Dyddiadur Tiwtor Ar-lein – Hanner ffordd a gweld y goleuni! gan Shân Gwenfron Jones

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Dyddiadur Tiwtor Ar-lein – Hanner ffordd a gweld y goleuni! gan Shân Gwenfron Jones

Dyddiadur Tiwtor Ar-lein – Hanner ffordd a gweld y goleuni!
gan Shân Gwenfron Jones

“’Sgwenna flog”

“Be ‘di blog?”

Dydy o’m yn ddyddiadur.  Cofnod ysgrifenedig o be ‘di be.  Dwi wedi pendroni lot fawr am ystyr y gair dros y degawd diwethaf.  Cadw dyddiadur fydda i’n ei wneud ond yn mwynhau rhoi cynnig ar y blogio ‘ma.

Gwglo’r peth reit handi.  Cofnod ar ffurf sgwrs i’w roi ar blatfform digidol. Just fy metha i! Fedra i wneud hynny’n iawn.

Wel wir, wythnos pump yn barod.  Hanner ffordd.  Hanner amser.  Wedi cyrraedd base camp!

Mynd yn ôl i’r gorffennol heddiw.

“Mi wnes i swper”, “Mi wnes i ginio” “Wnest ti swper” “Do” “Naddo”

Munud bach i feddwl cyn Zoomio.  Dwi’n edrych ymlaen am y wers heno.  Wedi dod i adnabod ein gilydd erbyn hyn.

Mae angen cribo’r gwallt.  Edrych fatha Nansi’r Nant!

Wedi bod adre am wythnosau lawer erbyn hyn.  Y gwallt yn tyfu.  Mi fydda i’n edrych fatha Deiniol, Teulu’r Mans erbyn mis Awst.

Awr i fynd nes bydd bysedd y cloc yn taro saith o’r gloch.  Aros yn eiddgar.

Wedi bod wrth y bwrdd yn y parlwr ffrynt ers ddeuddeg wythnos.

Mae’r tŷ ar ei ora.  Pob wal wedi ei pheintio a dim chwyn yn yr ardd.  Er, mae ‘na lanast yn y cwpwrdd tanc.  Fanno nesaf.  Mae hi fel mynd i fol buwch i chwilio am sanau sy’n matchio, heb lamp pen!

Mi fydd angen soffa newydd erbyn Dolig.  Dechrau gwisgo efo pawb adra!

Hanner awr i fynd.  Popeth yn barod am y wers.  Nodiadau.  Gwerslyfr.  Beiro.

“Mi wnes i …”

“Mi wnes i gerdded mynydd ganol nos”.  Hiraethu am y copaon.

Mae’r sgidiau gwaith dal i sefyllian, chwarter i dri,  wrth y drws ffrynt yn barod am yr alwad i gael mynd yn ôl.  Eistedd yn llonydd wrth y bwrdd am oriau rhwng sesiynau Zoom, fatha William Morgan ‘stalwm.  Mi ‘steddodd am oriau yng ngolau cannwyll a dim sôn am Bruce yn nunlle.  Wff, job. Sut oedd Yr Esgob William Morgan yn byw heb drydan, heb Netflix a heb Bruce dwch? Wff, parch iddo.

Chwarter awr i fynd.

Y meddwl yn dechrau crwydo nôl i anturiaethau’r gorffennol.

Cloc larwm yn canu.  Dau o’r gloch y bore (ganol nos).  Deffraaaaa.

Gwisgo’n sydyn.  Chwilio yn y cwpwrdd tanc am sanau cynnes, trwchus, yn matchio (nefar!).  Dod o hyd i ddwy hosan ddiarth yn cyfarfod am y tro cyntaf yn awyddus i ddod am dro.  Lliwiau’r enfys am fy nhraed.

Gafael yn y ‘sgidiau hoelion mawr.  ‘Sgidia mynydd go iawn.

Sach gefn coch llawn danteithion a galwad y mynydd yn sibrwd yn fy nghlust, cyn i Gŵn Caer fynd i’w gwelyau hyd yn oed.

Allan drwy’r drws.  Y lleuad fel golau cannwyll William Morgan yn barod i’n nhywys i ben mynydd.  Cyrraedd Llyn Nantlle a dim smic gan neb.  Dim ond fy anadl yn sgwrsio’n dawel.  Llygaid disglair ambell ddafad fel goleuadau bach ar goeden Dolig yn addurno’r mynydd.  Mwclis o oleuadau bach yn fy ngwarchod wrth i mi rygnu mynd yn fan ac yn fuan am y copa.

