Sylfaen – Defnyddio

Nant Gwrtheyrn > Dysgu > Sylfaen – Defnyddio

Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith a’i defnyddio mewn nifer o gyd-destunau gwahanol. Wrth weithio mewn parau, mewn grwpiau ac yn annibynnol, bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd niferus i ymarfer eu Cymraeg ac i drochi eu hunain yn yr iaith am 5 awr y dydd dros gyfnod o dridiau.

  • sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…
  • dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i
  • dyddiadau
  • defnyddio arddodiaid gyda berfau
  • datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi
  • ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
  • sgwrsio gyda thrigolion lleol (ar-lein)
  • adloniant byw cyfrwng Cymraeg (ar-lein)

Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn 3 sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor, yn ogystal ag ‘aduniad dosbarth’ ar-lein yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn!

Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu.