Newyddion o’r Nant

Nant Gwrtheyrn > Blogiau

Mae Nant Gwrtheyrn “y Nant” yn ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg (ail iaith) i ddysgwyr. Mae yna letyai hanesyddol, arddangosfa hanes pentref chwarel Porth y Nant, a chaffi ar y safle. Mae mynediad i’r safle a pharcio am ddim, ac felly mae’r ganolfan dreftadaeth a chynadleddau ar gael i bawb. Bu’r safle’n […]

Darllen mwy

……..cystadleuaeth bach i ddathlu! Mae 2022 yn garreg filltir yn hanes Nant Gwrtheyrn, gyda 40 mlynedd bellach ers cynnal y dosbarth Cymraeg cyntaf. Mae miloedd wedi dilyn y lôn droellog i lawr i’r Nant dros y cyfnod yma, a llawer wedi syrthio mewn cariad gyda’r lleoliad hudol yn ogystal â’r iaith. Be’ well, felly, i […]

Darllen mwy
Cyfarfod Blynyddol 2022 Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolaeth trwy Zoom ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23ain. Cyflwynodd y Cadeirydd, Huw Jones, adroddiad ar waith y flwyddyn. Gellir cael golwg arno yma. Yn dilyn marwolaeth Dr Carl Clowes ac ymddiswyddiad Clive Wolfendale ac ymddeoliad Myrddin ap Dafydd fel aelodau o’r Ymddiriedolaeth penodwyd tri aelod newydd, sef Rhiannon [...]
Darllen mwy

Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi ail-greu Meddygfa eiconig Llithfaen lawr yn y Nant, y Feddygfa lle ganwyd y freuddwyd o brynu ac adfywio’r hen bentref dros hanner can mlynedd yn ôl. Roedd Hen Feddygfa Llithfaen yn rhan o bractis Dr Carl Clowes, y meddyg ddaeth i’r ardal yn 1970 o`i swydd arbenigol […]

Darllen mwy

Llawer o resymau dros ddysgu’r Gymraeg gan Fran Clarke Mi symudais i Ceidio ym Mhen Llŷn bum mlynedd yn ôl. Dwi’n dod yn wreiddiol o Swydd Efrog. Cyn symud mi roeddwn i’n dod ar wyliau i’r ardal ac yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad. Mi roeddwn i wastad yn teimlo mod i eisiau […]

Darllen mwy

Dysgu’r Gymraeg i fod yn rhan o fy nghymuned gan Margaret Taylor-Hill Mae tair blynedd ers i ni symud i Gymru. Roedd gen i gysylltiadau teuluol â Chymru ar ochor fy nhad, gyda teulu yn byw ar y ffin yn Llanymynech. Ond prin oedd gen i’r iaith ond am y gallu i gyfrif i ddeg […]

Darllen mwy

Profiad athrawes iaith o fod yn fyfyriwrgan Theresa Munford Dwi ddim yn meddwl bod gen i unrhyw waed Cymreig yn fy ngwythiennau, a dw i ddim yn byw yng Nghymru chwaith. Mae’n debyg mai cyfeillgarwch a digwyddiad ar hap yw’r ffordd orau o ddisgrifio fy nhaith i ddechrau dysgu’r iaith Gymraeg. Dwi wastad wedi caru […]

Darllen mwy

Edrych yn ôl o frig y dongan Rhodri Evans (Rheolwr Addysg) Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, mi fydd yn anorfod ein bod, am ennyd fer rhwng gwibdeithiau meddyliol eraill, yn oedi i edrych nôl ar flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen. A phan y byddwn yn edrych nôl ar yr […]

Darllen mwy

Dysgu Cymraeg yr holl ffordd o Munich gan Janet MacKenzie   Fy unig gysylltiad (bach iawn) â Chymru yw’r ffaith mod i wedi cael fy ngeni yn Lerpwl, ac rwyf ar ddeall gan gyswllt dibynadwy, ei bod hi’n brifddinas answyddogol Gogledd Cymru. Felly, fel plentyn yn y 50au roeddwn yn clywed y Gymraeg yn cael ei […]