Camau bach bach yn y tywyllwch a golau pen ar fy nhalcen, ar fenthyg gan fy chwaer, yn dangos y ffordd ymlaen i mi.

Teimlo’r ofn yn codi yn fy ngwddf wrth droedio’r llwybr caregog mewn tywyllwch a distawrwydd, iasoer.  Llyn Nantlle oddi tannaf fel llygad disglair y dirwedd hynafol o oes y cewri yn sbecian arnaf.  Y lleuad yn llawn a’r llyn yn llonydd.

“Defaid William Morgan, Defaid William Morgan”, canu’n braf ar y mynydd.

Dal ati’n araf bach.  Y wal gerrig yn ganllaw gyfeillgar yn fy nhywys yr holl ffordd i’r copa.

Codi ‘mhen yn araf bach wrth gymryd un olwg arall ar Lyn Nantlle yn diflannu oddi tannaf. Hanner ffordd.  Base camp Garnedd Goch.  Ail wynt.  Dechrau meddwl am y fflapjac.

Stribyn o ola’ yn ymddangos o ochr arall y mynydd fel darn o sidan hir yn amgylchynu Eryri.  Panics.  Yr haul ar y ffordd.  Pedwar o gloch ar ei ben.  C’mon Shani, newid gêr reit handi.  Ymestyn i’r boced gefn am nerth i fynd amdani.  Camau cawr am y copa.

Cyrraedd y copa mewn pryd.  Ffiw.  Cyrraedd copa Garnedd Goch ar ben pellaf Crib Nantlle ar riniog diwrnod newydd.  Eistedd yn dawel gyda’n nghefn yn erbyn wal gerrig o safon sydd wedi llwyddo i wrthsefyll pob tywydd.  Teimlo’n saff yn cysgodi ym mynwes y wal o’r oes a fu.

Hanner awr wedi pedwar (Cŵn Caer ar fin deffro!).

Amlinelliad Eryri yn ymddangos o ‘mlaen a’r awyr fel darn o sidan lliwgar fel llen yn aros i’r haul wawrio ar lwyfan heddiw. Syfrdanu ar greadigrwydd natur yn dadorchuddio yn y pellter.

Yr Wyddfa yn sefyll yn stond tra bod y sidan lliwgar yn gwneud giamocs o’i gwmpas ac yn cyffwrdd copa’r Wyddfa’n ysgafn fel pluen William Morgan yn cosi’i drwyn wrth sgwennu ers talwm.

Pump o’r gloch.  Yr haul yn deffro’n araf bach.  Yr awyr fel ‘Dimmer switch’ anferth yn deffro’r dydd.  Teimlo mod i mewn pictiwrs awyr agored mawr yn mwynhau un o’r clasuron.

Mae eistedd ar gopa mynydd yn mwynhau’r gwawrio yn brofiad arallfydol ac yn brofiad i’w drysori. Mae’r gwawrio yn rhoi trefn ar bethau rhywsut.  Mae diwrnod newydd yn rhoi llechen lân i ni.

Mwynhau brecwast gogoneddus ar y mynydd yng nghwmni’r Wyddfa a’i ffrindiau.  Moel Eilio yn ymddangos a Chraig Cwm Silyn yn ein gwahodd am y grib.  Dim golwg o’r llwynog.  Dechrau meddwl am R Williams Parry wrth fwynhau’r olygfa.   Dyna be oedd Pro! Parch!  Eiliad bach yn dychmygu’r amrantiad hwnnw rhwng y ddau ar Grib Nantlle ‘stalwm.

Tyrchu yn y sach coch am goffi cowboi bach a fflapjac godidog.  Dechrau hiraethu am flapjacs Mary yng Nghaffi Meinir erbyn hyn.  Dyna be ‘di fflapjac o safon!

Mi ges i fy eiliad Williams Parry efo’r haul – “Digwyddodd darfu, megis seren wib”.  Weles i’m llwynog ond mi weles i’r haul. “Nid llwynog oedd yr haul” dwch?!!  Fe ddaeth diwedd sydyn i’r ddrama, tan ‘fory.  Yr haul wedi codi ac yn brwsio’i ddannedd ac yn barod am be’ bynnag daw.

Larwm yn canu.  Pum munud i saith.  Grasusa, a brensiach ddwywaith.  Cofio’n sydyn fy mod yn eistedd wrth y bwrdd yn y parlwr ffrynt yn barod i Zoomio dros Gymru.

