
Nant Gwrtheyrn > Newyddion
MYNEDIAD AM DDIM 26 Tachwedd 10yb – 4yh Bws Gwennol o’r maes parcio top £1
Ydych chi wedi meddwl am eich parti Dolig eto? Pam na ddewch chi draw yma i’r Nant i ddathlu eleni – bwyd gwych mewn lle hollol hudolus! Byddwn yn cynnig y fwydlen yma i bartion ar ddau ddiwrnod penodol, sef dydd Sadwrn y 3ydd o Ragfyr a dydd Gwener 16eg o Ragfyr, felly os […]
……..cystadleuaeth bach i ddathlu! Mae 2022 yn garreg filltir yn hanes Nant Gwrtheyrn, gyda 40 mlynedd bellach ers cynnal y dosbarth Cymraeg cyntaf. Mae miloedd wedi dilyn y lôn droellog i lawr i’r Nant dros y cyfnod yma, a llawer wedi syrthio mewn cariad gyda’r lleoliad hudol yn ogystal â’r iaith. Be’ well, felly, i […]
Er fod y cyfnodau clo a hunan-ynysu wedi creu problemau di-ri i lawer, doedd eu heffaith ddim yn hollol negyddol i bawb. Daeth llawer o bobl o hyd i dalentau a phosibiliadau nad oeddent wedi eu dychmygu o’r blaen, gan ganu, diddori neu greu pethau o’r newydd i lenwi dyddiau diflas ac i godi calon […]
Yn dilyn y stormydd diweddar, a’r difrod i’r coed, rydym wedi derbyn cyngor pellach parthed y llwybrau yma yn y Nant gan sefydliad Llais y Goedwig. Bydd mynediad i’r goedwig ar gau i’r cyhoedd nes bod gwaith diogelu wedi ei gwbwlhau, a gofynwn i bawb gymeryd gofal o gwmpas y pentref hefyd.
Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi ail-greu Meddygfa eiconig Llithfaen lawr yn y Nant, y Feddygfa lle ganwyd y freuddwyd o brynu ac adfywio’r hen bentref dros hanner can mlynedd yn ôl. Roedd Hen Feddygfa Llithfaen yn rhan o bractis Dr Carl Clowes, y meddyg ddaeth i’r ardal yn 1970 o`i swydd arbenigol […]
Mae’r sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru. Mae ein swyddfa ar agor. Y ffordd orau o gysylltu â ni dros y cyfnod hwn yw drwy e-bost: post@nantgwrtheyrn.org Mae’r safle ar agor i chi ddod am dro. Mae’r Ganolfan Treftadaeth yn parhau ar gau o ganlyniad i waith cynnal […]
Mae prosiect ymchwil cyffrous ar fin dechrau ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, yn edrych ar y geifr gwyllt sy’n crwydro’r ardal ers canrifoedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt wedi cael ei gomisiynu gan Ganolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn i ymgymryd â’r gwaith. Diolch i nawdd caredig Cronfa Datblygu Gynaliadwy AHNE Llŷn (AONB) […]
Mae Edmund Dixon yn byw Swydd Gaerhirfryn ac yn dysgu Cymraeg ers 2017. Dechreuodd ddysgu ar gwrs Blasu yn y Nant ac ers hynny mae wedi parhau gyda amryw o gyrsiau. Mae hefyd yn fardd cyhoeddedig ac yn ysgrifennu yn ei enw barddol Aziz Dixon, gyda nifer o gerddi wedi eu hysbrydoli gan y RS […]
Bydd Nant Gwrtheyrn yn ymddangos ar raglen Countryfile nos Sul, 30 Mai am 6pm ar BBC 1. Bydd y bennod yn cynnwys nifer o straeon difyr o Ben Llŷn, yn cynnwys cwpwl o’r Nant. Cofiwch wylio i weld natur a bywyd gwyllt y Nant a Phen Llŷn yn ei holl ogoniant! Os […]
Kingston Upon Thames ar gyrion Llundain yw cartref teuluol y teulu Robinson – mam Bronwen a’i mab Tomos. Mae Tomos, sydd yn ei dridegau cynnar bellach yn byw yn Newcastle. Mae Cymru a’r Gymraeg yn eu gwaed. Er i Bronwen gael ei geni yn Lloegr, roedd hi’n clywed Cymraeg yn y cartref a threuliodd gyfnod […]
Mae Melanie Cargill yn gweithio i Menter a Busnes, ac fel miloedd o bobl ar draws y wlad wedi bod yn gweithio o adref ers dros flwyddyn. Roedd Mel yn poeni am effaith hyn ar ei Chymraeg gan iddi golli’r cyfle i ymarfer gyda chyd-weithwyr dros baned yn y swyddfa. Roedd hi’n poeni y byddai’n […]
