Mae dysgu Cymraeg o bell yn derm sydd wedi dod yn fwfwy cyfarwydd yn 2020 wrth i’r dull rhithiol o ddysgu gymryd lle dysgu traddodiadol mewn ystafell ddosbarth. Un o brif fanteision dysgu o bell yw’r ffaith bod unrhyw berson, o unrhyw le yn y byd, yn gallu dilyn cyrsiau Cymraeg y Nant.
A dyma’n union y mae Richard Llewellyn yn ei wneud…a hynny o’i gartref yn Perth, Awstralia. Daw Richard yn wreiddiol o Ferthyr Tydfil a mudodd i Seland Newydd 30 mlynedd yn ôl, cyn ymgartrefu yn Perth 6 mlynedd yn ddiweddarach ble mae o’n gweithio fel nyrs.
Dywedodd Richard: “Dwi’n dod yn wreiddiol o Gymru, ond fel yn achos cenhedlaeth fy rhieni hefyd, nes i ddim dysgu Cymraeg er bod cenedlaethau hŷn ac ifancach yn ein teulu yn rhugl.
“Bob tro dwi’n dod adref, dwi’n ysu am gael deall Cymraeg ac o’r diwedd wedi penderfynu gwneud rhywbeth am y peth. Fel y gallwch ddychmygu, does dim llawer o gyfleoedd i bobl sy’n byw yng Ngorllewin Awstralia ymarfer, ond yna daeth Covid a chyfleoedd newydd i ddysgu ar-lein.
“Nes i fwyhau’r cwrs yn fawr a dwi wedi cofrestru’n barod ar gyfer un arall. Mae Mathew yn diwtor mor dda. Roedd o’n creu awyrgylch sy’n annog ac yn gefnogol ond hefyd yn glynu wrth strwythur y dysgu, ac mae’n cymryd dipyn o sgil i gyfuno’r pethau hyn. Oni’n mwynhau’r hiwmor a’r sgil yn y dysgu, mae Mathew yn amlwg yn ddyn sy’n adnabod ei grefft.
“Sefydlwyd y Nant i ddysgu Cymraeg a dyma’r rheswm am ei fodolaeth. Mae’n rhagori yn y maes dysgu Cymraeg a dyna pam y byddwn i’n argymell eraill i ddilyn cwrs efo Nant Gwrtheyrn. Pan fydd Covid drosodd, dwi’n edrych ymlaen at gael ymweld â’r Nant.”
Fel Richard, gallwch chithau ddysgu Cymraeg o ble bynnag yr ydych yn y byd gyda chanolfan Iaith enwocaf Cymru. Mae gan y Nant ddewis o gyrsiau Cymraeg dwys rithiol ar gyfer pob lefel. Am fwy o fanylion ewch i: https://nantgwrtheyrn.cymru/cyrsiaucymraeg/nantgwrtheyrn.org/languagecourses/