Dathlu Dewi Nawddsant Cymru

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Dathlu Dewi Nawddsant Cymru

DATHLU DEWI NAWDDSANT CYMRU

O Chwefror 27ain ymlaen bydd Nant Gwrtheyrn yn cynnal cyfres o weithdai barddoniaeth ar gyfer ysgolion cynradd (Cyfnod Allweddol 2) er mwyn dathlu dydd Gŵyl Dewi.

Bydd y plant yn mynd ar daith arbennig yn ôl i Oes y Seintiau drwy ddilyn rhan o Daith y Pererinion rhwng Eglwys Clynnog ac Eglwys Pistyll – dwy eglwys wahanol iawn o ran naws a phensaernïaeth. Yn ystod y daith byddant yn dysgu am Dewi Sant a’i gyfnod cyn dod i lawr i’r Nant wedi eu hysbrydoli ac yn barod i gyfansoddi cerddi.

Yn arwain y plant drwy’r broses o gyfansoddi bydd un o bedwar bardd – Iwan Llwyd, Myrddin ap Dafydd, Gwen Lasarus neu Gwion Hallam a bydd ffrwyth llafur y plant i’w weld ar wefan Nant Gwrtheyrn, www.nantgwrtheyrn.org, o Fawrth 13eg ymlaen.

Dywedodd Elen Thomas, Swyddog Addysg y Nant a threfnydd y gweithgareddau,

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael dathlu Gŵyl Dewi mewn ffordd ddifyr a chofiadwy gyda nifer o’r ysgolion yn profi gweithgareddau’r Nant am y tro cyntaf. Unwaith eto, roedd yn rhaid cynnig mwy o ddiwrnodau gweithgareddau na’r bwriad oherwydd y galw. Bydd y gweithdai nesaf ar gyfer ysgolion cynradd yn edrych ar y Celtiaid ac ar gael am gyfnod o naw diwrnod ddechrau mis Mai. ”

Ychwanegodd:

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Arian i Bawb Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am ran-ariannu’r weithgaredd hon.”

feeb