Newyddion o’r Nant

Nant Gwrtheyrn > Articles by: Admin

Cyfarfod Blynyddol 2022 Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolaeth trwy Zoom ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23ain. Cyflwynodd y Cadeirydd, Huw Jones, adroddiad ar waith y flwyddyn. Gellir cael golwg arno yma. Yn dilyn marwolaeth Dr Carl Clowes ac ymddiswyddiad Clive Wolfendale ac ymddeoliad Myrddin ap Dafydd fel aelodau o’r Ymddiriedolaeth penodwyd tri aelod newydd, sef Rhiannon [...]
Darllen mwy
Mae’n bleser gennym eich hysbysebu fod Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn rhan o restr elusennau Amazon Smile. Gweithredir Amazon Smile gan Amazon, yn cynnig yr un cynnyrch, nodweddion siopa a phrisiau.  Tydy eich profiad siopa ddim yn newid; yr unig wahaniaeth yw bod Amazon yn rhoi 0.5% o’r hyn rydych yn prynu i’ch elusen ddewisol.  Tydy [...]
Darllen mwy
Hysbyseb Swydd Teitl y swydd: Cynorthwyydd gweinyddol Cymraeg GwaithAdran: AddysgYn atebol i’r: Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith / Rheolwr AddysgCyflog: I’w drafod ac yn ddibynnol ar gymwysterau (Cytundeb blwyddyn i ddechrau)Oriau: Swydd Rhan Amser – 15 awr yr wythnos (gweithio ar ddydd Llun a dydd Gwener)I ddechrau: Cyn gynted â phosib Pwrpas y swydd:Mae Canolfan Iaith [...]
Darllen mwy

Mae 2020 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur! Mae llawer o waith adeiladu a chynnal a chadw yn cael ei wneud ar y safle dros y gaeaf, yn cynnwys y swyddfa ac adeilad Y Plas, gyda datblygiadau cyffrous eraill ar y gweill hefyd… Mae pedwar rheolwr newydd wedi cael eu penodi, dau sydd wedi […]

Darllen mwy

Mae blwyddyn arall yn y Nant yn tynnu i’w therfyn ac wrth i ni edrych ymlaen at y dydd ddechrau ymestyn, rydym yn edrych nôl ar hydref prysur a’r sawl machlud godidog rydym wedi mwynhau yma.

Darllen mwy

Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gefnogi ein ffair Nadolig eleni. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn, gyda channoedd o bobl yn mwynhau naws Nadoliaidd y Nant. Diolch arbennig i Fand Pres Pwllheli am ein diddanu yn ystod y dydd, i gwmni Berwyn am gludo pawb i lawr ac yn ôl i fyny drwy’r dydd […]

Darllen mwy

Pleser oedd lansio ein rhaglen gyrsiau ar gyfer 2020 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Gallwch weld y rhaglen yma. Mae’r myfyrwyr sydd wedi bod efo ni diwedd y flwyddyn wedi mwynhau amryw o brofiadau, o daith i Blas yn Rhiw i ddiod o flaen y tân yn nhafarn Y Whitehall, Pwllheli. Bu criw hwyliog draw ar […]

Darllen mwy

Diolch anferth i bawb fu’n rhan o drefnu a chefnogi Ras Rhys a Meinir eleni – roedd o’n ddiwrnod gwych. Diolch i’r holl fusnesau lleol am eu cyfraniad i’r gwobrau – Blas ar Fwyd, Tanners Wines, Cigoedd y Llain Harlech Foodservice, Ffrwythau DJ Fruit, Poblado Coffi a Chwrw Llŷn. Llongyfarchiadau i’r rhedwyr i gyd, yn […]

Darllen mwy
Bu’r canwr James Blunt draw ym mis Medi yn ffilmio fideo ar gyfer un o’i ganeuon newydd: Ond roedd gan ein staff fwy o ddiddordeb mewn ganwr arall oedd draw yn ffilmio cyfres deledu yn y neuadd yr un diwrnod – Rhys Meirion!
Darllen mwy
Albwm newydd Cian Ciarán - pecyn cd Rhys Meinir - stoc bellach ar gael ond yn brin iawn iawn. Waled CD wedi’i lapio mewn amlen wedi’i hargraffu â ffoil bloc aur ar amlen goch ac yn cynnwys chwe cherdyn post A5 gwaith celf ogoneddus Mark James. Siop
Darllen mwy

Gyda thymor y priodasau yn dirwyn i ben a’r dail yn crino ar ganghennau hen goed y Nant – rydym yn edrych ymlaen at weithgarwch yr Hydref a’r Gaeaf. Roedd yn bleser gennym groesawu aelodau o eglwys St Pauls, Knightsbridge, a fu yma’n aros yn ystod eu taith bererindod i Lŷn. Braf iawn yw gweld […]

