Newyddion o’r Nant

Nant Gwrtheyrn > Articles by: Mathew

Bu Eluned Morgan, Gweinidog dros y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru,  draw yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ar y 10fed o Fedi, 2019. Yn ystod ei hymweliad, cafodd y Gweinidog gyfle i weld yr heriau yn ogystal â’r gwaith allweddol sy’n cael ei wneud yno mewn perthynas â chynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn […]

Darllen mwy

Mae’r Haf wedi cyrraedd o’r diwedd a does unman gwell i fwynhau’r tywydd tesog ‘ma nag yma yn nhawelwch a llonyddwch y Nant. Braf yw gweld cynifer yn mwynhau’r olygfa a’r heulwen o’r teras pob amser cinio. Pleser oedd croesawu cynifer o ddysgwyr lefel Uwch ar gwrs arbennig Ifor ap Glyn, ‘Rho awch ar dy […]

Darllen mwy

Dynodwyd 2019 fel blwyddyn ‘Darganfod’ gan Groeso Cymru eleni a dyma’r drydedd flwyddyn i ni yma yn y Nant gynnal cwrs sydd yn cyd fynd â’r blynyddoedd thema hyn. Cynhaliwyd cwrs ‘Darganfod Ynys Môn’ dan ofal Delyth Roberts yn ystod mis Mawrth. Roedd y cwrs yn gyfle i ddysgwyr lefel Uwch 2 ymarfer eu Cymraeg […]

Darllen mwy

Teitl y swydd:             Staff gweini Adran:                         Caffi Meinir / Arlwyo Oriau:                          Naill ai Llawn Amser – 37.5 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Sul yn ôl trefn rota fydd yn cynnwys oriau anghymdeithasol, a rhai penwythnosau a Gwyliau                            […]

Darllen mwy

Dwi’n mentro dweud bod y gwanwyn wedi dyfod yma yn y Nant, am ryw hyd beth bynnag! Mae’r cennin pedr yn werth eu gweld o amgylch y pentref a dwi’n falch iawn bod y geifr yn gadael llonydd iddynt hefyd! Bu Wythnos Tapas Llŷn yn llwyddiant unwaith eto eleni. Diolch yn fawr iawn i bawb […]

Darllen mwy

Diolch yn fawr iawn i bawb ohonoch a ddaeth i gefnogi ein ffair Nadolig eleni. Roedd yn ddiwrnod bendigedig gyda haul y gaeaf yn disgleirio ar y pentref. Pleser oedd eich croesawu i lawr yma i’r Nant. Diolch yn arbennig i Fand Pres Pwllheli am ein diddanu yn ystod y dydd, i gwmni Berwyn am […]

Darllen mwy

Mae Carl Foulkes wedi defnyddio ei wyliau blynyddol o’i swydd bresennol fel Dirprwy Brif Gwnstabl ar Lannau Mersi i ymgymryd cwrs dwys yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn. Dywedodd Meic Raymant, Pennaeth Gwasanaethau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd yn dda gweld fod y Prif Gwnstabl newydd wedi gallu mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, […]

Darllen mwy

Mae Nant Gwrtheyrn wedi ennill gwobr Ewropeaidd holl bwysig mewn seremoni wobrwyo ym Mrwsel yr wythnos diwethaf. Roedd y ganolfan wedi’i henwebu yn y categori ‘buddsoddi mewn treftadaeth ddiwylliannol’ yng Ngwobrau RegioStars 2018 y Comisiwn Ewropeaidd, gwobrau sy’n nodi arferion da o ran datblygu rhanbarthol, ac yn tynnu sylw at brosiectau gwreiddiol ac arloesol sy’n […]

Darllen mwy

Ymunodd Cadeirydd Nant Gwrtheyrn, Huw Jones, â dirprwyaeth o Gymru ar ymweliad tridiau â Gwlad y Basg er mwyn astudio’r drefn o ddysgu Basgeg fel ail iaith sy’n cael ei gweithredu yn y wlad honno. Mae poblogaeth Gwlad y Basg rywbeth yn debyg i Gymru, ond mae’r nifer sy’n dweud eu bod nhw’n medru siarad […]

Darllen mwy

Mae’r Nant yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn eleni. Mae’r freuddwyd fawr o drawsnewid hen bentref chwarelyddol yn ganolfan iaith flaengar bellach yn ffaith. Gyda’r Nant wedi croesawu dros 30,000 o ddysgwyr ers 1982 a bellach yn cyflogi 37 o bobl leol, mae’r weledigaeth wreiddiol honno o greu ‘Peiriant Cymreigio a darparu […]

Darllen mwy

Annwyl gyfaill,   Fel rhan o ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn mae’r Nant yn trefnu Gŵyl y Nant – Dathlu 40 ar Ddydd Sadwrn, Medi 22, 2018. I ddiolch am eich cyfraniad gwerthfawr, hoffwn eich gwahodd i ymuno yn y dathliadau. Am 2 o’r gloch y prynhawn bydd arddangosfa ‘Hanesyddol’ yn cael […]

