O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol yng Nghymru gyda lledaeniad coronafirws COVID-19, rydym wedi penderfynu gohirio’n darpariaeth addysg hyd at 20 Ebrill, 2020.
Y cyrsiau a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn fydd:
Lefel | Cod | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
Uwch 2 | C2007 | 30/3/2020 | 3/4/2020 |
Mynediad 1 | C2008 | 23/3/2020 | 27/3/2020 |
Mynediad 2 | C2009 | 30/3/2020 | 3/4/2020 |
Gloywi | C2010 | 6/4/2020 | 8/4/2020 |
Yn achos y cyrsiau sy’n cael eu chynnig y tu hwnt i 20 Ebrill, byddwn yn monitro’r sefyllfa ehangach yng Nghymru ac yn rhoi gwybod i ddysgwyr am unrhyw newid pellach i’r ddarpariaeth addysg yma yn Nant Gwrtheyrn.
Diolch yn fawr am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yma i Nant Gwrtheyrn yn y man.
Am fwy o wybodaeth neu am gyngor pellach, cysylltwch a’r Adran Addysg drwy ffonio 01758 750334 (dewis opsiwn 3) neu e-bostio addysg@nantgwrtheyrn.org