Darllen mwy
Bu haf 2017 yn dymor prysur iawn yma yn y Nant – braf oedd gweld cynifer o ymwelwyr o bell ac agos yn ymweld âr pentref, boed ar gyfer cwrs, priodas neu ymweliad dydd. Roedd yn bleser Estyn croeso i ddisgyblion a staff o Ysgol Cymerau, Pwllheli, a ddaeth draw i’r Nant cyn torriad yr [...]
Darllen mwy
Drwy fis Awst, roeddem yn rhedeg cyfres o weithgareddau chwedlonol yn Nant Gwrtheyrn. Fe'u cynhelir bob prynhawn Mawrth, yn dechrau ar yr 8fed o Awst ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr atynt. Fe'i hariennir gan Groeso Cymru fel rhan o Flwyddyn Chwedlau Croeso Cymru. Mae gennym gymaint o chwedlau a chwedlau gwerin sy'n gysylltiedig [...]
Darllen mwy
Er yr holl dywydd cyfnewidiol yn ddiweddar – mae’r Nant yn fwrlwm a phawb yn edrych ymlaen at dymor prysur yr Haf. Bydd y Nant yn crwydro unwaith eto eleni i ymweld â Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Byddwn yn lansio rhaglen gyrsiau 2018 ac yn cynnig gostyngiadau arbennig ar ein cyrsiau - Cofiwch [...]
Darllen mwy

Bu i dair ysgol wneud y mwyaf o’r tywydd braf a dod draw am drip i’r Nant yn ystod yr wythnosau yn arwain tuag at doriad Sulgwyn eleni. Bu Ysgolion Abersoch, Y Faenol a Llanbedrog yn clywed hanes Rhys a Meinir a chael cyfle i weld ble oedd Tŷ Hen a Thŷ Uchaf sef cartrefi’r […]

Darllen mwy

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar ein cynhyrchiad nesaf, Macbeth. Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gemau i ddysgwyr a chanllaw ar […]

Darllen mwy
Mae’r Nant ‘ma yn werth ei weld ar ddiwrnod o wanwyn gyda’r coed yn blaguro’n araf a’r gwair yn glasu yn yr heulwen braf! Roedd y Nant yn fwrlwm yn ystod penwythnos cyntaf mis Ebrill gyda rownd gyntaf y ‘British Downhill Series’ yn cymryd lle yma. Ers rhai blynyddoedd, bellach, mae trac beicio mynydd wedi [...]
Darllen mwy

Mae hi’n wanwyn o’r diwedd yma yn Nant Gwrtheyrn! Gyda’r llwybyr rhwng y Plas a Chaffi Meinir yn drwch o gennin pedr a’r ddwy faner yn chifio uwch ben y pentref rydym yn edrych ymlaen yn arw at y tymor newydd. A wyddoch chi am ffordd arall o gyrraedd y Nant ‘ma heb ddefnyddio’r ffordd […]

Darllen mwy

Mae nifer o grwpiau wedi ymweld â’r Nant yn ystod mis Mehefin. Cangen Merched y Wawr Llaniestyn oedd y cyntaf o’r rhain i ymweld a chael sgwrs am hanes y Nant, taith o amgylch y pentref a phryd o fwyd yng Nghaffi Meinir. Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o ganghennau Merched y Wawr Deudraeth a […]

Darllen mwy

Wel, mae’r haul yn tywynnu ar y Nant ‘ma bob diwrnod erbyn hyn! Mae’r pentref yn werth ei weld, gyda phlanhigion yn blodeuo ym mhob twll a chornel – rhaid i mi ganu clodydd i Wyn y garddwr am ei waith caled! Braf yw gweld cynifer ohonoch chi drigolion Llŷn, ynghyd ag ymwelwyr yr ardal […]

Darllen mwy

Yda’ chi wedi bod draw i weld Caffi Meinir ar ei newydd wedd eto? Dewch da chi, mae’n werth ei weld! Braf oedd gweld cynifer ohonoch yn dod i lawr yma yn ystod gwyliau’r Pasg eleni. Cofiwch fod y Ganolfan Dreftadaeth, y Tŷ Cyfnod a’r Caffi yn agored pob dydd rhwng 10y.b a 4y.h. Cynhaliwyd […]

Darllen mwy

Mae’r Meddyg Carl Clowes, sylfaenydd Canolfan Iaith a threftadaeth Nant Gwrtheyrn, wedi ei anrhydeddu yn gymrawd anrhydeddus o’r Royal College of General Practitioners. Ef yw’r cyntaf i dderbyn yr anrhydedd ar sail gwaith sydd yn ychwanegol i’w waith fel Meddyg Teulu. Mae’r Meddyg Carl Clowes yn derbyn yr anrhydedd ar sail ei gyfraniad i’w faes […]

Darllen mwy

  Mae cydweithio agos rhwng Nant Gwrtheyrn a Phrifysgol Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth wrth lansio ‘e-nant’, pecyn o adnoddau digidol ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad y Nant. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn neuadd y Nant fore Gwener y 6ed o Fawrth. Yn ogystal â dysgwyr presenol y Nant, cafwyd cynrychiolaeth […]

Darllen mwy

Er nad yw hi’n un ddieithr i’r Nant o bell ffordd, braf yw cael croesawu Eleri Llewelyn Morris i’w swydd newydd fel Prif Diwtor. Mae Eleri wedi bod yn diwtor achlysurol yn y Nant ers blynyddoedd a bydd ei phrofiad a’i brwdfrydedd yn gaffaeliad mawr i’r ganolfan. Er nad oes gwersi yn cael eu cynnal […]

Darllen mwy

  Blwyddyn Newydd dda oddi wrth bawb yma yn Nant Gwrtheyrn! Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r dathlu yn ystod yr wythnosau diwethaf. Bu cryn ddathlu yma yn y Nant nos Galan, unwaith eto eleni. Wedi’r wledd flasus, bu’r amryddawn Dilwyn Morgan yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hiwmor ffraeth. Ac wrth gwrs, cafwyd perfformiadau gwych gan Y […]

Darllen mwy