Draenen Ddu – Blackthorn – Shillelagh gan Wyn Rowlands (garddwr y Nant)

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Draenen Ddu – Blackthorn – Shillelagh gan Wyn Rowlands (garddwr y Nant)

Draenen Ddu – Blackthorn – Shillelagh
gan Wyn Rowlands (garddwr y Nant)     

Aeth Ebrill yn Fai er mai un wennol yn unig welwyd ar y Garreglefain. Ond felly y bu hi erioed ar yr ochr ogleddol yma o’r penrhyn. Y wennol yn hwyr yn cyrraedd y nyth a’r cywion wedyn yn hwyr yn ymadael.

Felly hefyd yn y cloddiau lle mae blodau’r Prunus spinosa yn awr yn gwywo a’r goeden yn raddol llithro’n ôl i undonedd y gwrych.

Prunus spinosa – draenen ddu i chi a fi – aelod o deulu’r geiriosen ac yn y bôn dyna ydy hi – coeden eirin fechan, di- nod yr olwg

Ond am fis cyfan mae wedi bod yn ei hanterth – y blodau llachar gwyn yn hynod ddeniadol, yr un cyntaf o’n coed cynhenid i flodeuo, yn wledd i’r pryfyn a’r gwenyn, cuddfan i’r adar ac yn creu gwrych trwchus cysgodol i fyd natur.

Er yn amgylcheddol bwysig, ychydig o werth masnachol sydd i’r pren: i ni’r Cymry – ffon gerdded hamddenol. Ond i’r Gwyddel mae elfen llawer mwy chwedlonol i’r Shillelagh – pwy all anghofio’r mynydd o ddyn, Brendan Gleeson, yn waldio pennau pobol gyda’r pastwn solet yna o ddraenen ddu yn y ffilm Gangs of New York.

Felly, mae amser y Prunus spinosa yn darfod am y tro – y ddraenen wen fydd ar y brig mis yma – coedyn arall efo blodau gwyn a phigau cas. Er bod ei phigau ddim hanner mor gas â’r ddraenen ddu, a’r rheiny chwaith ddim hanner mor frwnt â phigau bondigrybwyll y Sea Buckthorn, ond stori arall ydy honno……

Shillelagh
feeb