Mae’r actores o Abertawe, Melanie Walters o Gavin a Stacey, yn parhau â’i hymdrechion i feistroli’r iaith Gymraeg trwy fynychu cwrs Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Iaith breswyl genedlaethol. Mi ddaeth i’r ganolfan fel gwobr am ennill ar y rhaglen deledu boblogaidd ar S4C, cariad@iaith.
Mae dod i’r Nant yn dod â hi gam yn nes at wireddu ei breuddwyd, fel y dywedodd pan ymddangosodd ar cariad@iaith, Dw i’n teimlo bod darn ohonof ar goll. Roedd teulu fy nhad i gyd yn siaradwyr rhugl, ond ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i ni’r plant. Mae hwn yn gyfle gwych i gadw’r iaith yn fyw trwy’r cenedlaethau, i gynorthwyo ac annog fy mab i’w dysgu, a gobeithio codi ei blant gyda chariad@iaith.
Mae Melanie, sydd wedi astudio’r iaith yn ysbeidiol yn y gorffennol, wedi llwyr ymdaflu i mewn i’r cwrs gyda brwdfrydedd. Mae hi wedi dewis mynychu cwrs ar y lefel Ganolradd, sy’n golygu bod y cwrs cyfan yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Mel wedi mwynhau’r profiad, fel y dywedodd yn ei geiriau ei hun, “Rydych chi’n cael profiad anhygoel yma yn Nant Gwrtheyrn. Cyn gynted â’ch bod yn cyrraedd, mae’r heddwch a’r golygfeydd syfrdanol yn eich ymlacio chi. Pa ffordd well i ddysgu Cymraeg na llwyr ymdrochi eich hun mewn cwrs dwys, beth bynnag yw’ch lefel, mewn amgylchiadau mor hyfryd. Mae Cwrs Canolradd yn dipyn o her i mi, ond dyw hynny ddim yn beth drwg. Yn ystod yr wythnos yn Fforest (cariad@iaith) profais gynnydd mewn dealltwriaeth. Dyna’r wefr o fynychu cwrs dwys yma, gyda’r athrawon a staff ardderchog, llety glân a chartrefol, cyfleon i fynd am dro y bwyd ac, wrth gwrs, y golygfeydd godidog, sy’n rhoi cymaint o foddhad i’r profiad.
Diolch yn fawr i Nant Gwrtheyrn a cariad@iaith am fy nghynorthwyo ar y daith i siarad Cymraeg yn rhugl trwy wneud y profiad mor bleserus.