Dathlu Nawddsant y Cariadon

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Dathlu Nawddsant y Cariadon

O’r 23ain o Ionawr ymlaen bydd Nant Gwrtheyrn yn cynnal cyfres o weithdai celf byrlymus ar gyfer ysgolion cynradd i gyd-fynd â dydd Santes Dwynwen.

I ddathlu cofio Santes y Cariadon, bydd plant o ysgolion ar draws Gwynedd yn cael eu hysbrydoli gan un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru, Catrin Williams o Bwllheli.

Bydd y plant yn creu darluniau haniaethol a monophrintiadau ar thema stori Dwynwen drwy gyfrwng darlunio, paentio, printio, gwnïo a llythrennu. Bydd nifer o’r darluniau fydd yn cael eu creu yn cael eu harddangos yn adeiladau’r Nant ac eraill yn mynd yn ôl i’r ysgol.

Dywedodd Elen Thomas, Swyddog Addysg y Nant a threfnydd y gweithgareddau,

“Wythnos o weithgareddau a amserlennwyd i ddechrau ond roedd rheini wedi llenwi mor sydyn fe lwyddon ni i drefnu tri diwrnod ychwanegol. Roedd y diddordeb mawr a ddangoswyd yn y dyddiau yma yn dangos pa mor bwysig ydi cynnig profiadau fel hyn i ddisgyblion. Bydd y plant yn siwr o gael profiad bythgofiadwy dan arweiniad bywiog Catrin ac rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y gwaith gorffenedig. Bydd ein hwythnos weithgareddau nesaf ar gyfer ysgolion cynradd yn cychwyn ar 27ain Chwefror – gweithdai barddoniaeth yn dathlu Dydd Gwyl Dewi.”

Ychwanegodd:

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Arian i Bawb Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru am ran-ariannu’r weithgaredd.”

feeb