Dathliadau 40 Nant Gwrtheyrn – cyflwyno carthen Gymreig unigryw newydd – Carthen Ni

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Dathliadau 40 Nant Gwrtheyrn – cyflwyno carthen Gymreig unigryw newydd – Carthen Ni

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 yn dilyn ymgyrch ledled y wlad i gasglu £25,000 i brynu’r Nant gan y cwmni Kneeshaw a Lupton o Lerpwl.

Fel rhan o ddathliadau 40 mlynedd ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth, byddwn yn cyflwyno carthen Gymreig unigryw.

Mae gan bawb atgof personol o’r lleoliad arbennig hwn. Lleoliad sydd wedi hudo ac ysbrydoli gymaint o bobl dros y blynyddoedd. Mae’r Ŵyl yn gyfle da i hel atgofion ac i ailymweld â’r Nant.

Mae Melin Tregwynt wedi cydweithio â thîm y Nant i greu carthen unigryw yn seiliedig ar batrwm traddodiadol o’r 60au, patrwm yr ‘Hen Seren’ ond gyda theimlad modern iddi.

Gosodwyd seiliau cadarn i’r iaith Gymraeg yn y 60au, arweiniodd yn y pendraw at danio’r freuddwyd o ail adeiladu’r Nant.

Wrth greu’r garthen o wlân pur mae Melin Tregwynt wedi cymysgu lliwiau sy’n adlewyrchu naws gyfoethog Nant Gwrtheyrn, Cymru a’i hiaith gyfoes unigryw gan ddefnyddio lliwiau’r awyr, y môr a’r tir fel ysbrydoliaeth.

Mae’r garthen hardd hon yn ychwanegiad unigryw i unrhyw gartref. Gallwch ei defnyddio i harddu’r cartref neu ei mwynhau wrth ymlacio a gadael iddi afael yn dynn amdanoch. #cwrlid #blanced #cysur #carthen #bodlon #cymru

Fel y grefft o nyddu carthenni traddodiadol Cymreig mae’r Nant a’r iaith Gymraeg wedi goroesi ond mae llawer mwy angen ei wneud wrth edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf.

Bydd y garthen i’w gweld yn ystafelloedd aros y Nant dros y misoedd nesaf. Bydd yn siŵr o gynnig cysur i sawl dysgwr ac ymwelwr o bob rhan o’r byd.

Gallwch ei phrynu yn Siop y Nant. Cysylltwch â swyddfa’r Nant drwy ffonio 01758 750334

feeb