Darllen mwy

Yda’ chi’n cofio Gŵyl y Nant ‘stalwm? I ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn eleni, rydym yn cynnal gŵyl arbennig ar ddydd Sadwrn, Medi 22 i ddathlu’r garreg filltir sef ‘Gŵyl y Nant – Dathlu 40’. Bydd yr ŵyl yn cychwyn am 2 o’r gloch gyda lansiad arddangosfa ‘Hanesyddol’ fydd yn dilyn y […]

Darllen mwy

Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol Cymru, Nant Gwrtheyrn, wedi ei henwebu am wobr Ewropeaidd bwysig. Mae’r ganolfan wedi’i henwebu yn y categori ‘buddsoddi mewn treftadaeth ddiwylliannol’ yng Ngwobrau RegioStars 2018 y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r gwobrau’n nodi arferion da o ran datblygu ranbarthol ac yn tynnu sylw at brosiectau gwreiddiol ac arloesol sy’n ddeniadol ac […]

Darllen mwy

Mi gawsom ddiwrnod da ddydd Llun gyda Dewin a Doti yn cyflwyno’r sioe newydd ‘Ffrindiau’r Môr’, sef sioe o hoff ganeuon plant ar thema’r Môr. Cawsom dair sioe wych yn Neuadd Rhys gyda llond gwlad o blant yn mwynhau’r arlwy. Bydd y sioe yn cael ei pherfformio mewn canolfannau ar hyd a lled Cymru fel […]

Darllen mwy

Yn sgil llwyddiant cwrs ‘Merched mewn Llenyddiaeth Gymraeg’ y llynedd gyda Bethan Gwanas, daeth 14 o ddysgwyr brwd atom eto i fwynhau cwrs arall yng nghwmni’r awdures. Bu’r cwrs yn canolbwyntio ar rai o awduron cyfoes gorau Cymru gan gynnwys awduron amrywiol megis Manon Steffan Ros, Sonia Edwards a Lleucu Roberts, ond dynion hefyd y […]

Darllen mwy

Wythnos fendigedig arall yn y Nant gyda chriw o ddysgwyr gweithgar unwaith eto. Dyma’r criw yn mwynhau’r tywydd braf. “O na fyddai’n haf o hyd”!! Cafodd yr holl ddysgwyr siawns i ymarfer eu Cymraeg ym Mhwllheli’r wythnos hon. Mae’r cwrs Mynediad 1 yn addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, […]

Darllen mwy

Haul, Haul a mwy o Haul! Ydi wir, mae hi wedi bod yn fis gogoneddus! A ble well i fwynhau’r heulwen nag yma yn nhawelwch a mwynder y Nant? Braf iawn oedd gweld cynifer yn dod yma am dro yn ystod wythnos hanner tymor yn ddiweddar. Daw ymwelwyr yma i’r Nant o bell ac agos […]

Darllen mwy

Ganwyd Gordon ar aelwyd Gymraeg yn Alltwen ger Pontardawe. Nid yw Gordon wedi cael cyfle i siarad Cymraeg ers 1955. Mae’n byw yng Ngwlad yr Haf yn Lloegr ar hyn o bryd ac yn y gorffennol treuliodd bymtheg mlynedd fel Bwrsar mewn ysgol fonedd yn Honk Kong. Bu’n treulio wythnos gyda ni ar y cwrs […]

Darllen mwy

Dyma Judith Hunt a’i phengwin.  Bu Judith yn mynychu’r cwrs Uwch 1 yr wythnos hon.  Mae Judith a’i phengwin wedi teithio’r byd ac wedi mwynhau wythnos fendigedig yn y Nant.  Dyma oedd ganddi i’w ddweud am y cwrs: “Dw i a’r pengwin yn cytuno ei fod y profiad gorau erioed ac mae’r ddau ohonom wedi […]

Darllen mwy

Rhyw fis llawn cynadleddau ac encilion fu mis Ebrill yma yn y Nant. Dychwelodd criw Ymddiriedolaeth Greensville i’r Nant ar encil unwaith eto eleni yn haul braf gwyliau’r Pasg. Cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru a Chynhadledd flynyddol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yma yn ystod mis Ebrill, hefyd. Cynhaliwyd sawl cwrs llwyddiannus yn […]

Darllen mwy

Mae’r gwanwyn wedi ein cyrraedd o’r diwedd yma yn y Nant gyda’r sioe flynyddol o gennin Pedr rhwng y Plas a Chaffi Meinir yn werth ei weld! Gyda dyfodiad y gwanwyn, mae tymor y priodasau hefyd yn ail gydio ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pob un pâr yma i’r Nant i ddathlu ei […]

Darllen mwy

Blwyddyn Newydd Dda i chi ‘gyd! Wedi seibiant dros gyfnod y Nadolig mae’r pentref yn fwrlwm unwaith eto gyda gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn y caffi. Bydd yr estyniad diweddaraf yn cynnwys toiledau newydd ar gyfer cwsmeriaid Caffi Meinir ynghyd â storfeydd a swyddfa. Felly, os ydych yn dod i lawr i’r Nant am […]

Darllen mwy