Ar ddydd Llun, Hydref 4ydd, ymwelodd Brenhines Lesotho, Masenate Seeiso â Nant Gwrtheyrn. Bwriad yr ymweliad oedd i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Dolen Cymru. Mae’r elusen wedi ffurfio cysylltiadau pwysig rhwng Cymru a Lesotho ym meyseydd addysg, iechyd, cymdeithas sifil a llywodraeth trwy ddatblygu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau bobl. Sylfaenydd yr elusen a Is-genad Anrhydeddus Lesotho i Gymru yw’r Meddyg Carl Clowes. Dywedodd:
“Rydym yn hynod falch fod y Frenhines Masenate Seeiso yn dod i dreulio amser gyda ni yn teithio o amgylch Cymru.”
Ymwelodd y Frenhines a’r Nant i fynychu cyfarfod blynyddol Dolen Cymru, ble cafodd gyfle i siarad gydag aelodau o staff a’r Ymddiriedolwyr a chlywed perfformiad gan blant Ysgol Llanaelhaearn.
“Mae’r daith hon yn rhan bwysig iawn i’r dathliadau 25ain mlwyddiant, a’r gobaith yw y bydd yn codi proffil y gwaith a wnawn i greu cysylltiadau rhwng pobl Cymru a phobl yn Lesotho.”