Cystadlaethau i ddysgwyr
Ydach chi’n dysgu Cymraeg? Yn mwynhau ysgrifennu? Ydi’r cyfnod hwn wedi eich ysbrydoli i fod yn greadigol?
Mae’r Nant yn falch o lansio cystadleuaeth arbennig ar gyfer dysgwyr o bob lefel, fydd yn cael ei beirniadu gan neb llai nag Myrddin ap Dafydd.
Am gyfle i ennill tocyn gwerth £50 i wario yn y Nant, ysgrifennwch ddarn o ryddiaith neu farddoniaeth (dim hirach na 200 gair) sy’n ymateb i unrhyw un o’r lluniau yma:
Gall fod yn ddarn ffuglen, yn ddarn personol os ydi un o’r lluniau yma’n golygu unrhyw beth i chi, yn ddisgrifiad syml neu yn ddarn ar ffurf deialog, blog neu ymson – mae’r dewis yn agored i chi.
Anfonwch eich darn at marchnata@nantgwrtheyrn.org gan nodi eich enw, lefel dysgu a pa lun rydach chi wedi dewis ysgrifennu’r darn amdano.
Dyddiad cau: 31 Gorffennaf.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst a bydd y darnau gorau yn ymddangos ar ein gwefan.
Gall yr enillydd ddefnyddio’r wobr tuag at gwrs Cymraeg yn y Nant, i’w wario yn y caffi neu lety (pan fydd y safle’n ail-agor).
Pob lwc!