Mae cyfres newydd Cariad@iaith yn cychwyn dydd Mercher, Mehefin 11eg 2014 am 8yh ar S4C. Dilynwch yr 8 seleb wrth iddynt geisio meistrioli’r iaith Gymraeg yn ystod yr wythnos. Bydd yr enillydd yn dod yn ôl i’r Nant am gwrs preswyl. Sut fydd y personoliaethau yn ymdopi gyda bywyd ym Mhen Llyn? Wythnos o emosiynau cryf siwr o fod!
I gyd fynd efo’r digwyddiad, mae cystadleuaeth arbennig a bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynychu cwrs preswyl yn y Nant am wythnos, AM DDIM! Cliciwch yma i ymgeisio. Pob lwc!