
Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) sy’n adeiladu ar lefel Sylfaen. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith a’i defnyddio mewn nifer o gyd-destunau gwahanol. Wrth weithio mewn parau, mewn grwpiau ac yn annibynnol, bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd niferus i ymarfer eu Cymraeg ac i drochi eu hunain yn yr iaith am 5 awr y dydd dros gyfnod o dridiau.
- rhoi a derbyn gwybodaeth bersonol
- disgrifio, gan ddefnyddio ystod eang o ansoddeiriau
- mynegi barn
- deall a defnyddio’r geiriau: hwn, hon, hyn, hwnnw ayb
- dysgu’r amser goddefol
- llongyfarch, dymuno’n dda a chydymdeimlo â rhywun
- ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
- sgwrsio gyda thrigolion lleol (ar-lein)
- adloniant byw cyfrwng Cymraeg (ar-lein)
Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn 3 sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor, yn ogystal ag ‘aduniad dosbarth’ ar-lein yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a’r ramadeg.