Yn sgil llwyddiant cwrs ‘Merched mewn Llenyddiaeth Gymraeg’ y llynedd gyda Bethan Gwanas, daeth 14 o ddysgwyr brwd atom eto i fwynhau cwrs arall yng nghwmni’r awdures. Bu’r cwrs yn canolbwyntio ar rai o awduron cyfoes gorau Cymru gan gynnwys awduron amrywiol megis Manon Steffan Ros, Sonia Edwards a Lleucu Roberts, ond dynion hefyd y tro hwn, megis Rhys Iorwerth, Mihangel Morgan ac Ifor ap Glyn. Rhyddiaith oedd o dan y chwyddwydr yn bennaf, ond trafodwyd hefyd gerdd neu ddwy. Fe ddaeth Ifor ap Glyn draw i gwrdd â’r dysgwyr ar y nos Fawrth.
Dyma beth oedd gan Ifor ap Glyn i’w ddweud yn dilyn yr ymweliad a neges bwysig i’r holl ddysgwyr sy’n dal ati ar y daith iaith:
‘Roedd yn hyfryd cael dod draw am noson i gyfarfod â chriw mor frwdfrydig. Daliwch ati i ddarllen, gyfeillion!’
Roedd y tywydd trofannol dros yr wythnosau diwethaf yn gyfle gwych i gynnal rhai o’r sesiynau yn yr ardd tra bod yr haul yn tywynnu.
Yn ystod yr wythnos cafwyd siawns i ymuno â Chlwb Darllen arbennig gyda darllenwyr Cymraeg lleol. Cawsom brynhawn hwyliog yn trafod y llyfr ‘Inc’ gan Manon Steffan Ros. Yn ystod y prynhawn cynhaliwyd sesiynau sgwrsio un i un gyda’r darllenwyr lleol cyn mynd ati i ffurfio’r Clwb Darllen mwyaf erioed yn y Capel dros baned a chacen! Roedd Alun Jones yno hefyd sef golygydd ‘Inc’ i drafod rhywfaint ar y broses olygyddol. Roedd barn y Clwb Darllen yn unfrydol, ewch i chwilio am gopi reit handi i’w fwynhau a gwneud y gorau o orweddian yn yr ardd gyda llyfr da.
Dyma beth oedd gan un o’r dysgwyr i’w ddweud am y cwrs:
“Wel, am wledd ! Ga i ddweud diolch yn fawr iawn i chi am ddarparu Cwrs mor wych . Dyma’r Cwrs gorau dw i erioed wedi ei fynychu. Mae mor braf cael defnyddio’r Iaith er mwyn trafod pethau eraill. Ro’n i wrth fy modd yn siarad am lyfrau am wythnos . Ond, wnes i ddysgu cymaint hefyd am yr iaith , ac iaith naturiol , iaith sgwrsio bob dydd sy’n rhywbeth ‘refreshing’ – (ymddiheuriadau) a rhywbeth dw i wir ei angen. Roedd sesiwn efo pobl leol/normal yn berffaith i godi hyder a chlywed iaith yr ardal. Cael bod efo cymysgedd o bobl o’r Gogledd a’r De wnaeth ychwanegu at y profiad : roedd mor braf clywed acennau / tafodiaith gwahanol. Roedd detholiad y llyfrau mor ddiddorol ag roedd yn braf darllen pytiau bach sy’n ysgogi fi i ddarllen mwy. Roedd cymaint o chwerthin ond cymaint o ddysgu hefyd am yr iaith a thafodiaith, ac arddull yr awduron gwahanol a sut i ddisgrifio eu gwaith. Stoncar o Gwrs!! Diolch i chi a diolch i Bethan am ei gwaith caled ac roedd y sgons yn wych, hefyd!”
Mae’r cyrsiau themâu Uwch 2 yn hynod boblogaidd gyda sawl dysgwr yn dychwelyd atom o flwyddyn i flwyddyn. Cynhelir y cwrs Uwch 2 nesaf rhwng y 1af a’r 5ed o Hydref (2018) ac mae’n gwrs newydd sbon sy’n trafod Degawdau’r Chwyldro dan arweiniad yr awdures boblogaidd, Angharad Tomos. Mae rhai llefydd ar ôl felly ewch ati i gofrestru ar unwaith.
Cofiwch am Lyfrau Amdani – cyfres newydd, gyffrous o lyfrau darllen ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, wedi eu graddoli ar bedair lefel. Am ragor o fanylion cysylltwch â gwybodaeth@llyfrau.cymru neu dilynwch @LlyfrauAmdani