Dysgu

yn Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn > Dysgu

Rhaglen Gyrsiau 2023-24

Rydym yn falch o gynnig cyrsiau preswyl a rhithiol dwys i ddysgwyr o bob lefel yn ein rhaglen ar gyfer 2023/24. Gallwch brofi wythnos o ddysgu dwys Nant Gwrtheyrn o’ch cartref neu yn ein canolfan fendigedig ym Mhen Llŷn. Dewiswch eich lefel a chofrestrwch heddiw!

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel.

Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org

Dosbarth rhithiol ar lein

*Disgownts yn berthnasol i gyrsiau preswyl yn unig.

2023

10/07/202314/07/2023Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2346
04/12/202306/12/2023Cwrs BlasuC2412
11/12/202315/12/2023Cwrs Mynediad Rhan 1C2413

2024

15/01/202419/01/2024Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2415
15/01/202419/01/2024Cwrs Mynediad Rhan 2C2414
22/01/202426/01/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2416
29/01/202402/02/2024Cwrs Uwch 1 C2417
05/02/202407/02/2024Cwrs Gloywi IaithC2418
08/04/202412/04/2024Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2426
15/04/202419/04/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2428
08/07/202412/07/2024Cwrs Mynediad Rhan 1C2439

Dwi wrth fy modd gyda’r cwrs Sylfaen ar-lein: tiwtor gwych, awyrgylch hamddenol, cyfranogwyr sy’n cymell, deunydd gwych, ymarferion difyr a chynydd amlwg. Cwrs delfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu o bell. Fydda i nôl yn fuan ar gyfer y lefel nesaf!

Preswyl

2023

26/06/202328/06/2023Cwrs Gloywi IaithC2344
03/07/202305/07/2023Cwrs BlasuC2345
10/07/202314/07/2023Cwrs Mynediad Rhan 1C2347
17/07/202321/07/2023Cwrs Mynediad Rhan 2C2348
24/07/202328/07/2023Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2349
11/09/202315/09/2023Cwrs Mynediad Rhan 1C2401
25/09/202329/09/2023Cwrs Mynediad Rhan 2C2402
02/10/202306/10/2023Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2403
09/10/202313/10/2023Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2404
16/10/202320/10/2023Cwrs Uwch 1 C2405
23/10/202325/10/2023Cwrs Gloywi IaithC2406
06/11/202310/11/2023Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2407
20/11/202324/11/2023Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2408
27/11/202301/12/2023Cwrs Mynediad Rhan 1C2409
04/12/202308/12/2023Cwrs Mynediad Rhan 2C2410
11/12/202315/12/2023Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2411

2024

05/02/202409/02/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2419
19/02/202421/02/2024Cwrs BlasuC2420
26/02/202401/03/2024Cwrs Mynediad Rhan 1C2421
04/03/202408/03/2024Cwrs Mynediad Rhan 2C2422
11/03/202415/03/2024Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2423
18/03/202422/03/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2424
08/04/202412/04/2024Cwrs Uwch 1 C2425
15/04/202419/04/2024Cwrs Uwch 2 C2427
22/04/202424/04/2024Cwrs Gloywi IaithC2429
29/04/202403/05/2024Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2430
13/05/202417/05/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2431
20/05/202422/05/2024Cwrs BlasuC2432
03/06/202407/06/2024Cwrs Mynediad Rhan 1C2433
10/06/202414/06/2024Cwrs Mynediad Rhan 2C2434
17/06/202421/06/2024Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2C2435
24/06/202428/06/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2436
01/07/202405/07/2024Cwrs Uwch 1 C2437
08/07/202412/07/2024Cwrs Uwch 2 C2438
15/07/202417/07/2024Cwrs Gloywi IaithC2440
22/07/202426/07/2024Cwrs Canolradd Rhan 1 a 2C2441

Cyrsiau Cymraeg Gwaith 2023/24

Yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu’ch Cymraeg ar gyfer eich gwaith?

Mae dosbarthiadau rhithiol a phreswyl Cymraeg Gwaith dwys ar lefelau Canolradd, Uwch a Gloywi ar gael yn ystod 2023/24.

Wedi eu cyllido’n llawn!

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â ni: cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org

Dechrau Gorffen Lefel Dull
24/07/2023 28/07/2023 Canolradd Rhithiol
04/09/2023 08/09/2023 Uwch Rhithiol
18/09/2023 22/09/2023 Gloywi – Ysgrifennu Rhithiol
25/09/2023 29/09/2023 Gloywi – Siarad Rhithiol
02/10/2023 06/10/2023 Canolradd Preswyl
04/09/2023 08/09/2023 Uwch Preswyl
06/11/2023 10/11/2023 Canolradd Rhithiol
20/11/2023 24/11/2023 Gloywi – Siarad Preswyl
27/11/2023 01/12/2023 Gloywi – Ysgrifennu Preswyl
04/12/2023 08/12/2023 Canolradd Preswyl
04/12/2023 08/12/2023 Uwch Rhithiol
11/12/2023 15/12/2023 Gloywi – Siarad Rhithiol
15/01/2024 19/01/2024 Gloywi – Ysgrifennu Rhithiol

Blasu

Mynediad

Sylfaen

Canolradd

Uwch

Gloywi

nant-education

Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle i bobl ymarfer pob sgil ieithyddol – siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu – ond rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu hyder i siarad yr iaith, drwy eich annog i fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Nant.

Mae ein tiwtoriaid profiadol yn gallu addasu rhywfaint ar gynnwys bob cwrs yn unol ag anghenion y grŵp, a chan na fyddwch chi byth mewn dosbarth o dros 14 o bobl byddwch yn siŵr o gael digon o sylw unigol.

Mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth: addysg@nantgwrtheyrn.org

Eisiau dysgu Cymraeg?

Yn byw yng Ngwynedd neu Môn?

Manteisiwch ar ein cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn a theithio i’r Nant yn ddyddiol ar gyfer eich cwrs. Archebwch unrhyw gwrs 5-diwrnod am £125 neu unrhyw gwrs 3-diwrnod am £75.

Cymraeg Gwaith

Yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu’ch Cymraeg ar gyfer eich gwaith?

Intensive (residential and online) Work Welsh courses at Intermediate, Advanced and Proficiency levels available during 2023.

Fully-funded!

“Er fy mod ar ddechrau fy nhaith iaith, mae’r profiad o dreulio amser yn Nant Gwrtheyrn wedi fy ysbrydoli – does dim lle gwell i ddysgu Cymraeg! Mae’r lleoliad yn hardd ac yn berffaith i dreulio amser yn cael eich ymdrochi yn yr iaith heb ymyrraeth allanol.”

Suzi Gray

“Mae dysgu dros Zoom yn brofiad gwahanol, rydych yn dod i adnabod pobl mewn ffordd wahanol. Wedi’r cyfan, rydych yn mynd yn syth i mewn i gartrefi pobl ddieithr led led y byd! Ond roedd o’n brofiad gwych a nes i wirioneddol fwynhau. Mi roedd o’n rhoi ffocws i fi am yr wythnos ac er nad oeddwn yn y Nant, mi ges i’r un teimlad am y Nant drwy’r cwrs rhithiol.”

Janet Walker

“Mutations and grammar have always been a stumbling block for me, but this course has definitely given me more confidence.”

ng-learn-top

Manteision o ddysgu Cymraeg...

Trwy ddysgu’r iaith, sy’n cael ei siarad gan dros 700,000 o bobl ar draws y byd, rydych yn agor y drws i lawer o gyfleoedd a phrofiadau newydd. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn barod yn ymwybodol o’r manteision o fedru deall ac ynganu’r iaith sydd o’ch cwmpas. Bydd gennych ddwywaith y dewis o adloniant, gyda theledu, radio a gwefannau ar gael ar gyfer siaradwyr yr iaith, ac, yn y pen draw, ystod eang o lenyddiaeth sy’n ymestyn dros ganrifoedd.

Mae pobl yn dysgu Cymraeg am lawer o resymau gwahanol: er mwyn gwaith, er mwyn y teulu, er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned, i enwi rhai. Ond beth bynnag ydy’ch rheswm chi dros ddysgu’r iaith, dylai’r broses fod yn un bleserus ac yn un sy’n rhoi boddhad.

learn-page-01

Gwersi

Fel arfer, bydd y gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal yn y Plas, cartref rheolwr y chwarel ers talwm. Mae’r ystafelloedd wedi eu dodrefnu â’r cyfarpar diweddaraf i’n galluogi i gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu, yn cynnwys dulliau traddodiadol. Os yw’r tywydd yn caniatáu, rydym yn ymdrechu i gynnal ychydig o weithgareddau y tu allan i’r dosbarth gan wneud y mwyaf o’r adnoddau naturiol sydd gennym o amgylch y safle

nant-gwrtheyrn-cottages-04

Llety

Bydd myfyrwyr sy’n mynychu ein cyrsiau preswyl Cymraeg yn aros yn hen fythynnod y chwarelwyr sydd bellach wedi eu huwchraddio i safon llety grŵp 5*. Mae pob ystafell wedi’i dodrefnu gyda dodrefn derw wedi eu gwneud â llaw yng Nghymru a charthen draddodiadol Gymreig ar bob gwely. Mae gennym ystafelloedd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

meet_cafe

Eich amser rhydd...

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r lolfa yn y Plas drwy gydol eu hamser yn y Nant. Mae’r lolfa yn ystafell gyfleus i astudio neu i ymlacio ynddi gyda’r nos. Bydd Caffi Meinir yn agored yn ystod eich amser yn y Nant a bydd y staff yno yn fwy na hapus i hybu eich defnydd o’r Gymraeg. Bydd cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r arddangosfeydd treftadaeth a’r tŷ cyfnod tra maen nhw’n aros yn y Nant, a dysgu am hanes yr ardal unigryw hon.

july_2016_news

Y cwrs gorau i chi...

Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw ac rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol:

Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel…

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r Tim Addysg i drafod eich anghenion: addysg@nantgwrtheyrn.org Ni fydd y tiwtor ar gael bob amser gan y bydd yn dysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i’r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosib.

Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.

Sut i archebu...

Gallwch archebu cwrs arlein.

NODER: Er mwyn rhoi’r profiad gorau posib i’r dysgwyr – Rhaid i’r Nant sicrhau bod lleiafswm o 6 dysgwr wedi cofrestru ar unrhyw gwrs cyn y bydd modd cadarnhau y bydd y cwrs yn cael ei gynnal. Os oes rhaid i Nant Gwrtheyrn ganslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir gwybod i’r dysgwr bythefnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs. Dan yr amgylchiadau hyn bydd eich taliad yn cael ei ad-dalu neu mae modd i chi ddod ar gwrs arall o fewn 12 mis.

    Llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad â chi.

    Rydym yn derbyn nifer yn uwch na’r arfer o ymholiadau. Gall hyn olygu rhywfaint o oedi yn ein hymateb. Diolch i chi o flaen llaw am eich amynedd, byddwn yn ymateb eich neges mor fuan â phosib ac yn ateb ymholiadau yn y drefn byddwn yn ei derbyn. Diolch am eich cydweithrediad.