dosbarthiadau rhithiol ar gyfer unrhyw berson sydd yn gweithio neu sy’n ddi-waith yng Nghymru. Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim yn rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cynllun [...]
Darllen mwy

Kingston Upon Thames ar gyrion Llundain yw cartref teuluol y teulu Robinson – mam Bronwen a’i mab Tomos. Mae Tomos, sydd yn ei dridegau cynnar bellach yn byw yn Newcastle. Mae Cymru a’r Gymraeg yn eu gwaed. Er i Bronwen gael ei geni yn Lloegr, roedd hi’n clywed Cymraeg yn y cartref a threuliodd gyfnod […]

Darllen mwy

Mae Melanie Cargill yn gweithio i Menter a Busnes, ac fel miloedd o bobl ar draws y wlad wedi bod yn gweithio o adref ers dros flwyddyn. Roedd Mel yn poeni am effaith hyn ar ei Chymraeg gan iddi golli’r cyfle i ymarfer gyda chyd-weithwyr dros baned yn y swyddfa. Roedd hi’n poeni y byddai’n […]

Darllen mwy

Bydd Caffi Meinir ar agor penwythnos 23 a 24 Ebrill ac yn gwerthu prydau tecawê. Prydau blasus, cartref yn cael eu partio yn ffres gan ein cogydd talentog! Gweld y fwydlen tecawê Bydd hefyd yn bosib i chi gael diod poeth, brechdan, cacen a chawl o’r Caffi wrth fynd am dro rhwng 12 – 4pm […]

Darllen mwy

Mae Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn, Llithfaen yn chwilio am bobl i ymuno gyda’r tîm. Staff llawn amser Rydym yn recriwtio am gogydd llawn amser i weithio gyda’n prif gogydd. Mae profiad blaenorol yn hanfodol, ond yn bwysicach na dim rydym eisiau person sydd yn angerddol am goginio bwyd cartref ac yn awyddus i ddatblygu […]

Darllen mwy
Yn 1975 doedd hen feudy fferm Tŷ Hen (yr adfail a welir i’r chwith o Gaffi Meinir heddiw) yn ddim byd mwy na hen bentwr o gerrig. Roedd incwm yn brin a’r Ymddiriedolwyr yn ceisio meddwl am syniadau i wneud elw ar y safle. Dyma benderfynu adeiladu Caffi. Gwaith un o’r Ymddiriedolwyr, y saer maen [...]
Darllen mwy

Llawer o resymau dros ddysgu’r Gymraeg gan Fran Clarke Mi symudais i Ceidio ym Mhen Llŷn bum mlynedd yn ôl. Dwi’n dod yn wreiddiol o Swydd Efrog. Cyn symud mi roeddwn i’n dod ar wyliau i’r ardal ac yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Mi roeddwn i wastad yn teimlo mod i eisiau […]

Darllen mwy

Daw Janet Watkin yn wreiddiol o dde Lloegr. Mae ei stori gyda’r iaith Gymraeg yn dechrau pan dreuliodd amser fel myfyrwraig yn Ysbyty Glangwili, lle bu iddi gyfarfod ei gŵr. Penderfynodd Janet o’r dechrau ei bod hi eisiau siarad Cymraeg gyda’i phlant. Yn 1982 mynychodd Gwrs Carlam yn Aberystwyth ac yna dosbarthiadau nos wythnosol gyda […]

Darllen mwy

Dysgu’r Gymraeg i fod yn rhan o fy nghymuned gan Margaret Taylor-Hill Mae tair blynedd ers i ni symud i Gymru. Roedd gen i gysylltiadau teuluol â Chymru ar ochor fy nhad, gyda teulu yn byw ar y ffin yn Llanymynech. Ond prin oedd gen i’r iaith ond am y gallu i gyfrif i ddeg […]

Darllen mwy

Yn ystod y pandemig, mae’r Ymddiriedolwyr wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd, gan fanteisio ar Zoom. Yn wir, mae’r patrwm arferol o gyfarfodydd chwarterol wedi’i gynyddu i bob yn ail fis er mwyn caniatáu craffu llawn ar y sefyllfa wrth i ganllawiau’r Llywodraeth newid. Mae ymddiriedolwyr unigol wedi parhau i ddarparu mewnbwn yn ystod yr […]

Darllen mwy

Trefniadau dros gyfnod y Nadolig 2020 Gyda’r cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yng Nghymru o 20/12/2020 bydd yn ofynnol i ni gau’r safle am gyfnod. Bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru. Bydd safle‘r Nant ar gau o 24/12/2020 tan 04/01/2021. Os oes gennych unrhyw ymholiadau […]

Darllen mwy

Neges gan ein Cadeirydd, Huw Jones ar ran yr Ymddiriedolaeth Wrth i’r geiriau hyn gael eu hysgrifennu, mae effaith y coronafeirws mor ddrwg ag erioed. Ar hyn o bryd, yn anffodus, mae nifer o wasanaethau’r Nant (yn cynnwys Caffi Meinir) yn dal ar gau oherwydd hynny. Ond mae gobaith – mae’r brechiad wedi cyrraedd, diolch […]

