Cyhoeddi enillydd ein cystadleuaeth ysgrifennu

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Cyhoeddi enillydd ein cystadleuaeth ysgrifennu

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gystadlu yn ein cystadleuaeth ysgrifennu greadigol. Roedd yr ymateb yn wych, gyda degau o ddysgwyr yn cymryd rhan a’r safon yn uchel iawn.

Y dasg oedd ymateb yn greadigol i ddewis o dri llun yn ymwneud a Nant Gwrtheyrn. Dewisodd y beirniad, Myrddin ap Dafydd y darnau gorau o bedwar lefel:

  • Mynediad – Bethan Robinson
  • Sylfaen – Sandy NicDhòmhnaill Jones
  • Canolradd – Ken Snowball
  • Uwch – Jonas Thungren Lindbärg

Gallwch ddarllen y darnau buddugol a sylwadau Myrddin ar y pedwar darn yma.

Mae’n bleser cyhoeddi mai’r prif enillydd, fydd yn derbyn tocyn anrheg gwerth £50, yw Jonas Thungren Lindbärg o Sweden. Cafodd ei ysbrydoli gan y llun o’r ystafell ddosbarth.

Meddai Myrddin: “Roedd y cynnyrch yn wirioneddol dda, yn ymateb yn greadigol iawn i’r lluniau ac i’r flwyddyn ryfedd hon. Rodd hi’n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y goreuon ym mhob dosbarth, ond mae dawn delynegol Jonas yn ysgubol. Llongyfarchiadau iddo a dymuniadau gorau i bawb!”

Yr hyn sy’n anhygoel am yr enillydd Jona, yw nad yw erioed wedi siarad y Gymraeg nag wedi eistedd mewn ystafell ddosbarth i ddysgu’r iaith. Dyma ei hanes yn ei eiriau ei hun.

 

“Dw i’n byw mewn tref fach o’r enw “Filipstad” yng ngorllewin Sweden. Mi wnes i ddechrau ychydig ar y Gymraeg dair flwyddyn a hanner yn ôl ond dw i wedi ei dysgu hi o ddifri ers dwy flwyddyn.

“Mae hyn y tro cyntaf dw i wedi trio ysgrifennu rhywbeth yn Gymraeg. Dw i erioed wedi siarad Cymraeg ond galla i ddeall yn eitha da, yn enwedig Cymraeg canoloesol achos dechreuodd fy niddordeb yn y Gymraeg efo diddordeb mewn hanes.

“Ar ddechrau mi wnes i ddefnyddio Duolingo ac wedyn bach o “Say Something in Welsh”, ond gan mwyaf dw i wedi darllen… gyfieithiad o “Harri Potter”, rhyw lyfrau gan Ifan Morgan Jones a Manon Steffan Ros (dw i’n hoff iawn o “Llyfr Glas Nebo”) a hefyd Llyfr Coch Hergest ac ychydig farddoniaeth o Lyfr Taliesin ond mae hon yn anodd! Dw i wedi gwylio ychydig o gyfresau (Craith, Bang, Un Bore Mercher) a gwrando ar bodlediadau.

“Ffeindiais i’r manylion am y gystadleuaeth ar Facebook, dw i’n dilyn llawer o bethau o Gymru er mwyn cael darllen a chlywed Cymraeg yn aml. Dw i’n teimlo’n hapus a wedi synnu, ac yn falch o eiriau hyfryd Myrddin.“Dw i’n gobeithio y bydda i’n cael cyfle i ddod i Gymru a chyfarfod pobl sydd yn siarad Cymraeg ac ymarfer efo nhw yn fuan.”

“I saw the competition advertised on Facebook, I follow a lot of Welsh pages to that I can read and hear the Welsh. I’m really happy and shocked to have won, and pleased Myrddin’s kind words.

Llongyfarchiadau Jonas, a diolch i bawb wnaeth gystadlu. Daliwch ati!

feeb