Gloywi

Nant Gwrtheyrn > Dysgu > Gloywi

Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf sydd eisiau cryfhau eu sgiliau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at astudio’r canlynol:

  • gwallau cyffredin
  • treigladau
  • arddodiaid
  • sillafu
  • idiomau
  • adnabod patrymau Saesneg yn yr iaith Gymraeg – a’u newid am batrymau Cymreig

Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn 3 sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor, yn ogystal ag ‘aduniad dosbarth’ ar-lein yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!

Addas ar gyfer pobl sy’n ddysgwyr rhugl neu’n Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd eisiau canolbwyntio ar loywi eu hiaith lafar ac ysgrifenedig.

Cynhelir y cwrs dros gyfnod o bythefnos – Llun-Mer-Gwe, rhwng 10am – 4pm.