Dod o hyd i Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn > Dod o hyd i Nant Gwrtheyrn

SAT NAV: LL53 6NL

Car

Os ydych yn dod ar gwrs neu i aros yn Nant Gwrtheyrn mae croeso i chi ddod â char i lawr i’r pentref a’i adael yn y maes parcio bychan. Os ydych yn dod i Nant Gwrtheyrn fel ymwelydd am y dydd neu ychydig oriau, gofynnwn yn garedig (oherwydd diffyg lle i barcio a diogelwch ar y ffordd) i’r bobl hynny sy’n gallu gwneud, gerdded i lawr o’r maes parcio sydd ar y chwith ym mrig yr allt. Byddwch yn cymryd tua 20-30 munud i gerdded i lawr a thua 40 – 50 munud i gerdded yn ôl i fyny. Mae croeso i unrhywun sydd yn methu cerdded ymhell, am resymau corfforol, ddod â char i lawr i’r pentref.

O gyfeiriad Caernarfon

Dilynwch yr A499 i gyfeiriad Pwllheli hyd nes y gwelwch yr arwyddion brown sy’n eich arwain i Nant Gwrtheyrn. Trowch oddi ar yr A499 yn Llanaelhaearn i gyfeiriad Nefyn (B4417). Wedi i chi gyrraedd pentref Llithfaen, trowch i’r dde i fyny’r allt yn y groesffordd, gyferbyn â’r siop a’r Swyddfa Bost. Dilynwch y ffordd hon am tua 2 filltir (3.3km) heibio i dai ar y dde a maes parcio ar y chwith cyn i’r ffordd gulhau a dechrau mynd i lawr gallt eithaf serth i lawr y dyffryn. Byddwch yn ofalus ar y ffordd hon gan nad oes llawer o fannau pasio ar ei hyd. Mae maes parcio bychan ar y dde cyn i chi gyrraedd canol y pentref.

O gyfeiriad Porthmadog

Dilynwch yr A497 i gyfeiriad Cricieth. Ewch drwy Cricieth a heibio i bentref Llanystumdwy. Trowch i’r dde oddi ar yr A497 ar ôl Llanystumdwy i gyfeiriad Chwilog (B4354). Dilynwch y ffordd hon nes dod i bentref Y Ffôr, yn y groesffordd trowch i’r dde i gyfeiriad Llanaelhaearn (A499). Yn Llanaelhaearn fe welwch yr arwyddion brown sy’n eich arwain i Nant Gwrtheyrn. Trowch i’r chwith i gyfeiriad Nefyn (B4417). Wedi i chi gyrraedd pentref Llithfaen, trowch i’r dde i fyny’r allt yn y groesffordd gyferbyn â’r siop a’r Swyddfa Bost. Dilynwch y ffordd hon am tua 2 filltir (3.3km) heibio i dai ar y dde a maes parcio ar y chwith cyn i’r ffordd gulhau a dechrau mynd i lawr gallt eithaf serth i lawr y dyffryn. Byddwch yn ofalus ar y ffordd hon gan nad oes llawer o fannau pasio ar ei hyd. Mae maes parcio bychan ar y dde cyn i chi gyrraedd canol y pentref.

Trafnudiaeth gyhoeddus

Bws

Mae’r arosfan fws agosaf ym mhentref Llithfaen.

Tren

Mae’r gorsafoedd trên agosaf ym Mhwllheli a Bangor.

Cwch

Mae’r porthladd agosaf yng Nghaergybi.

Awyren

Mae’r meysydd awyr agosaf ar Ynys Mon ac yna ym Manceinion a Lerpwl