Cipolwg ar fy ngyrfa gan Gwenda Griffith

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Cipolwg ar fy ngyrfa gan Gwenda Griffith

Cipolwg ar fy ngyrfa
gan Gwenda Griffith

Dechreuodd fy ngyrfa deledu nôl yn y saithdegau – hynny ydy, y ganrif ddiwethaf! Ymddangos o flaen y camera roeddwn i bryd hynny, rhaglenni plant i’r BBC a rhaglen bnawn i ferched, Hamdden ar HTV. Dyddiau da!

Roeddwn i hefyd yn ymhél â’r byd twristiaeth a thrwy ein cwmni Crwydro Cymru, roeddem yn cynnig gwasanaeth trefnu i ymwelwyr, yn bennaf i longau môr deithio yn llawn Americanwyr fyddai yn angori yng Nghaergybi ac yn Abergwaun. Ein dyletswydd ni oedd trefnu’r bysus – hyd at chwech yn aml. Trefnu’r tywyswyr a chanddynt wybodaeth am hanes Cymru, cinio ganol dydd ac adloniant ar y cei fin nos wrth i’r llong hwylio i’r porthladd nesa. Cefais gyfle i weithio ar yr Argonaut a theithio o Southampton i Gaeredin. Gwledd oedd cael ymweld â llefydd fel Mull, Skye a Harris.

Yn 1982 daeth S4C i fodolaeth. Roedd y sianel yn edrych am frîd newydd o gynhyrchwyr teledu oedd yn barod i fentro a gweithio yn annibynnol. Roedd yn gyfle perffaith i mi i gyfuno fy mhrofiad o redeg busnes gyda fy mhrofiad o’r byd teledu. Mentrodd dwy ohonom – Hazel Kirkham sydd bellach yn byw yn Seland Newydd, a minnau. Sefydlwyd ein cwmni Fflic, yr unig gwmni o ferched bryd hynny. Do, mi fu yn gryn sialens, ond braf ydy gallu dweud i’r cwmni or-oesi hyd nes imi ei werthu yn 2005 i gwmni Boomerang. Mae tîm crai Fflic yn dal i weithio o fewn strwythur newydd Boom, a rydw i’n falch iawn o bob un ohonynt.

Petaech yn gofyn beth oedd y rhaglenni y cefais y boddhad mwyaf ohonynt, mae’n rhaid imi gyfaddef eu bod yn syrthio i ddau gategori; sef pensaernïaeth a chynllunio, a maes dysgu Cymraeg i oedolion. Yn 1989 cefais gyfle gan S4C i ymchwilio i’r maes hwn – dyna pryd y deuthum i adnabod Elen Rhys o Acen. Ffrwyth yr ymchwil oedd Now you’re talking – 72 o raglenni! Wedi hyn daeth Welsh in a Week a chyfle i Nia Parry arddangos ei sgiliau dysgu. Cynhyrchwyd sawl cyfres cyn mentro i fyd teledu realiti gyda cariad@iaith. A dyma ddechrau fy mherthynas gyda Nant Gwrtheyrn. Cofiaf yn iawn y gyfres gyntaf, ym mis Chwefror 2003, heb feddwl dim y gallai fod yn dywydd garw! Cofiaf Janet Street Porter yn arbennig – pwy allai anghofio ei chyfraniad i’r gyfres? A chofiaf orfod symud pawb o’r Nant i Gaernarfon a stiwdio Barcud pan gyrhaeddodd yr eira annisgwyl.

Bu sawl cyfres o cariad@iaith ers hynny, wedi eu lleoli yn Fforest, yn Penybryn a’r olaf i mi fel cynhyrchydd, nôl yn y Nant yn 2014. Cafodd ambell seleb lwyddiant yn dysgu’r iaith, eraill dim llwyddiant o gwbwl! Ond roedd gwerth adloniannol y gyfres yn ddi-gwestiwn, yn ogystal wrth gwrs â lledaenu neges bwysig am yr iaith.

Rhoddodd Fflic y cyfle imi wireddu diddordeb arall sydd wedi llywio fy mywyd. Rhaid cyfaddef mod i wedi bod yn dipyn o adict i gylchgronau tai a chynllunio erioed. Ond yn fwy na hynny, oedd fy niddordeb mewn pobl a’r berthynas ddiddorol honno rhwng pobol a’u tai. A dyna ddechrau Galwch Acw gyda Mici Plwm, ac wedyn 04Wal gydag Aled Sam. Syniad digon syml, dim gimics, dim mwy na sgwrsio a gadael i Aled Sam arsylwi ar yr hyn roedd yn ei weld yn ei ffordd arbennig ei hun. Hyn ynghyd â gallu’r cyfarwyddwr Rhodri Davies i ddweud stori drwy luniau – crefftwr yn wir. Cyfle wedyn i fynd gam ymhellach, a dod â phensaernïaeth i’r sgrin fach, drwy raglenni megis Y Tŷ Cymreig, Y Dref Gymreig, ac yn goron ar y cyfan Cartrefi Cefn Gwlad Cymru, cyfres o chwech o raglenni awr o hyd yn seiliedig ar lyfr Peter Smith a’r Comisiwn Brenhinol. Er mawr syndod, cefais fy ngwneud yn aelod anrhydeddus o’r RSAW am gyflwyno pensaernïaeth i gynulleidfa eang.

A dyma fi yn un o Ymddiriedolwyr Nant Gwrtheyrn ers rhai blynyddoedd bellach. Yn y cyfnod hwn rydw i wedi ail gydio fy niddordeb ym maes dysgwyr Cymraeg, ond hefyd wedi cael cyfle i ymhél ag ochr gynllunio a dylunio’r ganolfan. Gwyn fy myd!

feeb