Darllen mwy

Mae genedigaeth-fraint yn werth ei hymladd amdani gan Robert Davis Dw i’n siarad Cymraeg. Dw i’n ei siarad er gwaetha byw yn yr Unol Daleithiau. Mae’r rhan fwyaf o bobl — gan gynnwys pobl Gymreig — yn synnu ar hyn. Fe ddechreuais astudio’r Gymraeg pan oeddwn i yn y prifysgol. Fe ges i set o […]

Darllen mwy

“Mae newid ar ddod licio fo neu beidio.” (Greta Thunberg) gan Eirian Davies I’r rhai ohonom sy’n perthyn i genhedlaeth arbennig, roedd y gair Zoom yn cyfeirio at yr ice lolly siap roced coch, melyn a gwyrdd oedd gofyn ei lyfu/fwyta yn reit sydyn cyn iddo ddechrau dripian lawr y bysedd, y dwylo a’r arddyrnau […]

Darllen mwy

Nant G a fi gan John Williams O’n i newydd gorffen cwrs sylfaen dysgu Cymraeg gan Y Prifysgol Agored (2010) ac yn meddwl: Wel, dw’i ‘di gweithio yn eitha’ galed dros blwyddyn a wedi cael blas o’r iaith ond heb cael y gallu i ddweud lot. Ydw i’n mynd i adael pethau fel ‘na ar […]

Darllen mwy

Y byd o’n cwmpas gan Ceri Brunelli Williams Rhyfedd o fyd. Ges i fy atgoffa o’r dweud yma gan gyd-weithiwr doeth rai wythnosau nôl. A dydi o erioed wedi gwneud cymaint o synnwyr ag y mae o heddiw. Mae’r cyfnod yma yn wahanol i bawb, a bydd pawb yn edrych yn ôl arno gyda barn […]

Darllen mwy

Cadw cysylltiad efo’r Nant gan Siôn Elwyn Hughes Mae Nant Gwrtheyrn yn lle arbennig iawn i nifer — mae’n denu pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd i fwyta, aros, priodi neu gymryd mantais o’r golygfeydd godidog drwy’r flwyddyn. Ond i mi, mae gwybod bod fy nheulu wedi byw, gweithio a siapio cyfnod cynnar y […]

Darllen mwy

Ar ddiwedd wythnos dau gan Mathew Penri Williams Diwedd 2019 oedd hi pan wnes i’r penderfyniad i fynd amdani a newid swydd o fewn y Nant i fod yn diwtor llawn amser. Roedd y syniad yno, yng nghefn fy meddwl, ers i mi gychwyn gweithio yn y Nant bum mlynedd yn ôl. Yn wir, dyna’r […]

Darllen mwy

Y Normal ‘newydd’ gan Ifor Gruffydd Mae ‘na sôn cynyddol wedi bod ar y cyfryngau yn ystod yr argyfwng Covid-19 presennol na fydd pethau byth ‘run fath. Ar y cychwyn, mi feddyliais i, “ia siŵr, pobl negyddol yn siarad ar eu cyfer eto”, ond erbyn hyn dwi’n cytuno hefo ‘nhw’.  Dwi wedi dod i sylweddoli […]

Darllen mwy

Ar ôl wyth yn y Nant gan Eirian Davies (Tiwtor Cymraeg Gwaith) Reit ta! Ydi pawb yn barod? Cwestiwn cyntaf. Pa ddegawd ddaru Caerdydd gael ei sefydlu yn brifddinas Cymru? Mae ’na ddewis ichi – 1930au; 1950au; 1960au. Os fedrwch chi roi’r union flwyddyn, gewch chi bwynt bonws. Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd? Ac ydi […]

