Pleser oedd lansio ein rhaglen gyrsiau ar gyfer 2020 yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Gallwch weld y rhaglen yma.
Mae’r myfyrwyr sydd wedi bod efo ni diwedd y flwyddyn wedi mwynhau amryw o brofiadau, o daith i Blas yn Rhiw i ddiod o flaen y tân yn nhafarn Y Whitehall, Pwllheli.
Bu criw hwyliog draw ar gwrs uwch dau ym mis Tachwedd. Cwrs hanes brwydr yr iaith Gymraeg gan y tiwtor Angharad Tomos.
Dywedodd Gwyn ap Tomos, un o fynychwyr y cwrs: “Roedd y cwrs yn lot o hwyl a sbri ac yn ddefnyddiol iawn. Nes i ddysgu llawer am hanes yr iaith a mwynhau cael teithio o gwmpas ardal Dyffryn Nantlle efo Angharad yn clywed hanes llenorion lleol.”
Pleser mawr oedd cael y comediwr Kiri McLean yma ar gwrs sylfaen, mae hi’n awyddus i ddod nôl a pharhau i ddysgu’r iaith.