Dyddiadur Tiwtor ar-lein – Y daith iaith ddigidol! Wff, drama! gan Shân Gwenfron Jones

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Dyddiadur Tiwtor ar-lein – Y daith iaith ddigidol! Wff, drama! gan Shân Gwenfron Jones

Dyddiadur Tiwtor ar-lein  – Y daith iaith ddigidol! Wff, drama!
gan Shân Gwenfron Jones

Wel dw i’n Zoomio’r dydd ac yn Zoomio’r nos ers pythefnos erbyn hyn ac ew, mae Zoomio’n grêt.

Fe ddaeth yr awr ac fe ddaeth yr alwad genedlaethol i Zoomio dros Gymru, nes daw haul dros yr Eifl unwaith eto. Mae presenoldeb ddigidol a lliwiau’r enfys am ein cynnal nes daw hynny.

Dwi’n teimlo balchder o dderbyn yr alwad a chael y cyfle i ysgogi ac annog dysgwyr Cymraeg ar daith iaith newydd sbon danlli.  Mae’n llwybr troellog ar adegau i ddysgwyr a thiwtoriaid ond yn gwella wrth iddynt ddal ati’n wythnosol.

Cyfrwng yn unig yw’r dechnoleg sy’n ein galluogi fel tiwtoriaid Cymraeg dros Gymru i ddysgu sgiliau iaith i gannoedd o unigolion ledled y byd.  Daw’r brwdfrydedd a’r awch i ddysgu’r iaith gan y dysgwyr a’r anogaeth i ddal ati gan yr holl diwtoriaid. Cyfuniad perffaith.

Mae’r cyfrifiadur bach wedi ei osod mewn ystafell fach yng nghesail Dyffryn Nantlle sydd wir angen cot o baent yn barod am y wers gyntaf!  Ystafell fach ddi-ymhongar yn agor ei drws i ddysgwyr newydd fel drws ffrynt newydd i’r iaith Gymraeg.  Mae sawl cegin, lolfa, ystafell wely, shed a gardd yn gweithredu fel ystafell ddosbarth dros dro yn ystod y cyfnod yma.  Mae Cymru wedi cau ar hyn o bryd ond mae’r ystafelloedd bach yma’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn agored i bawb drwy gyfrwng digidol. Dw i’n teimlo fy mod yn croesawu’r dysgwyr drwy’r drws anweledig i fwrlwm fy nghartref yn wythnosol a finnau’n teimlo fy mod yn camu i mewn i ddrych hud sy’n llawn trigareddau digidol. Mae bywyd ar Zoom yn llawn rhyfeddodau. Mae rhywbeth personol iawn mewn creu congl fach yn eich cartref a’r gongl honno’n cael ei gweld yng Nghymru a thu hwnt.

Wythnos 1, Gwers 1 – Ffydd, gobaith, cariad.  Neidio i ben pella’r pwll nofio, y “deep end” heb “rubber ring” math o deimlad! Dysgu ar Zoom. Teimlo fel ‘mod i wedi gwneud bynji jump heb raff!

Y treib, y ci a’r gath yn gorfod bod yn dawel am ddwy awr.  Wff, job!

Roedd wythnos un yn “camera, lights, action” math o brofiad.  “Ready for lift off”,
Pump … pedwar … tri … dau …. un

Bysedd y cloc yn taro saith o’r gloch ar ei ben, ffwrdd â ni.

Teimlo fy mod yn gweithio’n NASA ers wythnosau! Drama!

Pwyso botwm.

“Mae o’n gweithio”

Y tim technegol wrth law (y plant) rhag i mi ffonio NASA, go iawn! Mae un rhywbeth yn bosib yn yr oes ddigidol sydd ohoni!

“Mam, wyt ti’n iawn ‘wan?”

“Yndw, ewch o ‘ma, dw i ar fin dechrau”

“Mam, maaaam, ti ar mute!”

Pwyso botwm.

“Croeso i’r dosbarth Dysgu Cymraeg ar Zoom!”

“Helo, croeso, Shân dw i, pwy dach chi?”

Môr o wynebau brwdfrydig yn edrych arnaf ac yn barod amdani. Taith iaith o ddeg wythnos efo’n gilydd. Teimlo fy mod yn tywys criw o bobl i fyny’r Wyddfa a deg wythnos i gyrraedd y copa. Y wers gyntaf yn debyg i’r cyfarfod cyntaf yn Llanberis wrth droed y mynydd mawr a geiriau Hogia’r Wyddfa yn atseinio yn fy nghlustiau (Safwn yn y bwlch, gyda’n gilydd..). Pawb yn cyflwyno’i hun ac yn dod i adnabod ei gilydd yn araf bach. Treulio dwy awr yn dysgu patrymau iaith newydd.  Rhifo o 1 i 10 a chyfle i ofyn wrth ein gilydd “Sut dach chi?”. Dechrau da. Bysedd y cloc mawr yn taro naw o’r gloch.  Y ddwy awr wedi hedfan ac amser i ffarwelio am y tro. Gweld gwên fawr gan bob dysgwr ac ambell i fawd a chodi dwylo yn yr awyr wrth i mi bwyso’r botwm a dod â’r wers i ben. Dim ond fi yn yr ystafell erbyn hyn a’r sgrin yn wag. Dw i’n methu’r bwrlwm yn barod.

Ymlaen at yr wythnos nesaf.  Gwers 2 ar y gorwel.

