Cynnig rhywbeth i bawb

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Cynnig rhywbeth i bawb

Rydym wrth ein bodd yn clywed am ddiddordebau amrywiol ein myfyrwyr, yn enwedig pan maent yn gallu parhau i ddilyn eu diddordeb yn ystod yr wythnos o ddysgu yn y Nant.

 

Treuliodd Louise Bastock wythnos efo ni ar gwrs Cymraeg Gwaith ym mis Ionawr. Nid yn unig wnaeth hi fwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg yn fawr, sydd wedi rhoi hwb a hyder iddi siarad mwy o Gymraeg adref gyda theulu a ffrindiau. Ond hefyd roedd hi’n gallu parhau gyda’i diddordeb wnaeth hi gychwyn yn Ebrill 2019 ar ei stepen drws!

 

Dechreuodd Louise nofio gwyllt flwyddyn ddiwethaf, ac ers hynny mae hi wedi nofio yn ddyddiol ac yn anelu i nofio 365 o ddyddiau. Dyma sut mae nofio gwyllt yn ei helpu: “Mae gen i anxiety a dw i wedi cael iselder am spel llynedd. Wnes i clywed lot o pethau am nofio gwyllt ar gyfer iechyd meddwl ac un diwrnod penderfynais i jyst trio fo. Ers hynny dw i’n mynd bob dydd, fel her i fi; ond dw i’n credu lot o bobl yn cael yr budd trwy mynd unwaith yr wythnos neu llai. Dw i’n teimlo lot mwy well rŵan ac yn gallu neud lot mwy o pethau diolch i manteision nofio gwyllt. Byswn yn annog unrhyw un i drio fo… dysgu Cymraeg a nofio gwyllt a gallwch wneud y ddau yn Nant Gwrtheyrn. Dw i wedi cael wythnos anhygoel a mor falch efo’r effeithiau’r cwrs ar fy Cymraeg!”

 

Mae’r Nant yn cynnig profiad dysgu Cymraeg cwbl unigryw i bobl. Mae dysgu iaith newydd yn waith caled, ond mae’n bwysig cael balans. Mae ein cyrsiau preswyl yn cynnig amser rhydd i fyfyrwyr gael ymlacio hefyd. P’un ai drwy ddarllen llyfr, dringo mynydd neu nofio gwyllt – gallwch wneud y cyfan yma yn y Nant.

feeb