Cymraeg Gwaith i ddychwelyd ar ei newydd wedd yn 2021

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Cymraeg Gwaith i ddychwelyd ar ei newydd wedd yn 2021

Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith ar ei newydd wedd yn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn yn 2021.

Nod y cynllun, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw cryfhau sgiliau Cymraeg gweithleoedd ar hyd a lled Cymru drwy gynnig croestoriad o gyrsiau Dysgu Cymraeg sydd wedi eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yn sgil pandemig COVID-19, mae’r cynllun wedi cael ei addasu, gyda chwrs hunan-astudio estynedig newydd, yn ogystal â chyrsiau dwys sy’n cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol.  Mae Nant Gwrtheyrn yn falch o fod yn un o’r darparwyr hynny fydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dwys rhithiol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021.

Dywedodd Rhodri Evans, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn: “Ar ôl misoedd o waith caled yn cynllunio a pharatoi gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn falch iawn o weld y cyrsiau dwys ‘Defnyddio’r Gymraeg’ yn dychwelyd, dan ofal Nant Gwrtheyrn.

“Bydd rhain yn gyrsiau rhithiol gyda chwe sesiwn ddysgu yn cael eu darparu gan diwtoriaid profiadol dros gyfnod o bythefnos.  Mae’r cyrsiau hefyd yn cynnwys elfennau hunan-astudio sydd wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer y dull newydd hwn o ddysgu. Bydd y cyrsiau’n gorffen drwy gynnal digwyddiadau ym mis Mawrth i ddathlu llwyddiant pawb fydd wedi cymryd rhan.

“Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn gan gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd a’r dosbarthiadau yn barod yn dechrau llenwi.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig opsiynau ar gyfer dysgu, gwella, a defnyddio sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i weithwyr ynghyd â’u cyflogwyr.

“Mae pandemig COVID-19 wedi newid ein byd. Roedd datblygu adnoddau Dysgu Cymraeg digidol yn barod yn flaenoriaeth i’r cynllun Cymraeg Gwaith, ac mae’r gwaith hwnnw wedi prysuro dros y misoedd diwethaf, gyda dewis helaeth i’n dysgwyr. 

“Rydym ni wedi addasu ein gwasanaethau er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i gyflogwyr a’u gweithleoedd ddysgu a mwynhau’r Gymraeg ac yn falch o fod yn gweithio gyda Nant Gwrtheyrn unwaith eto.”

Os oes gennych chi ddiddordeb gwybod mwy am y cyrsiau, cysylltwch gydag adran Addysg Nant Gwrtheyrn: cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org

Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ei ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’i ddarparu gan ddarparwyr cyrsiau’r Ganolfan, gan gynnwys Nant Gwrtheyrn.

feeb