Mae i bob taith ddechrau, canol a diwedd.  “Yn y dechreuad” i mi gael dyfynnu Caryl Parry Jones!  Dw i wedi aros am gyfle i wneud hyn ers blynyddoedd!  Life goal! Wel dyma’r dechreuad i chi, mi gewch ragor o hanes y daith iaith a’r daith ddigidol yn ystod yr wythnosau nesaf.  Mae cymryd y cam cyntaf yn waeth weithiau na’r daith ei hun.  Mae’n codi calon clywed am yr holl ddysgwyr sydd wedi cymryd y cam cyntaf o gofrestru a mynd ati i ddysgu’r iaith.

Mae pob wythnos yn cyflwyno iaith mewn camau bach cyrhaeddadwy, fel rhoi blociau o wybodaeth i’r dysgwyr yn wythnosol.  Mae fy nghriw bach i’n cymryd camau bach i fyny’r mynydd ac ‘ryda ni’n gobeithio cyrraedd base camp erbyn wythnos pump a phob un “one jac” wedi dysgu’r mantra Dal Ati’n barod.  Rhaid i ni gofio am y gwybedyn bach “yn araf bach a phob yn dipyn” mae dysgu iaith.

Mae sawl un wedi dweud dros y blynyddoedd bod angen i’r iaith Gymraeg gryfhau ei phresenoldeb digidol er mwyn goroesi.  Mae’r sianel Gymraeg yn bodoli eisoes ar blatfform digidol ac yn cyrraedd cartrefi ym mhob rhan o’r byd.  Sianel sy’n ffenest siop wych i’r iaith Gymraeg.   Wel mae’r genedl gyfan ar-lein erbyn hyn.  Gwnewch bopeth yn Gymraeg, dyna oedd y mantra wrth i mi weithio fy ffordd drwy fy arddegau.  Erbyn hyn ‘ryda ni ar-lein yn coginio i guro’r Corona yn Gymraeg ac yn canu’n iach yn Gymraeg ar y Côr-ona.  Presenoldeb unigryw y Cymry ar gael i bawb ei fwynhau ac yn ymestyn dwylo dros y môr mawr i bedwar ban byd.  Pedlo ar ddwy olwyn fydda i’n ei wneud i guro’r Corona.  Be bynnag yda chi’n ei wneud, gnewch o’n Gymraeg! All the way!

Mae’r cyfnod yma wedi llusgo’r iaith heb yn wybod iddi ar-lein a rhoi hunaniaeth ddigidol iddi.

Wel wythnos 2 yn y bag ac mi ydan ni’n agosach at y copa.  Reit, allan am yr am dro dyddiol  er mwyn llenwi’r boced gefn gydag awyr iach llesol. Be mae nhw’n ddweud – Cenedl heb iaith, cenedl heb galon.  Mae’r holl diwtoriaid Cymraeg ar draws y wlad yn gofalu am yr iaith Gymraeg wrth ymgysylltu’n ddigidol â dysgwyr newydd a dw i’n cadw’r galon yn iach er mwyn rhoi’r nerth i mi ysbrydoli’r dysgwyr, wrth gerdded rownd y bloc i fwynhau harddwch ein milltir sgwâr.  Mae’r pethau bychain wedi dod yn bethau mawr erbyn hyn.  Ond un peth sy’n siŵr mae calon yr iaith Gymraeg yn pwmpio fel fflamiau ar-lein ar hyn o bryd a’r nifer sydd am ddysgu’r iaith yn niferus iawn.  Un peth arall sy’n wir yw’r ffaith fy mod wedi ychwanegu at fy sgiliau technegol.  Mae’r dysgwyr yn cael cyfle i ddysgu iaith a finnau’n cael y cyfle i ddysgu sut i gynnal dosbarth ar sgrin fach yn fy mharlwr ffrynt.

Byddaf yn mynd ati yn ystod y dyddiau nesaf i baratoi at gyflwyno gweddill y cyrsiau.  Dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio unwaith eto wyneb i wyneb yng Nghaffi Meinir gyda’r dysgwyr pan fydd hyn i gyd wedi gorffen.  Ond, am y tro mae’r cyfrwng digidol yn sicrhau nad ydym yn colli’r don enfawr o ddiddordeb yn ein hiaith ar hyn o bryd.

Felly byddaf yn dal ati gyda’r daith iaith ddigidol.  Un peth da arall yw’r ffaith fy mod yn cael dysgu yn fy slipars gyda Gel y ci wrth fy nhraed!  Wela ni chi’n base camp!

#gyda’ngilydd/#TogetherStronger.

Cadwch yn saff ac yn hwyliog.

Dal ati ac ymlaen â ni!

Sylw ar “Dyddiadur Tiwtor ar-lein – Y daith iaith ddigidol! Wff, drama! gan Shân Gwenfron Jones

  1. eleri owen

    Difyr iawn Shan. Mae ymroddiad pobl i ddysgu iaith yn rhyfeddol. Mi gychwynais i ddysgu eidaleg ar duolingo wythnos cynta’r cyfnod yma a heb fedru ymroi i 5 munud y dydd. Dwi’n dal ar y cam cynta am wahanol resymau, anghofio, rhy hen (!), dim mynadd a.y.y.b.
    Faswn i byth efo’r hyder i wneud be mae’r dysgwyr yn ei wneud efo chdi a mynd ar zoom! Dal ati i flogio.

Comments are closed.

feeb