Hysbyseb Swydd
Teitl y swydd: Cynorthwyydd gweinyddol Cymraeg Gwaith
Adran: Addysg
Yn atebol i’r: Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith / Rheolwr Addysg
Cyflog: I’w drafod ac yn ddibynnol ar gymwysterau (Cytundeb blwyddyn i ddechrau)
Oriau: Swydd Rhan Amser – 15 awr yr wythnos (gweithio ar ddydd Llun a dydd Gwener)
I ddechrau: Cyn gynted â phosib
Pwrpas y swydd:
Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn yn awyddus i benodi Cynorthwyydd gweinyddol Cymraeg Gwaith brwdfrydig a threfnus i weithio’n agos gyda’r Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith. Bydd dyletswyddau’n cynnwys llungopïo a pharatoi adnoddau dysgu, ymateb i ymholiadau, cofnodi a gweinyddu archebion cyrsiau, casglu, trefnu a chofnodi data a gwneud trefniadau ymarferol er mwyn cefnogi’r prosiect Cymraeg Gwaith.
*Noder: Efallai y bydd gofyn cynorthwyo â gwaith gweinyddol y cyrsiau Prif Ffrwd hefyd fel bo angen.
Manyleb bersonol / sgiliau / profiad:
- Y gallu i ddefnyddio rhaglenni Word, Outlook ac Excel yn effeithiol
- Sgiliau gweinyddol cryf a phrofiad blaenorol o waith gweinyddol
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn fewnol ac allanol yn Gymraeg a Saesneg
- Trefnus a chwrtais
- Cyfathrebwr arbennig
- Sgiliau ysgrifennu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r gallu i siarad y Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y busnes*
Dyddiad cau: 21/02/2020
Ceisiadau trwy lythyr a CV