Mynediad – Y Gymraeg ar gyfer rhieni plant cynradd

Nant Gwrtheyrn > Dysgu > Mynediad – Y Gymraeg ar gyfer rhieni plant cynradd

Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd oddi mewn i gyd-destun addysg gynradd. Mae’r pwyslais ar siarad, darllen a deall yr iaith sy’n cael ei chyflwyno i blant oed cynradd. Wrth weithio mewn parau, mewn grwpiau ac yn annibynnol, bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd niferus i ymarfer eu Cymraeg ac i drochi eu hunain yn yr iaith am 5 awr y dydd dros gyfnod o benwythnos.

  • creu brawddegau yn yr amser presennol
  • defnyddio rhifau
  • dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, tymhorau
  • gofyn am bethau
  • meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …
  • ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol

Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn 3 sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor, yn ogystal ag ‘aduniad dosbarth’ ar-lein yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!

Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfarch ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml.

Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.