Y diweddaraf ynglŷn â’r Coronafeirws (COVID-19)

Arholiad Sylfaen – Cwrs adolygu amdani!

Nant Gwrtheyrn > Digwyddiadau > Arholiad Sylfaen – Cwrs adolygu amdani!

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • This event has passed.

Arholiad Sylfaen – Cwrs adolygu amdani!

Ebrill 24 - Ebrill 26

Dewch draw atom i gyd-adolygu gyda myfyrwyr eraill.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cwrs adolygu penwythnos newydd sbon i fyfyrwyr fydd yn sefyll arholiad sylfaen yn 2020.

Nod y cwrs fydd paratoi myfyrwyr at yr arholiad CBAC Sylfaen ar ei newydd wedd. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar holl elfennau’r arholiad newydd a bydd cyfle i weithio ac i farcio gwaith ei gilydd.

Arweinir y cwrs gan diwtor Cymraeg i Oedolion profiadol – Rhodri Trefor.

Byddwn yn defnyddio dulliau addysgu llwyddiannus ac anffurfiol mewn lleoliad perffaith er mwyn ymarfer a chynyddu hyder.

Yn ystod y tridiau bydd cyfle i siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Mae’r cwrs yn addas i fyfyrwyr sy’n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle.

Cyfle gwych i ymdrochi yn y lefel Sylfaen cyn mynd amdani a chwblhau’r arholiad.

I archebu lle ewch i: https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/dod-o-hyd-i-gwrs a chwilio am y cyfeirnod cwrs: C2004

40cd750bba9870f18aada2478b24840a40cd750bba9870f18aada2478b24840a

Manylion

Dechrau:
Ebrill 24
Diwedd:
Ebrill 26
Categori Digwyddiadau:

Lleoliad

Nant Gwrtheyrn
Llithfaen
Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL United Kingdom
Rhif ffôn:
01758750334