Coffi Ffa Da ar gael yn y Nant

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Coffi Ffa Da ar gael yn y Nant

Rydym yn falch iawn o fod yn defnyddio brand newydd o goffi lleol, Ffa Da yng nghaffi Meinir. Mae Ffa Da yn goffi arbenigol wedi’i rostio’n ffres sy’n cael ei gynhyrchu ar arfordir goledd Cymru yn Llandanwg, Harlech. Mae’r cwmni wedi ei achredu yn llawn gan yr SCA (Cymdeithas Goffi Arbenigol).

Yn ogystal ag ansawdd rhagorol y coffi ac ethos moesegol y cwmni, yr hyn oedd yn apelio fwyaf i ni am Ffa Da yw pa mor angerddol ydynt am yr amgylchedd a chynhyrchu cynnyrch ecogyfeillgar. Mae pob agwedd o’u busnes yn cydymffurfio gyda’r dair reol aur – ail-ddefnyddio, lleihau ac ailgylchu. Bydd holl ddeunydd y pecynnau a ddefnyddir gennym yn cael eu caglu’n ôl gan Ffa Da i’w hailddefnyddio.

Dywedodd Sioned Williams o Ffa Da: “Rydym yn falch iawn o fod yn ychwanegu Nant Gwrtheyrn at ein rhestr o gyfanwerthwyr. Ein nod o’r dechrau oedd dod o hyd i goffi sy’n cynnig ansawdd mewn cwpan, ac mae’r ansawdd yma bellach yn cael ei gydnabod gan lawer o fusnesau ar draws gogledd Cymru sy’n ei werthu a’i ddefnyddio.

“Ynghyd â’n hethos amgylcheddol, mae sicrhau cynnyrch moesegol yn hynod o bwysig i ni. Daw’r coffi’n drwy gyflenwyr sydd ag ymrwymiad mawr i gynaliadwyedd, sy’n cynnwys ymweliadau personol â’r ffermydd lle tyfir y coffi. Maent yn sicrhau bod pris teg yn cael ei dalu sy’n sicrhau ansawdd da i’r ffa coffi, gan fod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo gyda phris teg am goffi sydd o ansawdd eithriadol.

“Unwaith y byddwch wedi blasu cwpan o’n coffi ffres, does dim yn cymharu!”

Ychwanegodd Denise Picot, Rheolwr Arlwyo Nant Gwrtheyrn: “Mae’n bwysig i ni ein bod yn defnyddio coffi arbenigol o ansawdd, ac mae’n fonws bod Ffa Da hefyd yn fusnes bach lleol sydd newydd ei sefydlu.

“Rydym yn fusnes sy’n ymwybodol o’r amgylchedd, ac roedd ethos amgylcheddol a moesegol Ffa Da yn apelio atom yn ogystal ag ansawdd gwych eu coffi.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Ffa Da yn y dyfodol ar gyfleoedd a chynlluniau cyffrous eraill.”

Mae Caffi Meinir ar agor bob dydd 10am – 4pm. Dewch draw i roi cynnig ar y coffi!

Am fwy o wybodaeth am Ffa Da ewch i’w gwefan: https://ffada.co.uk/

feeb