Mae hanner ffordd yn drobwynt mewn taith boed hynny’n daith iaith neu’n daith i ben mynydd.

Mae rhywun yn newid gêr rhywsut.

Pum wythnos i fynd.  Dal ati.  Un mynydd ar y tro ac un lefel ar y tro.

Mae pob taith yn mynd i fyny ac i lawr.  Dw i’n cofio Gwyddel yn dweud unwaith wrth i mi feicio i Killarney ‘stalwm ar y Raleigh BSA! Pan oeddwn i’n ifanc ac yn ‘sgafnach!!

“Does this road have hills?” fi!

“Wel” medda’r Gwyddel, “It’s up the up and down the down.”

Dyna i chi ddweud doeth.  Fyny ac i lawr.  Rhaid i ni ddal ati i fynd i fyny ac i lawr.  Cofiwch ni cheir allt heb oddiwaered.

Saith o’r gloch ar ei ben.

Dyma ni, mewn â ni i Wlad y Zoomio.  Pwyso’r botwm.  Y dysgwyr yn ymddangos un wrth un, pob un ohonynt yn wên o glust i glust yn barod i fynd yn ôl i’r gorffennol.

“Noswaith dda, Sut dach chi?”

“Bendigedig a chitha?”

Y parlwr ffrynt yn llawn bwrlwm a Gel yn eistedd yn ufudd wrth fy nhraed.

Mae’r dysgwyr wedi bod wrthi’n ddiwyd am bum wythnos bellach.  Mae gwneud rhywbeth am chwech wythnos yn dod yn arferiad wedyn, medda nhw.  Rhaid i ni ddal ati.

Bysedd y cloc yn taro naw o’r gloch.  Dwy awr fach dda unwaith eto.  Ffarwelio am wythnos arall.  Pob dysgwr yn diflannu un wrth un oddi ar y sgrin.  Wythnos 5 yn y bag.

Pwyso’r botwm.

Yn ôl yn y presennol yn yr ystafell wag a’r cwpwrdd tanc dal yn llanast.

Mi fyddwn ni’n dal ati am bum wythnos arall i adeiladu’r wal iaith, carreg wrth garreg, bloc wrth floc yn rhygnu mynd am y copa.

Reit, amser am y crwydr dyddiol rownd y bloc rŵan.  Cerdded heibio’r sgidiau hoelion mawr sydd dal wrth y drws ffrynt yn barod am yr antur nesaf ar un o gopaon Eryri.  Mae’r sach gefn coch yn hongian ar y bachyn yn barod am y picnic nesaf.  Mi ddaw haul eto ar fryn.

Mi fydda ni’n mynd am wythnos deg ac am ddiwedd y daith pan fydda i’n ‘sgwennu fy mlog nesaf.  Wela i chi ar y copa.

Daliwch ati ac ymlaen â ni.

O.N. angen prynu gola’ pen er mwyn mynd i’r afael a’r sanau unwaith ac am byth.  Gwnewch y pethau bychain!

O.N. 2  Dw i’m yn ysgolhaig nag yn Pro fatha RWP ond yn mwynhau cofnodi’r digwyddiadau dyddiol. Dw i’n fwy o Semi Chwarter Pro yn y busnes cyfathrebu ‘ma ond yn dal ati.  Dw i’n medru Zoomio a Blogio erbyn hyn! Dw i’m yn gwybod beth sydd o’n blaenau â’r byd ar ben i lawr ond be bynnag daw, cadwch yn hwyliog.  Os yda chi wedi canu neu wenu yn ystod y darlleniad, dw i wedi gwneud fy ngwaith.  Dw i’n dal i ganu “Defaid William Morgan”.  Cadwch yn saff a be’ bynnag wnewch chi, gwnewch o’n Gymraeg.

O.N. 3  Er gwybodaeth, mi ‘steddodd William Morgan wrth y bwrdd am ddeg mlynedd, daliwch ati!

Sylw ar “Dyddiadur Tiwtor Ar-lein – Hanner ffordd a gweld y goleuni! gan Shân Gwenfron Jones

  1. eleri owen

    Difyr iawn, Shan. Wedi mwynhau darllen dy ‘flog’.
    Er gwybodaeth, nid Y William Morgan oedd yr un efo’r defaid. Mi ddysgais hyn gan y ddwy wyres sy’n byw ym Methesda!
    Atgofion da am y trip beics i Werddon!
    Pob lwc i bawb sy’n ymdrechu i ddysgu Cymraeg.

Comments are closed.

feeb