Darllen mwy

Cipolwg ar fy ngyrfa gan Gwenda Griffith Dechreuodd fy ngyrfa deledu nôl yn y saithdegau – hynny ydy, y ganrif ddiwethaf! Ymddangos o flaen y camera roeddwn i bryd hynny, rhaglenni plant i’r BBC a rhaglen bnawn i ferched, Hamdden ar HTV. Dyddiau da! Roeddwn i hefyd yn ymhél â’r byd twristiaeth a thrwy ein […]

Darllen mwy
Yn yr wythnosau hyn gan Myrddin ap Dafydd Mae’r wythnosau diwethaf wedi ein dysgu i edrych ar yr un olygfa ddyddiol a bodloni arni. Mi allwn hefyd ei rhannu gydag eraill. Dan ni’n lwcus mai’r Eifl a Charnguwch yw honno o’n cartref ni yn Llwyndyrys – yr ochr arall i’r bwlch i Nant Gwrtheyrn. Er [...]
Darllen mwy

Shani ar y mynydd gan Shân Gwenfron Jones “Trwy feistroli sylwedd mynydd y gellid treiddio i ddyfnaf ei ysbryd.” Wel, dros bum wythnos i mewn i’r cyfnod clo a dwi’n dechrau teimlo hiraeth am y mynyddoedd.  Yn enwedig un mynydd arbennig, Moel Eilio. Fy hoff fynydd yn wir. Copa hyfryd yn edrych i lawr ar […]

Darllen mwy
Fi a fy nghamera gan Llinos Pritchard Dwi’n teimlo’n lwcus i gael bod yn rhan o’r tîm prysur (cyn Covid) yn y swyddfa yn Nant Gwrtheyrn. Mae gweithio yn ‘Y Nant’, fel dan ni’n ei alw, yn brofiad llawer ehangach na gweithio 9 tan 5 tu ôl i’r ddesg a’r sgrin. Dros y tair blynedd [...]
Darllen mwy

Y Cwrs awduron gan Bethan Gwanas Ro’n i ar ganol gwneud Powerpoint am Dewi Prysor pan chwalodd Covid-19 ein bywydau ni. Roedd Dewi i fod yn un o’r awduron ro’n i am eu cyflwyno i’r criw fyddai ar ein Cwrs Awduron Cymru ni ganol Mehefin. O wel, mae’n siŵr y cawn ni gynnal y cwrs […]

Darllen mwy
Dysgu a gweithio yn y Nant gan Laurent Gorce Mae Nant Gwrtheyrn wedi bod yn lle arbennig iawn i mi ers blynyddoedd. Fel heiciwr a rhedwr mynydd ultra brwd, mae’n lle gwych i ymarfer. O’r llwybrau arfordirol technegol i’r tirwedd mynyddig, ac wrth gwrs mae’n cynnwys rhai o’r golygfeydd tlysaf o Ben Llŷn. Ar ddiwrnod [...]
Darllen mwy

Sgwrsio yng nghwmni dysgwyr Nant Gwrtheyrn gan Alun Jones Mae ymweld â’r Nant i sgwrsio â’r dysgwyr yn dal yn bleser pur. Pam? Wel, yn gyntaf, gan fod cyfle i sgwrsio â dysgwyr mor ddiddorol o bedwar ban byd. Rwyf wedi cadw cysylltiad â nifer ohonynt ar hyd y blynyddoedd, gan y byddaf yn gweithio […]

Darllen mwy

Newyddion cyffrous gan Dr Carl Iwan Clowes Gyda’r Nant wedi cau ar gyfer y cyrsiau arferol, ynghyd â lletygarwch y caffi, braf yw nodi bod rhai gweithgareddau yn mynd rhagddynt. Ar lefel bersonol, ’dw i wedi cael y pleser o allu diweddaru fy llyfr ‘Nant Gwrtheyrn – Rebirth of a Lost Village’ a bydd y gyfrol newydd ar […]

Darllen mwy