Darllen mwy

Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith ar ei newydd wedd yn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn yn 2021. Nod y cynllun, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw cryfhau sgiliau Cymraeg gweithleoedd ar hyd a lled Cymru drwy gynnig croestoriad o gyrsiau Dysgu Cymraeg sydd wedi eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Yn sgil pandemig COVID-19, […]

Darllen mwy

Profiad athrawes iaith o fod yn fyfyriwrgan Theresa Munford Dwi ddim yn meddwl bod gen i unrhyw waed Cymreig yn fy ngwythiennau, a dw i ddim yn byw yng Nghymru chwaith. Mae’n debyg mai cyfeillgarwch a digwyddiad ar hap yw’r ffordd orau o ddisgrifio fy nhaith i ddechrau dysgu’r iaith Gymraeg. Dwi wastad wedi caru […]

Darllen mwy

Ydach chi’n meddwl dathlu rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror? Chwilio am leoliad diogel a phreifat? Efallai y medrwn ni helpu. Rydym yn cynnig pecyn arbennig ar gyfer dathliadau bach ac arbennig. Yn cynnwys cyngor a chefnogaeth arbenigol gan staff i drefnu’r digwyddiad wedi ei deilwra yn arbennig i’ch anghenion chi. Cysylltwch am fwy o fanylion ac […]

Darllen mwy

Edrych yn ôl o frig y dongan Rhodri Evans (Rheolwr Addysg) Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, mi fydd yn anorfod ein bod, am ennyd fer rhwng gwibdeithiau meddyliol eraill, yn oedi i edrych nôl ar flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen. A phan y byddwn yn edrych nôl ar yr […]

Darllen mwy

Dysgu Cymraeg yr holl ffordd o Munich gan Janet MacKenzie   Fy unig gysylltiad (bach iawn) â Chymru yw’r ffaith mod i wedi cael fy ngeni yn Lerpwl, ac rwyf ar ddeall gan gyswllt dibynadwy, ei bod hi’n brifddinas answyddogol Gogledd Cymru. Felly, fel plentyn yn y 50au roeddwn yn clywed y Gymraeg yn cael ei […]

Darllen mwy

Mae genedigaeth-fraint yn werth ei hymladd amdani gan Robert Davis Dw i’n siarad Cymraeg. Dw i’n ei siarad er gwaetha byw yn yr Unol Daleithiau. Mae’r rhan fwyaf o bobl — gan gynnwys pobl Gymreig — yn synnu ar hyn. Fe ddechreuais astudio’r Gymraeg pan oeddwn i yn y prifysgol. Fe ges i set o […]

Darllen mwy

Mae dysgu Cymraeg o bell yn derm sydd wedi dod yn fwfwy cyfarwydd yn 2020 wrth i’r dull rhithiol o ddysgu gymryd lle dysgu traddodiadol mewn ystafell ddosbarth. Un o brif fanteision dysgu o bell yw’r ffaith bod unrhyw berson, o unrhyw le yn y byd, yn gallu dilyn cyrsiau Cymraeg y Nant. A dyma’n […]

Darllen mwy

Mae Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd a Chanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf i gynnal gŵyl rithiol i ddathlu’r iaith Gymraeg, ac mae’r cwbl am ddim. Bydd Gŵyl NantIaith yn cael ei chynnal dydd Sadwrn 31 Hydref ar AM (Am bob dim) – platfform digidol Cymraeg. Bydd […]

Darllen mwy

Rydym yn cynnig tair noson am bris dwy! Felly 1 noson AM DDIM! Ar gael am gyfnod o bythefnos rhwng 19/10/20 – 31/10/2020. Gallwch weld mwy o fanylion am ein llety gwely a brecwast yma. I archebu anfonwch ebost at – post@nantgwrtheyrn.org neu ffoniwch 01758750334. Mae’r cynnig yn ddibynnol ar amodau a rheolau Covid-19.

Darllen mwy

Diolch yn fawr i Elwyn Jones (Elwyn Caera) am gysylltu gyda ni yn ddiweddar. Mae Elwyn wedi ysgrifennu dwy gerdd hyfryd am y Nant. Mwynhewch!   Nant Gwrtheyrn Gwagle lle bu craig di hollt yn dymchwel i lawr at y don. Craith fonciog lle bu gwaith a chymdeithas ystyrlon. Geifr gwyllt lle bu chwarelwyr yn […]

Darllen mwy

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod ailargraffiad o lyfr poblogaidd Dr Carl Clowes ‘Nant Gwrtheyrn – Rebirth of the Lost Village’ wedi cael ei gyhoeddi. Argraffwyd y gyfrol gyntaf yn 2008, ac yn y gyfrol hon mae Dr Clowes yn ein diweddaru ar y datblygiadau er hynny. Mae’r llyfr yn adrodd hanes cyfoethog yr […]

Darllen mwy

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gystadlu yn ein cystadleuaeth ysgrifennu greadigol. Roedd yr ymateb yn wych, gyda degau o ddysgwyr yn cymryd rhan a’r safon yn uchel iawn. Y dasg oedd ymateb yn greadigol i ddewis o dri llun yn ymwneud a Nant Gwrtheyrn. Dewisodd y beirniad, Myrddin ap Dafydd y darnau gorau […]

Darllen mwy