
Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) sy’n rhoi blas ar y Gymraeg i ddechreuwyr pur mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.
- ynganu
- defnyddio enwau lleoedd ac arwyddion
- cyfarchion
- rhifo syml a lliwiau
- dyddiau’r wythnos
- siarad am y tywydd
- ymadroddion bob dydd
- berfau a gofyn/ateb cwestiynau syml
Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn 3 sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor, yn ogystal ag ‘aduniad dosbarth’ ar-lein yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!
Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs Mynediad 1.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.