Dysgu a gweithio yn y Nant gan Laurent Gorce

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Dysgu a gweithio yn y Nant gan Laurent Gorce

Dysgu a gweithio yn y Nant

gan Laurent Gorce

Mae Nant Gwrtheyrn wedi bod yn lle arbennig iawn i mi ers blynyddoedd. Fel heiciwr a rhedwr mynydd ultra brwd, mae’n lle gwych i ymarfer. O’r llwybrau arfordirol technegol i’r tirwedd mynyddig, ac wrth gwrs mae’n cynnwys rhai o’r golygfeydd tlysaf o Ben Llŷn. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld draw am Aberdaron o un ochr, a chyn belled â Chaergybi (a hyd yn oed Iwerddon) ar yr ochr arall. Mae hefyd yn lle da i gael paned a chacen ar ddiwedd eich taith.

Wrth i fi ddarganfod llwybrau ac anturiaethau newydd, mi ddes i o hyd i nifer o drysorau hanesyddol yr ardal. O drysorau’r traeth i’r rhai ar gopa’r mynyddoedd, gallwch ddarganfod olion diwydiannol chwarelyddol a ffermio’r cwm a hyd yn oed olion yn dyddio nôl i Oes yr Haearn a goresgyniad y Rhufeiniaid.

Roeddwn yn ffodus i gael fy mhenodi yn Brif Gogydd yn y Nant ym mis Ionawr. Cyfle gwych i fi gael gweithio yn un o lefydd prydferthaf ac o bwysigrwydd ddiwylliannol mwyaf Pen Llŷn a thu hwnt. Roedd ei gweledigaeth i’r dyfodol a’r cynlluniau ar gyfer yr adran arlwyo’n gweddu’n berffaith i fy angerdd at goginio gyda cynnyrch lleol, fel y rhiwbob sy’n cael ei dyfu yn y Nant a’i ddefnyddio yn ein pwdinau, er enghraifft. Mae’r amrywiaeth a’r hyblygrwydd arlwyo sy’n cael ei gynnig yn Caffi Mienir, o’r priodasau i’r cynadleddau, i’r criwiau dysgu Cymraeg, yn golygu mod i’n cael cynllunio a coginio amrywiaeth o brydau ffres (ffarwél i goginio’r un pethau bob dydd!). Roedd hwn yn gyfle gwych ac â minnau wedi fy ngeni a hyfforddi yn Ffrainc (nes i symud i’r DU yn 1998), dwi bellach gallu defnyddio fy ngwreiddiau ac fy mhrofiadau i greu prydau sy’n defnyddio cynnyrch Cymreig.

Mae’r iaith Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol yn greiddiol i’r safle. Sylfaenol oedd lefel fy Nghymraeg pan ddechreuais yn fy swydd, ond mae’r Nant yn weithle sy’n buddsoddi yn ei staff. I fy helpu i ddatblygu fy Nghymraeg, ges i gynnig mynychu cyrsiau Cymraeg ar y safle. Ym mis Chwefror, mynychais fy nghwrs cyntaf, lefel Mynediad 2 dan arweiniad y tiwtoriaid gwych sy’n gweithio yn y Nant. Yn y gorffennol, roeddwn wedi dysgu Cymraeg drwy fynychu un wers yr wythnos, felly roedd y syniad o ddysgu Cymraeg am wythnos gyfan yn codi ofn arna i. Ond buan iawn y ciliodd hynny. Roedd dulliau dysgu’r tiwtoriaid, er yn ddwys, yn gwneud y Gymraeg yn ddiddorol ac yn gyffrous i’w dysgu. Roedd fy nghyd-fyfyrwyr i gyd yn yr un gwch a pawb ar lefel tebyg. Roedd y tiwtoriaid yn llwyddo i greu awyrgylch oedd yn annog dysgu ac hynny mewn ffordd gyfeillgar. Roedd lefel y dysgu yn addas i bawb er mwyn sicrhau bod ni’n cyrraedd ein amcanion.

Nes i gyfarfod criw o bobl clên iawn, ac roeddwn yn falch o allu rhannu fy ngwybodaeth o’r ardal efo nhw; cawsom hefyd fwynhau cwpwl o nosweithiau difyr o adloniant, yn dysgu sut i glocsio ac yn canu caneuon gwerin. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad ac yn aml yn rhannu cyngor ac ymarfer gyda’n gilydd. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn wych hefyd, yn helpu fi i ymarfer, a thrwy eu hamynedd a’u cefnogaeth dwi’n gallu cymysgu’n well.

Roedd y cwrs hefyd yn rhoi cyfle i fi weld pa fath o bobl sy’n dod i’r Nant i ddysgu Cymraeg, beth yw disgwyliadau pobl o’r Nant a sut gallwn ni fel staff roi’r profiad gorau posib iddyn nhw.

Dwi’n edrych ymlaen at yr antur newydd hon, i ddatblygu fy hun ac i fod yn rhan o ddatblygiadau’r Nant yn y dyfodol…. ac wrth gwrs, i fwynhau’r milltiroedd o lwybrau arfordirol a mynyddig sydd o fy nghwmpas.

feeb