Wythnos fendigedig arall yn y Nant gyda chriw o ddysgwyr gweithgar unwaith eto. Dyma’r criw yn mwynhau’r tywydd braf. “O na fyddai’n haf o hyd”!!
Cafodd yr holl ddysgwyr siawns i ymarfer eu Cymraeg ym Mhwllheli’r wythnos hon. Mae’r cwrs Mynediad 1 yn addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml. Cynhelir y cwrs Mynediad nesaf o’r 25ain hyd at y 29ain o Fehefin 2018.
Pleser oedd croesawu Mark ac Angela yn ôl atom yr wythnos hon. Bu i’r ddau fynychu’r cwrs Cyn-fynediad yn ôl ym mis Ebrill eleni. Mae’r ddau wedi bod yn brysur yn ymarfer eu Cymraeg o amgylch yr ardal yn ddiweddar. Maent am fynd ati i ymuno â gweithgareddau Grŵp Dysgwyr Dwyfor wedi iddynt orffen y cwrs Mynediad 1 er mwyn dal ati i ymarfer eu sgiliau dysgu Cymraeg yn wythnosol.