Newyddion o’r Nant

Nant Gwrtheyrn > Articles by: Wyn

Mae Nant Gwrtheyrn “y Nant” yn ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg (ail iaith) i ddysgwyr. Mae yna letyai hanesyddol, arddangosfa hanes pentref chwarel Porth y Nant, a chaffi ar y safle. Mae mynediad i’r safle a pharcio am ddim, ac felly mae’r ganolfan dreftadaeth a chynadleddau ar gael i bawb. Bu’r safle’n […]

Darllen mwy

Ydych chi wedi meddwl am eich parti Dolig eto? Pam na ddewch chi draw yma i’r Nant i ddathlu eleni – bwyd gwych mewn lle hollol hudolus!   Byddwn yn cynnig y fwydlen yma i bartion ar ddau ddiwrnod penodol, sef dydd Sadwrn y 3ydd o Ragfyr a dydd Gwener 16eg o Ragfyr, felly os […]

Darllen mwy

……..cystadleuaeth bach i ddathlu! Mae 2022 yn garreg filltir yn hanes Nant Gwrtheyrn, gyda 40 mlynedd bellach ers cynnal y dosbarth Cymraeg cyntaf. Mae miloedd wedi dilyn y lôn droellog i lawr i’r Nant dros y cyfnod yma, a llawer wedi syrthio mewn cariad gyda’r lleoliad hudol yn ogystal â’r iaith. Be’ well, felly, i […]

Darllen mwy
Ar ddydd Llun yr Eisteddfod, cynhaliwyd sesiwn ym Maes D, Pentre’r Dysgwyr, i nodi cyfraniad ac ymroddiad nodedig Dr Carl Clowes i’r gwaith o adfer pentref Nant Gwrtheryn a’i droi’n ganolfan i ddysgu’r iaith Gymraeg. Llywiwyd y drafodaeth gan Huw Jones, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio clipiau sain o lais Carl ei hun yn sôn [...]
Darllen mwy
Dyma fideo o ddigwyddiad arbennig iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron 2022, yn cynnwys cyflwyniad gan Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn: ‘Dr. Carl Clowes a’r freuddwyd ar gyfer Nant Gwrtheyrn’, gyda phanel o westeion yn cynnwys Dafydd Iwan, Alun Jones (cyn-diwtor yn Nant Gwrtheyrn), a Francesca Sciarrillo (Dysgwr y Flwyddyn 2019) yn rhannu atgofion [...]
Darllen mwy

Er fod y cyfnodau clo a hunan-ynysu wedi creu problemau di-ri i lawer, doedd eu heffaith ddim yn hollol negyddol i bawb. Daeth llawer o bobl o hyd i dalentau a phosibiliadau nad oeddent wedi eu dychmygu o’r blaen, gan ganu, diddori neu greu pethau o’r newydd i lenwi dyddiau diflas ac i godi calon […]

Darllen mwy

Yn dilyn y stormydd diweddar, a’r difrod i’r coed, rydym wedi derbyn cyngor pellach parthed y llwybrau yma yn y Nant gan sefydliad Llais y Goedwig. Bydd mynediad i’r goedwig ar gau i’r cyhoedd nes bod gwaith diogelu wedi ei gwbwlhau, a gofynwn i bawb gymeryd gofal o gwmpas y pentref hefyd.

Darllen mwy
Gyda thristwch mawr fe gyhoeddwyd bod sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, y Doctor Carl Clowes, wedi marw yn yr oriau man fore Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 2021, yn dilyn salwch byr. Roedd yn 77 mlwydd oed. Gweledigaeth Carl Clowes oedd adfer bywyd y pentref trwy greu yma ganolfan iaith genedlaethol; ef oedd Cadeirydd cyntaf [...]
Darllen mwy

Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi ail-greu Meddygfa eiconig Llithfaen lawr yn y Nant, y Feddygfa lle ganwyd y freuddwyd o brynu ac adfywio’r hen bentref dros hanner can mlynedd yn ôl. Roedd Hen Feddygfa Llithfaen yn rhan o bractis Dr Carl Clowes, y meddyg ddaeth i’r ardal yn 1970 o`i swydd arbenigol […]

Darllen mwy