Bydd Caffi Meinir ar agor penwythnos 23 a 24 Ebrill ac yn gwerthu prydau tecawê. Prydau blasus, cartref yn cael eu partio yn ffres gan ein cogydd talentog! Gweld y fwydlen tecawê Bydd hefyd yn bosib i chi gael diod poeth, brechdan, cacen a chawl o’r Caffi wrth fynd am dro rhwng 12 – 4pm […]
Mae Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn, Llithfaen yn chwilio am bobl i ymuno gyda’r tîm. Staff llawn amser Rydym yn recriwtio am gogydd llawn amser i weithio gyda’n prif gogydd. Mae profiad blaenorol yn hanfodol, ond yn bwysicach na dim rydym eisiau person sydd yn angerddol am goginio bwyd cartref ac yn awyddus i ddatblygu […]
Daw Janet Watkin yn wreiddiol o dde Lloegr. Mae ei stori gyda’r iaith Gymraeg yn dechrau pan dreuliodd amser fel myfyrwraig yn Ysbyty Glangwili, lle bu iddi gyfarfod ei gŵr. Penderfynodd Janet o’r dechrau ei bod hi eisiau siarad Cymraeg gyda’i phlant. Yn 1982 mynychodd Gwrs Carlam yn Aberystwyth ac yna dosbarthiadau nos wythnosol gyda […]
Mae Dr Jonathan Hurst yn feddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey, ac ers bron i ddwy flynedd mae o’n dysgu’r Gymraeg. Daw Jonathan yn wreiddiol o Stockport ac mae o bellach wedi ymgartrefu yn ardal Lerpwl. Fel plentyn roedd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau athletau yng ngogledd Cymru ac fe gafodd […]
Yn ystod y pandemig, mae’r Ymddiriedolwyr wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd, gan fanteisio ar Zoom. Yn wir, mae’r patrwm arferol o gyfarfodydd chwarterol wedi’i gynyddu i bob yn ail fis er mwyn caniatáu craffu llawn ar y sefyllfa wrth i ganllawiau’r Llywodraeth newid. Mae ymddiriedolwyr unigol wedi parhau i ddarparu mewnbwn yn ystod yr […]
Trefniadau dros gyfnod y Nadolig 2020 Gyda’r cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yng Nghymru o 20/12/2020 bydd yn ofynnol i ni gau’r safle am gyfnod. Bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru. Bydd safle‘r Nant ar gau o 24/12/2020 tan 04/01/2021. Os oes gennych unrhyw ymholiadau […]
Neges gan ein Cadeirydd, Huw Jones ar ran yr Ymddiriedolaeth Wrth i’r geiriau hyn gael eu hysgrifennu, mae effaith y coronafeirws mor ddrwg ag erioed. Ar hyn o bryd, yn anffodus, mae nifer o wasanaethau’r Nant (yn cynnwys Caffi Meinir) yn dal ar gau oherwydd hynny. Ond mae gobaith – mae’r brechiad wedi cyrraedd, diolch […]
Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith ar ei newydd wedd yn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn yn 2021. Nod y cynllun, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw cryfhau sgiliau Cymraeg gweithleoedd ar hyd a lled Cymru drwy gynnig croestoriad o gyrsiau Dysgu Cymraeg sydd wedi eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Yn sgil pandemig COVID-19, […]
Ydach chi’n meddwl dathlu rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror? Chwilio am leoliad diogel a phreifat? Efallai y medrwn ni helpu. Rydym yn cynnig pecyn arbennig ar gyfer dathliadau bach ac arbennig. Yn cynnwys cyngor a chefnogaeth arbenigol gan staff i drefnu’r digwyddiad wedi ei deilwra yn arbennig i’ch anghenion chi. Cysylltwch am fwy o fanylion ac […]
Mae dysgu Cymraeg o bell yn derm sydd wedi dod yn fwfwy cyfarwydd yn 2020 wrth i’r dull rhithiol o ddysgu gymryd lle dysgu traddodiadol mewn ystafell ddosbarth. Un o brif fanteision dysgu o bell yw’r ffaith bod unrhyw berson, o unrhyw le yn y byd, yn gallu dilyn cyrsiau Cymraeg y Nant. A dyma’n […]
Mae Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd a Chanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf i gynnal gŵyl rithiol i ddathlu’r iaith Gymraeg, ac mae’r cwbl am ddim. Bydd Gŵyl NantIaith yn cael ei chynnal dydd Sadwrn 31 Hydref ar AM (Am bob dim) – platfform digidol Cymraeg. Bydd […]